Ewch i'r prif gynnwys
Dogfen

Monitoring and Review policy

Cwmpas ac Eithriadau

O 1 Awst 2022, mae'r polisi hwn yn darparu trosolwg o'r prosesau monitro ac adolygu ar gyfer pob modiwl/rhaglen gyda chredydau sy'n arwain at ddyfarniad Prifysgol Caerdydd (gan gynnwys darpariaeth gydweithredol, astudio dramor a modiwlau/rhaglenni ar leoliad).  Mae'n caniatáu inni archwilio'r hyn sy'n gweithio'n dda a beth sydd angen ei wella.

Mae monitro ac adolygu yn rhan allweddol o fecanweithiau'r Brifysgol ar gyfer rheoli ansawdd a safonau ac mae'n cadarnhau sut rydym yn parhau i fodloni ein gofynion rheoliadol a nodir yn y disgwyliadau a'r arferion yng Nghod Ansawdd y DU ar gyfer Addysg Uwch a'r Safonau a Chanllawiau Ewropeaidd (ESG) ar gyfer sicrhau ansawdd mewnol.

Mae'r polisi hwn yn amlinellu sut mae ein prosesau monitro ac adolygu yn rhyng-gysylltiedig gan osgoi unrhyw ddyblygu gwaith diangen. Mae ein prosesau yn defnyddio data sydd ar gael trwy'r fframwaith rheoli arolwg, gwerthuso modiwlau a chanlyniadau, adroddiadau arholwyr allanol yn ogystal â barn cyrff achredu proffesiynol neu reoleiddiol i alluogi trafodaethau ar yr adeg briodol yn y cylch academaidd fel y gellir gweithredu ar unwaith pan fydd yn cael yr effaith fwyaf.

Eithriadau

Modiwlau/rhaglenni di-gredyd nad ydynt yn arwain at ddyfarniad Prifysgol Caerdydd

Mae'r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o fodiwlau/rhaglenni nad ydynt yn cynnwys credydau, nad ydynt yn arwain at ddyfarniad Prifysgol Caerdydd. Disgwylir y bydd monitro ac adolygu'r holl ddarpariaeth nad yw'n cynnwys credydau yn dilyn yr egwyddorion a nodir yn y Polisi hwn. Mae rhai rhaglenni nad ydynt yn cynnwys credydau wedi'u hachredu gan gyrff proffesiynol allanol ac o'r herwydd gallant hefyd fod yn ddarostyngedig i'w polisïau a'u harferion o ran sicrhau ansawdd.

Trosolwg sefydliadol

Cymeradwywyd y Polisi hwn gan y Pwyllgor Safonau ac Ansawdd Academaidd (ASQC) ym mis Mai 2022 ac fe’i cymeradwywyd gan y Senedd ym mis Mehefin 2022.  Bydd yn cael ei adolygu'n rheolaidd i sicrhau ei fod yn parhau i gefnogi prosesau mewnol sy'n gweithredu'n effeithlon ac yn effeithiol ac i gyflawni'r disgwyliadau a'r arferion a nodir yng Nghod Ansawdd Addysg Uwch y DU ac adran 1.5 ac 1.9 o'r Safonau a Chanllawiau Ewropeaidd yn llawn (ESG) ar gyfer sicrhau ansawdd mewnol.

Mae ein prosesau monitro ac adolygu wedi’u hamlinellu yn erbyn disgwyliadau Côd Ansawdd y DU ac arferion craidd a chyffredin ochr yn ochr â’r cyngor ac arweiniad ategol ar gyfer Dylunio a Datblygu Cyrsiau, Partneriaethau, Monitro a Gwerthuso, Asesu, Galluogi Myfyrwyr i Gyflawni, Arbenigedd Allanol, Ymgysylltu â Myfyrwyr a Dysgu yn y Gwaith fel y bo’n briodol.

Yn ogystal, mae ein prosesau wedi'u mapio yn erbyn safon 1.9 o'r Safonau a Chanllawiau Ewropeaidd (ESG) ar gyfer sicrhau ansawdd mewnol gyda pherthynas benodol â monitro parhaus ac adolygu rhaglenni o bryd i'w gilydd.

