Ewch i’r prif gynnwys

Datblygu a chymeradwyo rhaglenni

Mae ein proses datblygu a chymeradwyo rhaglenni'n sicrhau bod unrhyw ddyfarniad penodol gan Brifysgol Caerdydd o safon academaidd briodol a byddwn yn darparu profiad dysgu gwerthfawr ac ysgogol i'n myfyrwyr.

Dyluniwyd y polisi datblygu rhaglenni i fod ochr yn ochr â'r polisi darpariaeth gydweithredol, i sicrhau ei fod yn dal i gefnogi prosesau mewnol sy'n gweithio'n effeithiol ac yn effeithlon, a bodloni'n llawn y disgwyliadau a'r arferion a nodir yng Nghôd Ansawdd y DU ar gyfer Addysg Uwch a'r Safonau a Chanllawiau ar gyfer Sicrwydd Ansawdd yn Ardal Addysg Uwch Ewrop (ESG).

Programme development policy (Welsh)

Programme Approval Policy (Welsh version)

Mae'r cam hwn yn mynd i'r afael â'r cwestiwn 'Mewn egwyddor, pam ydym ni am wneud hyn?'.  Yr amcan allweddol yw sefydlu a yw'r cynnig yn cyfiawnhau buddsoddi amser ac ymdrech y bydd ei angen yn y camau dilynol ac a fydd yn y pen draw yn darparu'r enillion a ddymunir ar fuddsoddiad i'r Ysgol a'r Brifysgol.

Rhaglenni gyda phartneriaid allanol

Os yw eich cynnig yn cynnwys datblygu rhaglen (neu ran o raglen) gyda phartner allanol naill ai yn y DU neu dramor, bydd angen trafod hyn yn fanwl gyda'ch Coleg.  Mae cymeradwyaeth yn gofyn am adnoddau ac amser penodol gan fod pob trefniant yn unigol o ran ei natur.

Amlinellir y trefniadau llywodraethu ar gyfer sefydlu, datblygu a monitro'r holl weithgarwch partneriaeth allanol yn Nhacsonomeg Partneriaethau Addysg. Bydd hyn yn eich galluogi i ddeall yn llawn yr hyn sy'n ofynnol ar gyfer pob math o drefniant partneriaeth addysg, y risgiau cysylltiedig a'r hyn sydd ei angen i liniaru'r risg.

Bydd angen i unrhyw gynigion o'r fath barhau i gwblhau pob cam o'r weithdrefn gymeradwyo a nodir isod gan gynnwys unrhyw ofynion ychwanegol yn seiliedig ar natur a chymhlethdod y cynnig.  Mae manylion llawn yr holl ofynion i'w gweld yn y Polisi Darpariaeth Gydweithredol.

Datblygwyd cyfres o Ddisgwyliadau Sefydliadol ar gyfer strwythur, dyluniad a darpariaeth rhaglenni sy'n amlinellu'r gofynion sylfaenol allweddol a ddylai fod yn rhan o holl raglenni Caerdydd. Mae pob adran yn amlinellu'r disgwyliadau penodol yn ogystal â chyngor ac arweiniad ar sut i archwilio'r pynciau ymhellach.

Ni fyddwch yn cael eich cyfyngu i drafod y gofynion sylfaenol yn unig, ond rhaid iddynt fod yn rhan glir o'r cynnig.  Mae gan yr Academi Dysgu ac Addysgu ystod eang o arbenigedd i gefnogi gyda datblygu eich cynigion y tu hwnt i'r gofynion sylfaenol.

Pan fydd Cadeirydd y Panel Sefydlog Rhaglenni a Phartneriaid wedi cadarnhau bod yr holl amodau wedi cael eu bodloni, gellir gwneud argymhelliad i’r Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr i’w chymeradwyo ar ran y Pwyllgor Safonau ac Ansawdd Academaidd (ASQC).

Tîm Ansawdd a Safonau

Academi Dysgu ac Addysgu Caerdydd