Ewch i’r prif gynnwys

Adolygiad gwella ansawdd

Adolygiad Gwella Ansawdd yw’r dull y caiff darparwyr addysg uwch yng Nghymru eu hadolygu fel rhan o Fframwaith Asesu Ansawdd Cymru. Mae’n darparu ffordd unigryw o gynnal adolygiadau sefydliadol. Cafodd ei ddatblygu i fynd i’r afael â chyd-destun penodol y sector addysg uwch yng Nghymru.

Diben yr adolygiad yw dangos bod safonau ac ansawdd addysg mewn prifysgolion yng Nghymru yn briodol yn ôl set o ofynion rheoleiddiol sylfaenol. At hynny, bydd yr adolygiad yn canolbwyntio ar y ffordd yr ydym yn cynllunio, gweithredu a gwerthuso mesurau sydd â’r bwriad o wella’r profiad dysgu i fyfyrwyr, gan roi sylw i fwriadau strategol y Brifysgol.

Adolygiad Gwella Ansawdd 2020

Cwblhaodd yr Asiantaeth Sicrwydd Ansawdd (QAA) ein Hadolygiad Gwella Ansawdd ym mis Mawrth 2020, ac mae'r canlyniad ar gael bellach.

Yn rhan o'n dadansoddiad hunan-werthuso fe wnaethom ofyn i dîm adolygiadau QAA ystyried y meysydd canlynol:

  • lleoliadau a chyflogadwyedd
  • profiad rhyngwladol a symudedd myfyrwyr
  • llais y myfyrwyr
  • partneriaeth a chefnogaeth myfyrwyr.

Cadarnhaodd y tîm adolygu bod y brifysgol yn bodloni gofynion Safonau a Chanllawiau Ewropeaidd (ESG) Rhan 1 o ran sicrwydd ansawdd mewnol, a gofynion rheoleiddiol gwaelodlin perthnasol Fframwaith Asesu Ansawdd Cymru.

Ni wnaeth y tîm adolygu unrhyw argymhellion oedd yn nodi materion yr oedd angen i’r brifysgol eu datrys.

Gwnaethant ganmol y cyfleoedd a ddarperir gan CUROP (Rhaglen Cyfleoedd Ymchwil Israddedig Caerdydd) i fyfyrwyr ymgysylltu â gweithgareddau ymchwil er mwyn gwella eu dysgu a'u cyfleoedd gyrfaol yn y dyfodol.

Cyfeiriodd y tîm adolygu hefyd at arferion calonogol presennol y brifysgol. Yn benodol, roeddent yn falch o weld:

  • ein perthynas waith agos ag Undeb y Myfyrwyr
  • y gefnogaeth a ddarperir a'r mentrau sydd ar gael i fyfyrwyr
  • y gymuned ymchwil ôl-raddedig sy'n cael ei sefydlu drwy'r Academi Ddoethurol
  • datblygiad a hyrwyddiad y cwricwlwm cyfrwng Cymraeg yn yr Ysgol Meddygaeth a'r Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol
  • trefniadau lleoliadau i'n myfyrwyr ac ymgysylltiad â darparwyr lleoliadau.

Cynllun Gweithredu Adolygiad Gwella Ansawdd

Mae’r cynllun gweithredu wedi’i ddatblygu ar y cyd rhwng y brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr. Rhan annatod o'r broses QER yw datblygu cynllun gweithredu ar ôl yr ymweliad adolygu.

Y Pwyllgor Safonau ac Ansawdd Academaidd (ASQC) fydd yn monitro sut y rhoddir y cynllun gweithredu ar waith a bydd cynnydd yn erbyn gweithredoedd yn cael ei gynnwys yn yr Adroddiad Ansawdd Blynyddol a gyflwynir i'r Senedd a'r Cyngor.

Rhoddwyd diweddariadau terfynol ar raglen CUROP i’r Pwyllgor Safonau ac Ansawdd Academaidd yn ei gyfarfod ar 9 Tachwedd 2022. Mae'r camau a gymerwyd cyn 2022/23 i wella CUROP yn cwblhau cynllun gweithredu’r Adolygiad Gwella Ansawdd. O ganlyniad, cadarnhaodd y Pwyllgor Safonau ac Ansawdd Academaidd y gellid gorffen y cynllun gweithredu.

QER Plan-en_gb-cy-C.pdf

Mae'r Adolygiad Gwella Ansawdd (QER) yn cael ei gynnal bob chwe blynedd, a thrwy'r dull hwn y caiff darparwyr addysg uwch yng Nghymru eu hadolygu gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (QAA) o dan Fframwaith Asesu Ansawdd (QAF) Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW).

Adroddiad Ansawdd Blynyddol

Mae’r Adroddiad Ansawdd Blynyddol yn rhoi trosolwg cyfannol o weithredu a chanlyniadau systemau rheoli ansawdd academaidd y brifysgol yn ystod pob sesiwn academaidd, ac mae’r Cyngor yn ei dderbyn bob blwyddyn yn unol â'r Côd Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch.

Mae'r adroddiad yn nodi holl elfennau'r system ansawdd academaidd ac yn eu hystyried, gan gynnwys gweithgareddau sicrwydd ansawdd, gwella, asesu a derbyn myfyrwyr ac mae’n cadarnhau bod yr holl brosesau a’r gweithdrefnau’n cael eu hadolygu'n rheolaidd a bod gweithgarwch gwella yn ymateb i adborth a gofynion allanol.

Mae pob adran yn nodi gwelliannau a chamau gweithredu, sy’n sicrhau bod y system ansawdd academaidd yn parhau i esblygu ac yn defnyddio dull cymesur, seiliedig ar risg i fynd i'r afael â materion sy’n ymwneud â safonau ac ansawdd academaidd. Yn ogystal, nodwyd statws risg ar gyfer pob maes gweithgaredd i dynnu sylw at feysydd sy'n peri pryder gyda'r camau gweithredu wedi’u nodi.