Côd ansawdd y deyrnas unedig ar gyfer addysg uwch

Disgwyliadau o ran safonauDisgwyliadau o ran ansawdd
Mae safonau academaidd cyrsiau yn bodloni gofynion y fframwaith cymwysterau cenedlaethol perthnasol.Mae cyrsiau wedi'u dylunio'n dda, ac yn rhoi profiad academaidd o safon uchel i bob myfyriwr, ac yn galluogi ffordd ddibynadwy o asesu cyrhaeddiad myfyriwr.
Mae gwerth y cymwysterau a ddyfernir i fyfyrwyr wrth iddynt gymhwyso a thros amser, yn unol â'r safonau a gydnabyddir gan y sector.O gael eu derbyn hyd at gwblhau, caiff yr holl fyfyrwyr y cymorth sydd ei angen arnynt i lwyddo mewn addysg uwch, ac elwa arno.
Arferion craidd o ran safonauArferion craidd o ran ansawdd
Mae’r darparwr yn sicrhau bod safonau’r trothwy ar gyfer ei gymwysterau yn gyson â’r fframweithiau cymwysterau cenedlaethol perthnasol.
Mae’r darparwr yn dylunio ac/neu’n cyflenwi cyrsiau o ansawdd uchel.
Mae'r darparwr yn sicrhau bod myfyrwyr y dyfernir cymwysterau iddynt yn cael y cyfle i gyflawni safonau y tu hwnt i'r trothwy y gellir eu cymharu'n rhesymol â'r rheiny a gyflawnir mewn darparwyr eraill yn y DU.Pan fydd darparwr yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill, mae ganddo drefniadau effeithiol ar waith i sicrhau bod y profiad academaidd o ansawdd uchel waeth ble neu sut y caiff cyrsiau eu cyflwyno a phwy sy'n eu darparu.
Pan fydd darparwr yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill, bydd wedi gosod trefniadau effeithiol er mwyn gwneud yn siŵr bod safonau ei ddyfarniadau'n gredadwy ac yn ddiogel waeth ble neu ym mha fodd y darperir cyrsiau, neu bwy sy'n eu darparu.Mae'r darparwr yn cefnogi pob myfyriwr i lwyddo yn academaidd ac yn broffesiynol.
Mae’r darparwr yn defnyddio arbenigedd allanol, prosesau asesu a dosbarthu sy’n ddibynadwy, teg a thryloyw.Mae gan y darparwr gyfleusterau, adnoddau dysgu a gwasanaethau cynorthwyo myfyrwyr digonol a phriodol er mwyn darparu profiad academaidd o safon uchel.
 Mae gan y darparwr staff cymwysedig digonol sy'n meddu ar sgiliau i gynnig profiad academaidd o safon uchel.
 Pan fydd y darparwr yn cynnig graddau ymchwil mae’n cyflawni’r rhain mewn amgylcheddau ymchwil priodol a chefnogol.
 Mae'r darparwr yn ymgysylltu'n weithredol â myfyrwyr, yn unigol ac ar y cyd, o ran safon eu profiadau academaidd.
 Mae gan y darparwr weithdrefnau teg a thryloyw ar gyfer mynd i’r afael â chwynion ac apeliadau sydd ar gael i bob myfyriwr.
Arferion cyffredin o ran safonauArferion cyffredin o ran ansawdd
Mae’r darparwr yn adolygu ei arferion craidd ar gyfer safonau’n rheolaidd ac yn defnyddio’r canlyniadau i achosi gwelliant.Mae’r darparwr yn adolygu ei arferion craidd ar gyfer ansawdd yn rheolaidd ac yn defnyddio’r canlyniadau i achosi gwelliant.
 Mae agwedd y darparwr tuag at reoli ansawdd yn cymryd i ystyriaeth arbenigedd allanol.
 Mae'r darparwr yn ymgysylltu â myfyrwyr yn unigol ac ar y cyd wrth ddatblygu, gwarantu a gwella safon eu profiad academaidd.

Adran 1: egwyddorion allweddol

Mae'r prosesau monitro ac adolygu a amlinellir yn y polisi hwn wedi'u cynllunio mewn perthynas ag egwyddor arweiniol o gyfrifolaeth, sy'n cefnogi prosesu busnes y Brifysgol yn effeithlon wrth sicrhau trylwyredd a chraffu priodol.

Rydym wedi ymrwymo i fonitro ein modiwlau a'n rhaglenni yn rheolaidd er mwyn:

  • cynnal safonau academaidd a pharhau i fodloni ein gofynion rheoliadol a nodir yn y disgwyliadau a'r arferion yng Nghod Ansawdd y DU ar gyfer Addysg Uwch a'r Safonau a Chanllawiau Ewropeaidd (ESG) ar gyfer sicrhau ansawdd mewnol
  • sicrhau bod aliniad parhaus â gofynion y BGC (lle bo hynny'n berthnasol)
  • hwyluso gwelliant parhaus yn y ddarpariaeth i adlewyrchu datblygiadau yn y sector, y sefydliad, a’r ddisgyblaeth

Rydym yn cydnabod bod y broses o fonitro a gwella modiwlau a rhaglenni yn ailadroddol ac yn digwydd trwy ystod o fecanweithiau anffurfiol a ffurfiol. Mae monitro ac adolygu yn rhoi cyfle diffiniedig i Golegau ac Ysgolion gymryd golwg gyfannol o'r modiwl/rhaglen(ni) a'r amgylchedd lle mae dysgu ac addysgu yn digwydd, gan dynnu ynghyd dystiolaeth ac arsylwadau o ystod o ffynonellau mewnol ac allanol, er mwyn nodi'r camau sydd i'w cymryd ac adrodd ar y cynnydd sy'n cael ei wneud yn ôl yr angen.

Mae monitro ac adolygu yn broses academaidd sy'n cael ei hategu gan adolygiad cymheiriaid a chynnwys myfyrwyr yn wybodus. Mae monitro modiwlau a rhaglenni yn canolbwyntio ar risg ac yn cyd-fynd ag Is-Strategaeth Addysg y Brifysgol.

Mae'r Pwyllgor Safonau Academaidd ac Ansawdd (ASQC) yn gyfrifol am fonitro dangosyddion craidd ansawdd a safonau ar draws y sefydliad gan adrodd yn flynyddol i'r Senedd a'r Cyngor ar berfformiad trwy'r Adroddiad Ansawdd Blynyddol.

Adran 2:  adolygu a gwella blynyddol

Mae'r broses flynyddol o adolygu a gwella (ARE) yn rhoi’r cyfle i bob Ysgol, Coleg a Phrifysgol oedi a myfyrio ar ein darpariaeth addysg - beth sydd wedi gweithio'n dda a pha newidiadau sydd angen eu rhoi ar waith?

Cydlynir y broses ar lefel Coleg ac fe’i datblygir o gwmpas portffolio o dystiolaeth sy'n gysylltiedig â gofynion rheoleiddiol sylfaenol a gweithgareddau gwella sefydliadol. Mae ein dull diwygiedig yn seiliedig ar yr egwyddorion canlynol:

Ar sail tystiolaeth

Mae'r broses yn defnyddio amrywiaeth o ddata sy'n sail i bob maes ffocws, gan eich galluogi i gael dull gweithredu strategol a lleol i adolygu a datblygu. Bydd Ysgolion yn gallu trafod y data yr adeg mae'n dod ar gael gan roi cyfle i chi wneud argymhellion a gweithrediadau pan fydd yn cael y mwyaf o effaith.

Cyfraneddol

Dyluniwyd y broses i gyfrif am faint a siâp pob Ysgol - nid dull ‘un maint i bawb’ yw hwn. Mae'n bwysig bod pob Ysgol yn myfyrio ar yr holl ddata, ond ni fydd angen i gynlluniau gweithredu oni bai bod y data’n nodi bod y canlyniadau'n ffiniol neu’n is na’r meincnod yn unig.

Yn amserol

Yn hytrach na llunio un adroddiad ARE Ysgol bob blwyddyn, mae’r broses wedi’i llunio i alluogi trafodaethau pan fydd y data'n dod ar gael. Mae hyn yn osgoi unrhyw achosion o ddyblygu ymdrechion a gellir rhoi trafodaethau canlyniadau ar waith heb orfod aros tan ddiwedd y cylch academaidd.

Cysylltiadau

Mae trafodaethau a gynhelir drwy'r Fframwaith Rheoli Arolwg a Gwella Modiwlau wedi cael eu hintegreiddio i'r broses ARE ac felly'n osgoi ailadrodd ac yn ein galluogi i gael ffocws strategol. Mae hyn yn rhoi dull gweithredu cyson ar draws y sefydliad i gynllunio camau gweithredu a monitro a gaiff eu cofnodi drwy gwblhau un Cynllun Gwella Profiad y Myfyrwyr Ysgol (SEEP)/cofnod gweithredu.

Meysydd ffocws dan sylw

Caiff y meysydd ffocws eu hadolygu bob blwyddyn gan y Pwyllgor Safonau ac Ansawdd Academaidd i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn addas i'r diben ac mae cysylltiadau clir â gofynion rheoleiddiol allanol a gweithgaredd gwella sefydliadol.

Cynllunio Gweithredu

Anogir ysgolion i fod ag agwedd gydweithredol wrth ddatblygu eu Cynllun Gwella Profiad Myfyrwyr neu’r cofnod gweithredu gan ganiatáu ar gyfer rhannu cyfrifoldeb am bob gweithred.  Fe'i cynlluniwyd i fod yn ddogfen fyw, weithredol gyda'r ffocws ar ddatblygu nifer gyfyngedig o gamau SMART y gall pob Ysgol eu cyflawni'n hyderus. Dylai ganolbwyntio ar sut caiff unrhyw strategaethau ymyrraeth eu hadolygu a’r effaith ei hasesu gan nodi amserlenni penodol.

Trosolwg sefydliadol

Yng nghyfarfod olaf y flwyddyn, mae'r Pwyllgor Safonau ac Ansawdd Academaidd yn cael adroddiadau ARE y Coleg sy'n darparu trosolwg o drafodaethau ag Ysgolion gan gynnwys sicrwydd y bydd Ysgolion a nodwyd fel 'mewn perygl' o ddisgyn yn is na'r meincnod mewn sawl maes ffocws, yn cael cynlluniau gweithredu sy'n mynd i'r afael yn benodol â meysydd i'w gwell ynghyd ag amserlenni gwerthuso.

Yn ogystal, mae pob Coleg yn darparu trosolwg o weithrediad y broses, gan adrodd ar feysydd cryfder a meysydd y mae angen eu datblygu ymhellach yn yr Adroddiad Ansawdd Blynyddol a gyflwynir i'r Senedd a'r Cyngor.

Adran 3: Y fframwaith rheoli arolygon

Mae'r Fframwaith Rheoli Arolwg yn darparu gwell sicrwydd ynghylch rheolaeth a chamau gweithredu canlyniadau arolwg, ynghyd â fframwaith i ddathlu a rhannu'r arfer rhagorol sy'n amlwg. Nodweddir y dull hwn gan:

  • ryddhau data yn amserol a ffocws ar berfformiad sector/meincnod.
  • trafodaethau strwythuredig gydag Ysgolion i ganolbwyntio ar berfformiad rhagorol; a meysydd a allai fod angen gwella a chefnogi.
  • dull cyson ar draws y sefydliad o gynllunio a monitro gweithredu.

Llais y Myfyrwyr

Mae'r Fframwaith Rheoli Arolygon yn defnyddio ystod o ddata llais myfyrwyr, gan gynnwys canlyniadau NSS, PTES a PRES i gynnal trafodaethau gyda phob Coleg a phob Ysgol. Mae pob Ysgol yn paratoi Cynlluniau Gwella Profiad Myfyrwyr (SEEP) gan adlewyrchu ar y canlyniadau ac unrhyw gamau sy'n dilyn. Mae'r cynlluniau hyn yn rhoi sicrwydd i ni fod profiad y myfyriwr yn cael ei reoli a'i wella. Yn ogystal, mae pob un o'r tri Choleg yn adlewyrchu'r cwestiynau hynny sy'n perfformio o dan y meincnod.

Gwella Modiwlau

Mae Gwella Modiwlau yn caniatáu i staff gasglu adborth gan fyfyrwyr ar lefel fodiwlaidd.  Mae ymgysylltu â'n myfyrwyr a chymryd amser i gasglu ac ymateb i adborth yn agwedd hanfodol ar yr is-strategaeth Addysg a Myfyrwyr ac yn un o'r ffyrdd y gallwn ddangos ein bod yn gweithredu ar adborth myfyrwyr. Drwy wrando ar ein myfyrwyr, a gweithio ar y cyd â nhw, gallwn ni fod yn weithredol o ran gwella profiad myfyrwyr.

