Darpariaeth gydweithredol
Rydym yn cydweithio gydag amrywiaeth eang o bartneriaid, yn cynnwys cyflogwyr, cwmnïau a sefydliadau addysgol yn y DU a thramor.
Mae cydweithio o'r fath yn galluogi ein myfyrwyr i ennill profiad gwerthfawr mewn amgylchedd gwaith neu astudio mewn sefydliad tramor. Cofnodir manylion trefniadau ffurfiol â sefydliadau partner ar y gofrestr darpariaeth gydweithredol sy'n cael ei ddiweddaru gan y Tîm Safonau ac Ansawdd.
Rydym yn defnyddio dull seiliedig ar risg i reoli ein trefniadau cydweithredol a sicrhau ein bod yn parhau i gydymffurfio â Chôd Ansawdd y DU ar gyfer Addysg Uwch a Safonau a Chanllawiau sicrwydd ansawdd yn Ardal Addysg Uwch Ewrop (ESG).
Gwerthusir pob darpar bartneriaid – o ddarparwyr lleoliadau i sefydliadau addysgol sy’n cyflwyno ein rhaglenni – yn drylwyr yn ôl lefel y risg dan sylw. Caiff hyn ei adlewyrchu yn ein Polisi Darpariaeth Gydweithredol lle mae’r prosesau ar gyfer cymeradwyo a monitro trefniad yn dibynnu ar y math o gydweithio rydym ni’n ei ystyried.
Ein tacsonomeg
Mae diffiniadau o weithgareddau cydweithredol a’u risgiau cysylltiedig yn amrywio o sefydliad i sefydliad. Mae tacsonomeg ein trefniadau cydweithredol yn amlinellu trefniadau llywodraethu a monitro priodol a’r risg sy'n gysylltiedig ar gyfer pob categori eang.
Gan fod y mathau o ddarpariaeth ar y cyd yn amrywio mewn maint, cymhlethdod a risg, bydd nifer o staff gwasanaethau academaidd a phroffesiynol yn ymwneud â datblygu’r cynnig darpariaeth ar y cyd.
Mae cynigion mwy cymhleth yn gofyn am ymrwymiad sylweddol o ran amser ac ymdrech, gan fod angen mewnbwn sylweddol a chefnogaeth gan y Swyddfa Ryngwladol ar gyfer cydweithio dramor.
Taxonomy of collaborative provision (Welsh)
Yn amlinellu’r trefniadau monitro a llywodraethau addas ar risgiau yn gysylltiedig ar gyfer pob categori eang.
Os na all eich meddalwedd gynorthwyol ddarllen y ddogfen hon, gallwch chi ofyn am fersiwn hygyrch drwy ebostio web@caerdydd.ac.uk. Cynhwyswch yr adnoddau cynorthwyol a ddefnyddiwch chi a’r fformat sydd ei angen arnoch.
Cysylltu
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: