Ewch i’r prif gynnwys

Mae Canolfan Gwyddor Datblygiad Dynol Prifysgol Caerdydd (CUCHDS) yn darparu cyfleoedd ar gyfer ymchwil a hyfforddiant wrth astudio datblygiad dynol o feichiogi i fod yn oedolyn.

Mae adeilad CUCHDS yn cynnwys gofod labordy a gynlluniwyd yn arbennig ar gyfer astudiaethau plant ac oedolion, gan gynnwys ystafell synhwyraidd WARC, yr Uned Asesu Niwroddatblygiad (NDAU) ac uned a ariennir gan Sefydliad Waterloo ar gyfer plant a gyfeiriwyd â materion datblygiadol.

Mae gan CUCHDS gysylltiadau agos â chanolfannau eraill, gan gynnwys:

Ymchwil

Mae CUCHDS wedi uno canolfannau ymchwil a rhaglenni sydd eisoes wedi'u hen sefydlu i fod yn un ganolfan ar gyfer gwell cydweithredu ymchwil. Mae'r canolfannau a'r rhaglenni yn cynnwys:

Mae'r ganolfan hefyd yn cynnig mentrau newydd mewn niwrowyddoniaeth ddatblygiadol ac astudiaethau amlddisgyblaethol o les plant.

Ardrawiad

  • Drwy ein Hastudiaeth Carfan Mabwysiadu Cymru, rydym wedi darparu tystiolaeth ar gyfer dylunio, gweithredu a gwerthuso'r Gwasanaeth Mabwysiadu Gyda'n Gilydd.
  • Mae hyfforddiant emosiwn cyfrifiadurol bellach yn cael ei gynnig i blant 5-7 oed sydd wedi dod drwy'r Uned Asesu Niwro-Ddatblygu (NDAU) i wella gweithrediad seicogymdeithasol mewn plant â phroblemau emosiynol ac ymddygiadol. Fe'i defnyddir hefyd mewn rhaglenni ymyrraeth ac atal yn yr Iseldiroedd, y Swistir a'r Almaen.

Cwrdd â'r tîm

Cyfarwyddwr

Dirprwy Gyfarwyddwr

Camau nesaf

Ymchwil sy’n gwneud gwahaniaeth

Mae ein hymchwil yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl wrth i ni gweithio ar draws disgyblaethau er mwyn ymgodymu â phrif heriau sy’n wynebu’r gymdeithas, yr economi ac ein hamgylchedd.

Ymchwil ôl-raddedig

Mae ein graddau ymchwil yn rhoi'r rhyddid i chi i archwilio pwnc arbennig mewn dyfnder ymhlith ymchwilwyr blaenllaw.

Ein heffaith ymchwil

Mae'r astudiaethau achos hyn yn rhoi sylw i rai o'r meysydd lle rydym yn cael effaith ymchwil gadarnhaol.