Hwylusir canlyniadau trafodaethau ar ddata Gwerthuso Llais a Gwella Modiwlau trwy'r broses ARE i ganiatáu monitro camau mwy systematig mewn ymateb i adborth modiwl ac arolwg gan fyfyrwyr. Mae'r dadansoddiad o ddata meintiol ac ansoddol yn nodi meysydd posibl ar gyfer gweithredu ac yn tynnu sylw at arfer da ac yn sicrhau bod camau y cytunwyd arnynt yn cael eu tracio a bod effaith y camau a gymerir yn cael eu hasesu mewn cyfnodau adolygu dilynol mewn cylch gwella parhaus.

Monitro Cynnydd Myfyrwyr Ymchwil

Mae ein Polisi a'n Gweithdrefn ar Fonitro Myfyrwyr Ymchwil yn canolbwyntio ar fyfyrwyr, yn bwrpasol ac yn ategu'r monitro parhaus sy'n rhan o oruchwyliaeth reolaidd. Mae'n cynnwys system o adrodd, adolygu ac adborth rheolaidd, wedi'i adeiladu o amgylch Cynllun Ymchwil y myfyriwr, ac mae'n orfodol i bob myfyriwr sydd wedi'i gofrestru ar gyfer graddau ymchwil (ac eithrio PhD gan Waith Cyhoeddedig a rhaglenni sydd wedi'u strwythuro'n helaeth ac sy'n cynnwys elfennau sylweddol a addysgir a amserlenni asesu adeiledig, megis MRes, DClinPsy, DEdPsy) gan gynnwys ymgeiswyr amser llawn, rhan-amser a staff.

Mae'r Weithdrefn yn cynnwys Adolygiad Cychwynnol (a gynhelir yn y flwyddyn gyntaf yn unig), Adolygiad Blynyddol ac Adolygiad Dros Dro (a gynhelir hanner ffordd rhwng yr Adolygiadau Blynyddol). Mae'r digwyddiadau monitro yn rhoi cyfle i'r myfyriwr a'i oruchwyliwr/goruchwylwyr fyfyrio ar gynnydd yn ystod y cyfnod adrodd, ail-werthuso anghenion hyfforddi, diweddaru'r Cynllun Ymchwil, a chodi pryderon am y trefniadau academaidd neu ymarferol i gefnogi'r prosiect. Mae'n caniatáu i'r myfyriwr a'i Ysgol fod yn hyderus bod y myfyriwr yn parhau i symud ymlaen ar gyfradd foddhaol a bod y trefniadau academaidd ac ymarferol sy'n cefnogi eu rhaglen yn parhau i fod yn ddigonol.

Os ystyrir cynnydd yn anfoddhaol, neu os bydd myfyriwr yn methu â chydymffurfio â gofynion y Weithdrefn, bydd y Cyfarwyddwr Astudiaethau Ymchwil Ôl-raddedig yn cwrdd â nhw i archwilio'r pryderon a llywio camau gweithredu priodol. Mae hyn yn rhoi cyfle i'r myfyriwr ddangos ei fod yn gallu gwella ei berfformiad yn erbyn set o amcanion yn ddigon da i aros wedi cofrestru ar y rhaglen.

Trosolwg sefydliadol

Mae monitro ac adolygu modiwlau a rhaglenni gan gynnwys ein rhaglenni ymchwil ôl-raddedig trwy broses ailddilysu newydd a Fframwaith Rheoli Arolwg integredig a Fframwaith Gwerthuso Modiwlau yn darparu mecanwaith cadarn wedi'i seilio ar dystiolaeth i Ysgolion fynd i'r afael ag unrhyw faterion ac i gynllunio gwelliannau i brofiad y myfyriwr.

Mae'r dull rhyng-gysylltiedig hwn yn bennaf trwy'r broses Adolygu a Gwella Blynyddol, yn sicrhau bod cynlluniau gweithredu Ysgolion yn cael eu monitro ar lefel sefydliadol ac yn parhau i fod yn unol â gofynion y Safonau a'r Canllawiau ar gyfer Sicrhau Ansawdd yn yr Ardal Addysg Uwch Ewropeaidd (ESG) Rhan 1 ( para 1.9) a'r disgwyliadau penodol ar gyfer safonau ac ansawdd a amlinellir yng Nghod Ansawdd y DU.

Adran 4: ailddilysu rhaglenni

Bydd ailddilysu rhaglenni o fewn amserlen weithgaredd ddiffiniedig yn rhoi cyfle i Ysgolion sicrhau bod eu portffolio o raglenni yn parhau i fod yn ffit yn strategol ac yn academaidd at y diben yn seiliedig ar yr egwyddorion canlynol:

  • Adolygiad trylwyr o bob portffolio Ysgolion gan sicrhau bod aliniad strategol â blaenoriaethau'r Brifysgol.
  • Mae pwrpas a nodau'r rhaglenni yn parhau i fod yn berthnasol ac wedi'u halinio â datganiadau meincnod pwnc.
  • Mae'r cynnwys a'r canlyniadau dysgu yn parhau i fod yn briodol ac ystyried effaith gronnus newidiadau, a gymeradwywyd gan y Bwrdd Astudiaethau, i raglenni a wneir dros amser.
  • Mae strwythurau rhaglenni a rheolau rhaglenni yn parhau i gael eu halinio â rheoliadau'r Brifysgol ac yn ymgorffori egwyddorion strwythur, dylunio a darparu rhaglenni Prifysgol Caerdydd, a phriodoleddau graddedigion Caerdydd, wrth gadw at y canllawiau ar asesu a'r strategaeth addysg ddigidol.
  • Lle bo hynny'n berthnasol, mae rhaglenni'n cwrdd â gofynion PSRB ac yn barod i'w hachredu.
  • Mae gwybodaeth y rhaglen a gyhoeddir yn parhau i fod yn gyfredol ac yn gywir, yn unol â'n cyfrifoldebau o dan y Gyfraith Diogelu Defnyddwyr.

Mae gan ailddilysu berthynas symbiotig â'r broses Adolygu a Gwella Blynyddol a'r broses Datblygu Rhaglenni wrth gefnogi Ysgolion lle amlygwyd bod angen newidiadau mawr i raglen neu lle mae Corff Proffesiynol, Statudol neu Reoleiddio (PSRB) wedi gwneud argymhellion sylweddol.

Trwy'r broses ailddilysu, gellid cyflawni unrhyw raglenni sydd angen newidiadau mawr i strwythur, dyluniad neu gyflwyniad heb orfod dyblygu ymdrech trwy'r broses ddatblygu rhaglenni gyfochrog.  Bydd paneli sy'n adolygu'r wybodaeth yn cynnwys cynghorydd allanol a bydd ganddynt ddigon o gymwysterau i argymell cymeradwyo'r newidiadau i ASQC trwy'r adroddiad ailddilysu.

Cynllunio Gweithredu

Fel y nodwyd yn Adran 1, bydd Ysgolion yn parhau i ddiweddaru eu Cynllun Gwella Profiad Myfyrwyr neu’r cofnod gweithredu fel rhan o'r broses ailddilysu i ganolbwyntio ar sut y bydd unrhyw strategaethau ymyrraeth yn cael eu hadolygu a'u hasesu effaith gyda llinellau amser penodol yn cael eu nodi. Y SEEP fydd y ddogfen gynhwysfawr sy'n cysylltu'r gweithredoedd o'r holl brosesau gyda'i gilydd i sicrhau bod dull cyson a chydlynol.

Trosolwg sefydliadol

Fel yr amlinellwyd yn Adran 1, bydd y Pwyllgor Safonau Academaidd ac Ansawdd yn derbyn adroddiadau ailddilysu Colegau sy'n darparu trosolwg o drafodaethau gydag Ysgolion gan gynnwys sicrwydd bod pob rhaglen yn parhau i fod yn addas yn bwrpasol yn strategol ac yn academaidd.

Yn ogystal, mae pob Coleg yn darparu trosolwg o weithrediad y broses, gan adrodd ar feysydd cryfder a meysydd y mae angen eu datblygu ymhellach yn yr Adroddiad Ansawdd Blynyddol a gyflwynir i'r Senedd a'r Cyngor.

Adran 5: rhaglenni gyda phartneriaid allanol

Rydym yn parhau i weithio gydag ystod eang o bartneriaid, gan gynnwys sefydliadau addysgol, yn y DU a thramor. Mae'r cydweithrediadau hyn yn caniatáu i'n myfyrwyr ennill profiad gwerthfawr mewn amgylchedd gwaith neu astudio.

Ystyriaeth allweddol wrth adolygu gweithgarwch ar y cyd yw p’un a yw cydweithredu â phartner yn fygythiad i safonau academaidd y Brifysgol a phrofiad y myfyrwyr, ac yn sgil hynny, enw da'r Brifysgol.  Mae diogelu'r rhain yn hollbwysig a rhaid gwneud yn siŵr mai dyna yw’r brif ystyriaeth wrth werthuso buddiannau unrhyw fath o gydweithredu.

Rydym yn defnyddio dull seiliedig ar risg o reoli ein trefniadau cydweithredol, gyda pholisïau sefydledig, gan sicrhau ein bod yn parhau i gydymffurfio â'r disgwyliadau a'r arferion craidd a chyffredin a amlinellir yng Nghod Ansawdd y DU, a'r cyngor a'r arweiniad ategol ar Ddylunio a Datblygu Cwrs, Partneriaethau, Monitro a Gwerthuso, Asesu, Galluogi Cyflawniad Myfyrwyr, Arbenigedd Allanol, Ymgysylltu â Myfyrwyr a Dysgu yn y Gwaith.

Goruchwyliaeth sefydliadol o bartneriaethau a rhaglenni cydweithredol a addysgir

Mae'r Rhaglen a'r Panel Sefydlog Partner yn goruchwylio partneriaethau cydweithredol a addysgir, gan adrodd i'r ASQC. Mae'r Panel Sefydlog yn sicrhau y gellir gwneud penderfyniadau ar gynigion darpariaeth gydweithredol yn fwy cyfannol, ac yng ngoleuni ystyriaeth dysgu, addysgu a phrofiad myfyrwyr ehangach, yn hytrach nag ar ei ben ei hun.  Mae hyn yn sicrhau dull integredig ac ystyriaeth academaidd a strategol briodol o unrhyw gynigion darpariaeth gydweithredol, gan gynnwys astudio dramor a dysgu lleoliad.

Adroddiadau safonwr ar gyfer rhaglenni cydweithredol a addysgir

Mae gan bob partneriaeth gydweithredol a addysgir Gymedrolwr a benodir gan ASQC. Fel rheol, bydd y Cymedrolwr yn uwch academydd o Goleg gwahanol gyda deiliadaeth am oes y cytundeb.

