Gwyddor wybyddol
![Social and Emotional](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0003/2515422/social-and-emotional.jpg?w=575&ar=16:9&q=80&auto=format)
Rydyn ni'n mynd i'r afael â chwestiynau sylfaenol am brosesau seicolegol, gan gynnwys sut mae gwybodaeth synhwyraidd yn cael ei deall, sut mae penderfyniadau'n cael eu gwneud, a sut mae cof yn codi.
Rydym yn astudio dysgu, cofio, iaith, rhesymu, gwneud penderfyniadau a chanfyddiad achosiaeth. Yn ogystal â chanolbwyntio ar gwestiynau damcaniaethol sylfaenol, mae gan y grŵp fewnbwn i agweddau cymhwysol ar berfformiad dyn, megis effaith niwed i’r ymennydd ar y broses adnabod wynebau.
Mae’r grwpiau hyn cydweithio’n eang ar draws yr Ysgol, ac mae eu gwaith ymchwil yn cysylltu â sawl canolfan ymchwil gan gynnwys Canolfan Ymchwil Delweddu'r Ymennydd Prifysgol Caerdydd a Chanolfan Gwyddoniaeth Datblygiad Dynol Prifysgol Caerdydd.
Staff cysylltiedig
![Yr Athro Petroc Sumner](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0006/2451246/Petroc.png?w=120&h=120&auto=format&crop=faces&fit=crop)
Yr Athro Petroc Sumner
Professor and Head of School of Psychology
- sumnerp@caerdydd.ac.uk
- +44(0)29 2087 0091
Ffactorau Dynol
Nod ein hymchwil yw edrych ar sut mae pobl a thechnoleg yn rhyngweithio. Drwy gydweithio â phartneriaid allanol, rydym yn defnyddio gwyddoniaeth seicolegol i arwain y gwaith o ddylunio’r cynhyrchion, y systemau a’r dyfeisiau y mae pobl yn eu defnyddio bob dydd. Rydym yn arbenigo mewn technolegau newydd yn ogystal â heriau fel awtomeiddio cerbydau ffyrdd a seiber ddiogelwch.
Staff cysylltiedig
Mae angen gwirfoddolwyr arnom i gymryd rhan mewn astudiaethau blaengar.