Bydd y Safonwr yn ymweld â’r sefydliad partner bob blwyddyn, ac yn darparu adroddiad ar gyfer pob blwyddyn o’r rhaglen neu’r trefniant. Mae'r Safonwr yn gweithredu ar ran y Brifysgol ac mae'r adroddiad yn cael ei ystyried gan y Bwrdd Astudio/Bwrdd yr Ysgol priodol cyn ei gyflwyno i'r Panel Sefydlog Rhaglenni a Phartneriaid sy'n atebol i'r ASQC.  Trwy'r adroddiad, bydd pob Cymedrolwr yn darparu dadansoddiad o:

  • ansawdd y rhaglenni a'r safonau a gyflawnir gan fyfyrwyr yn y sefydliad partner yn gymesur â’r rhai yn y Brifysgol;
  • effeithiolrwydd y trefniadau cyfathrebu, y trefniadau rheoli a’r trefniadau gweithredol sy'n sail i'r ddarpariaeth;
  • unrhyw gymorth ychwanegol sydd ei angen ar y sefydliad partner i weithredu a chynnal gofynion sicrhau ansawdd a gwelliant Prifysgol Caerdydd.

Bob blwyddyn, bydd y safonwr yn cynhyrchu adroddiad yn ymdrin â'r sesiwn academaidd flaenorol ac mae'n ofynnol i'r Ysgol ddarparu ymateb i'r adroddiad yn unol â phrosesau tebyg, fel y rhai ar gyfer Arholwyr Allanol. Mae’n rhaid i’r camau gweithredu y cytunwyd arnynt gan yr Ysgol mewn ymateb i adroddiad Safonwr gael eu hadrodd drwy’r broses Adolygiad a Gwelliant Blynyddol.  Yn ogystal, mae ein Byrddau Arholi yn derbyn adroddiadau arholwyr allanol i gadarnhau safon y dyfarniadau.

Cofnodir manylion yr holl gytundebau cydweithredol ffurfiol a addysgir ar ein Cofrestr Darpariaeth Gydweithredol, a gyhoeddir ar ein tudalennau gwe gwybodaeth gyhoeddus gyda phob trefniant yn nodi ei statws cysylltiedig, y math o gydweithrediad a'i risg. Mae hwn yn cael ei ddiweddaru'n flynyddol ar ôl derbyn adroddiad y safonwr.

Lleoliadau ac Astudio Dramor

Mae'r polisi Dysgu ar Leoliad ac Astudio Dramor yn safoni ein dull ar gyfer sefydlu, rheoli a monitro lleoliad lleoli credyd ac astudio dramor

Mae'r ddau bolisi wedi'u datblygu i sicrhau bod lefelau priodol o ddiwydrwydd dyladwy yn cael eu cynnal i amddiffyn safonau academaidd a sicrhau bod myfyrwyr yn cael profiad da.  Maent yn cadarnhau'r egwyddorion cyffredinol a nodir yn y polisi Darpariaeth Gydweithredol ac maent wedi’u hamlinellu yn erbyn disgwyliadau Côd Ansawdd y DU ac arferion craidd a chyffredin ochr yn ochr â’r cyngor ac arweiniad ategol ar gyfer Dylunio a Datblygu Cyrsiau, Partneriaethau, Graddau Ymchwil, Monitro a Gwerthuso ac Asesu, Galluogi Myfyrwyr i Gyflawni, ac Ymgysylltu â Myfyrwyr fel y bo’n briodol.

Nod y ddau bolisi yw sicrhau:

  • eglurder cyfrifoldeb am frocera'r trefniadau gyda phartneriaid (ar gyfer partneriaid astudio dramor gwneir hyn trwy'r tîm Cyfleoedd Byd-eang).
  • dull sy'n seiliedig ar risg, sy'n golygu cyn y gall unrhyw weithgaredd ac astudio dramor fynd yn ei flaen, mae pob partner yn cael ei asesu risg am ei allu i gyflawni'r amcanion addysgol ac unrhyw risg (iau) ehangach naill ai i'r myfyriwr neu'r Brifysgol.
  • mae pob cynnig partner (ac adnewyddiad) Astudio Dramor newydd yn cael ei ystyried gan y Rhaglen a'r Panel Sefydlog Partneriaid trwy'r broses Asesu Risg Partner Astudio Dramor.
  • yr holl raglenni Astudio ar Leoliad ac Astudio Dramor academaidd a ystyrir trwy'r Panel Sefydlog fel rhan o'r broses cymeradwyo rhaglenni.
  • gofynion ar gyfer Cytundeb Dysgu Myfyrwyr unigol yn amlinellu trefniadau penodol y cwricwlwm lleoliad/astudio dramor (a throsi gradd lle bo hynny'n briodol) y cytunir arno gyda myfyrwyr cyn iddynt adael ar gyfer eu gweithgaredd lleoliad/astudio dramor.

Y tîm Cyfleoedd Byd-eang sy'n gyfrifol am frocera a monitro'r trefniadau gyda'r partner astudio dramor, fodd bynnag, pob ysgol unigol sy'n gyfrifol am sicrhau y gweithredir ac y gweithredolir y disgwyliadau a'r arferion a nodir yng Nghod Ansawdd y Deyrnas Unedig ar gyfer Addysg Uwch.

Y tîm Cyfleoedd Byd-eang yn gyfrifol am gadw cofrestr astudio dramor sy'n cael ei hadolygu a'i diweddaru bob blwyddyn academaidd a'i chymeradwyo gan y Panel Sefydlog Rhaglenni a Phartneriaid a'i adrodd i'r ASQC.

Sefydliadau Partner Astudio Dramor

Mae hyn yn rhan hanfodol o’r broses o gymeradwyo a rheolaeth barhaus partneriaethau Astudio Dramor Sefydliadol, fel rhan o adeiladu’r berthynas â’r sefydliad partner ac o gefnogi’r Brifysgol i asesu a monitro’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r bartneriaeth. O'r herwydd, disgwylir i ymweliad safle diweddar a phriodol gael ei gwblhau cyn cymeradwyo partneriaethau. Felly, bydd sefydliadau partner yn ail-ymweld o leiaf unwaith bob 5 mlynedd. Mae Cyfleoedd Byd-eang yn cefnogi Ysgolion i gydlynu ymweliadau a darparu arweiniad ar ba dystiolaeth y dylid ei chasglu yn ystod ymweliadau.

Goruchwyliaeth sefydliadol o leoliadau ac astudio dramor

Mae'r Pwyllgor Safonau Academaidd ac Ansawdd yn cynnal goruchwyliaeth sefydliadol gweithgaredd lleoliadau ac astudio dramor. Fodd bynnag, rhaid i ysgolion sicrhau bod ffordd glir, effeithiol a chyfrinachol i fyfyrwyr ddarparu adborth tra'u bod ar leoliad/yn astudio dramor i amddiffyn y profiad myfyrwyr.  Mae adborth yn cael ei fonitro a'i werthuso trwy bob Bwrdd Astudio ac i'r Brifysgol trwy'r Broses Adolygu a Gwella Blynyddol.  Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth sy'n crynhoi:

  • nifer y myfyrwyr a chyflawniadau ar leoliad/yn astudio dramor;
  • unrhyw effaith o ganlyniad i niferoedd myfyrwyr cynyddol ar yr adnoddau sydd ar gael i gefnogi myfyrwyr;
  • adborth gan yr holl randdeiliaid;
  • myfyrio ar unrhyw raglenni/partneriaid newydd yn cael ei ychwanegu, ynghyd â sylwadau ar unrhyw newidiadau arfaethedig i wella lleoliadau/gweithgarwch astudio dramor mewn blynyddoedd i ddod;
  • adlewyrchiad o unrhyw faterion cydraddoldeb ac amrywiaeth sydd wedi'u codi;
  • unrhyw sylwadau eraill, gan gynnwys pwyntiau allweddol sy'n crynhoi unrhyw agweddau ar arfer da yr ystyriwyd eu bod yn arbennig o effeithiol.

Mae'r Pwyllgor Safonau Academaidd ac Ansawdd yn derbyn adroddiadau Coleg ARE yn ychwanegol at adroddiadau gan y Rhaglen a'r Panel Sefydlog Partneriaid ar feysydd cryfder a meysydd y mae angen eu datblygu ymhellach yn yr Adroddiad Ansawdd Blynyddol a gyflwynir i'r Senedd a'r Cyngor.

Adran 6: cyfranogiad myfyrwyr mewn monitro ac adolygu

Rydym yn falch o'n lefel o ymgysylltiad â'n corff myfyrwyr, gan roi cyfle i fyfyrwyr rannu eu barn a chymryd rhan fel partneriaid yn ein prosesau gwneud penderfyniadau. Mae'n elfen bwysig o'n system llywodraethu academaidd ac ansawdd ac yn cyflawni'r disgwyliadau a amlinellir yng Nghod Ansawdd Addysg Uwch y DU, gan dynnu sylw at y ffaith bod “darparwyr yn cymryd camau bwriadol i ymgysylltu â phob myfyriwr, yn unigol ac ar y cyd, fel partneriaid i sicrhau a gwella eu profiad addysgol”.

Mae myfyrwyr yn aelodau sefydledig o'n pwyllgorau llywodraethu allweddol, gan gynnwys: Cyngor; Senedd; ASQC, a'i is-bwyllgorau. Mae myfyrwyr hefyd yn chwarae rhan allweddol yn ein prosesau sicrhau ansawdd, gan chwarae rhan weithredol yn ARE, Ailddilysu, a'r Rhaglen a'r Panel Sefydlog Partneriaid.

Mae'r system cynrychiolwyr academaidd myfyrwyr yn aeddfed ac wedi'i hymgorffori, ac mae'n sicrhau bod myfyrwyr hefyd yn gallu darparu mewnbwn ar lefel Ysgol, trwy Baneli Myfyrwyr-Staff. Mae cynrychiolwyr academaidd myfyrwyr yn cael eu hyfforddi a'u cefnogi gan Undeb y Myfyrwyr.

Mae'r cyfraniad gweithredol a wneir gan ein myfyrwyr at wella dysgu ac addysgu a'n system ansawdd academaidd yn sicrhau ei fod yn cael ei lywio gan ac yn adlewyrchu persbectif y myfyriwr. Rydym yn gwerthfawrogi'r cyfraniadau a wneir gan ein myfyrwyr sy'n ein cefnogi i ddatblygu a darparu rhaglenni arloesol o ansawdd uchel.

Adran 7: pwyntiau cyfeirio allanol

Arholwyr allanol

Mae arholi allanol yn darparu rôl allweddol wrth gynnal ein safonau academaidd ac maent yn ofyniad rheoleiddio hanfodol wrth ddarparu allanoldeb fel rhan o'n prosesau monitro ac adolygu.

Mae’r rhai a benodir yn arholwyr allanol yn arbenigwyr yn eu maes, wedi’u tynnu o addysg uwch, diwydiant, neu gyrff proffesiynol. Maent yn rhoi trosolwg annibynnol a chyngor gwerthfawr. Maent hefyd yn gallu cynnig barn wybodus ynghylch sut mae ein safonau yn cymharu â’r un dyfarniadau neu rai tebyg mewn prifysgolion eraill.  Y ffordd sylfaenol y mae arholwyr allanol yn darparu sicrwydd am ansawdd a safonau ein darpariaeth a addysgir a’n darpariaeth ymchwil yw drwy gyflwyno adroddiad ysgrifenedig blynyddol.

Mae'n ofynnol i'n Arholwyr Allanol ar gyfer rhaglenni a addysgir wneud sylwadau ar y darn o asesu a chymaroldeb safonau rhwng modiwlau o'r un lefel FHEQ â darparwyr eraill yn y sector. Mae llawer o adroddiadau Arholwyr Allanol yn tynnu sylw at y modd yr ydym yn gyson yn rhagori ar y datganiadau meincnod gan ddangos bod ein modiwlau a'n rhaglenni yn cwrdd â gofynion y fframwaith cymwysterau cenedlaethol perthnasol ac yn unol â safonau a gydnabyddir gan y sector.

Ymdrinnir â materion a godir gan Arholwyr Allanol yn gyflym ac yn effeithiol ar y lefel briodol a gellir gweld hyn yn y nifer uchel o adroddiadau cadarnhaol a dderbynnir ac a gyhoeddir ar ein tudalennau gwe gwybodaeth gyhoeddus. Gwneir ymateb ysgrifenedig i'r holl Arholwyr Allanol sy'n mynd i'r afael ag unrhyw faterion a godir yn eu hadroddiad ac fe'i hanfonir fel ymateb sefydliadol.  Trafodir unrhyw faterion a nodwyd gan Arholwyr Allanol trwy bob Bwrdd Astudiaethau Ysgol yn ogystal ag adolygiad mwy cyfannol trwy'r broses Adolygu a Monitro Flynyddol.

Yn achos graddau ymchwil, rydym yn penodi arholwyr allanol i ddarparu asesiad diduedd ac annibynnol o'r traethodau ymchwil a gyflwynwyd i'w harchwilio, ac i roi sylwadau ar gymaroldeb ansawdd a safonau rhaglen gradd ymchwil y Brifysgol mewn perthynas â darparwyr eraill yn y DU, y dylai'r arholwr fod â phrofiad gyda nhw fel rheol. Gofynnir hefyd i Arholwyr Allanol wneud sylwadau ar feysydd arfer da a gwneud argymhellion ar gyfer gwella.  Adolygir yr adroddiadau gan dîm ymchwil ôl-raddedig pwrpasol yn y Gofrestrfa, ac adroddir am unrhyw sylwadau nodedig neu dueddiadau ymddangosiadol i Ddeon Ôl-raddedig perthnasol y Coleg.

Achrediad

Mae gennym ystod o raddau a addysgir ac ymchwil sydd wedi'u hachredu gan gyrff allanol ac o ganlyniad mae'n ofynnol i ni dystiolaethu bod ein rhaglenni'n cwrdd â safonau a meini prawf y corff achredu i sicrhau bod y myfyrwyr sy'n graddio o'r cymhwysedd priodol i fynd ymlaen yn eu proffesiwn a ddewiswyd.

Mae gan achrediad ffocws deuol; un i sicrhau'r safonau academaidd ac alinio â'r safonau meincnod a fframwaith cymwysterau priodol a'r llall i sicrhau bod yr holl safonau proffesiynol yn cael eu bodloni. I lawer o raglenni achrededig, cwblheir adolygiad o'r rhaglen ar sail gylchol sy'n sicrhau bod y rhaglen yn parhau i fod yn addas at y diben ac yn diwallu anghenion gofynion y corff academaidd a phroffesiynol. Mae'r defnydd o arbenigedd allanol ychwanegol yn ategu ein proses ddatblygu rhaglenni gadarn i sicrhau prosesau asesu a dosbarthu sy'n ddibynadwy, yn deg ac yn dryloyw. Ymdrinnir â hyn hefyd trwy ein Hadroddiadau Arholwyr Allanol gan gyfeirio'n benodol at achredu safonau'r corff.

Mae gan bob rhaglen sy'n derbyn achrediad trwy gorff statudol neu reoleiddio proffesiynol amserlen glir i'w hadolygu ac maent wedi'u rhestru ar ein gwefan gwybodaeth gyhoeddus.

Trosolwg sefydliadol

Y Bwrdd Astudiaethau sy'n adolygu ac yn monitro holl adroddiadau Arholwyr Allanol ac achredu.  Amlygir unrhyw faterion a meysydd arfer da yn y broses ARE yn enwedig mewn perthynas â chanlyniadau gradd a safonau academaidd ein modiwlau/rhaglenni.

Mae defnyddio pwyntiau cyfeirio allanol yn ein dull aml-haenog, rhyng-gysylltiedig o fonitro ac adolygu yn arwain at welliant parhaus i'n rhaglenni sy'n cyflawni'r amcanion a osodwyd ar eu cyfer ac yn ymateb i anghenion myfyrwyr.

Mae cynlluniau gweithredu a ddatblygwyd trwy'r broses Adolygu a Gwella Blynyddol yn rhoi trosolwg cynhwysfawr i'r Ysgol, y Coleg a'r Brifysgol o'r cryfderau a'r meysydd i'w gwella ym mhob Ysgol a defnyddir y rhain fel pwyntiau ffocws ar gyfer datblygu strwythuredig.

Document history

FersiwnDyddiadAwdur Nodiadau ar Ddiwygiadau
V1 11/11/2020 Martine WoodwardPolisi cyffredinol newydd a sefydlwyd yn rhan o’r dadansoddiad o ddogfennau QER.
V215/07/2022Martine WoodwardDiweddariadau blynyddol arferol yn ogystal â chywiriadau neu eglurhad o feysydd sydd wedi'u nodi gan gydweithwyr fel rhai sydd angen eu diwygio (ASQC, 21'720)

Tabl rheoli'r ddogfen

Teitl y ddogfen:Monitoring and Review policy
Awdur(on):Academic Quality and Standards / Learning and Teaching Academy
Rhif y fersiwn:Version 2
Dyddiad cymeradwyo:15 Mehefin 2022
Cymeradwywyd gan:Senate
Dyddiad dod i rym:01 Awst 2022