Ewch i’r prif gynnwys

Ein lleoliad

Mae gennym ddau gyfleuster seicoleg pwrpasol yn ardal Cathays yn y ddinas.

Adeilad y Tŵr

Adeilad y Tŵr yw ein prif ganolfan seicoleg, ac mae wedi’i lleoli yng nghanol campws Parc Cathays. Mae’n agos at Undeb y Myfyrwyr, llyfrgelloedd, gwasanaethau cymorth a sawl un o breswylfeydd y Brifysgol.

Ein cyfeiriad

Adeilad y Tŵr
70 Plas y Parc
Caerdydd
CF10 3AT

Canolfan Ymchwil Delweddu'r Ymennydd Prifysgol Caerdydd (CUBRIC)

Ein cyfleuster delweddu’r ymennydd sydd wedi ennill gwobrau yw CUBRIC, ac mae wedi’i lleoli ar Heol Maendy yng Nghaerdydd.

CUBRIC

Ein cyfeiriad

Canolfan Ymchwil Delweddu'r Ymennydd Prifysgol Caerdydd
Heol Maendy
Caerdydd
CF24 4HQ

Teithio

Ar drên a bws

Mae’n cymryd un neu ddau funud i gerdded i Adeilad y Tŵr o orsaf drenau Cathays. Ewch i wefan gynllunio National Rail Journey i gael rhagor o wybodaeth. Mae nifer o wasanaethau bysiau yn cysylltu Caerdydd yn rheolaidd â threfi a dinasoedd ledled y wlad. Ewch i wefan National Express neu Megabus i gael rhagor o wybodaeth.

Bysiau lleol

Mae’r gwasanaeth bws rhif 95 yn gadael Caerdydd Canolog i gampws Cathays yn rheolaidd drwy gydol y dydd, a cheir rhagor o fanylion ar wefan Bws Caerdydd.

Beicio a cherdded

Mae gennym fan storio beiciau pwrpasol, dan do, yng nghefn Adeilad y Tŵr, a mannau storio ychwanegol o flaen ac wrth ochr yr adeilad. Mae cyfleusterau cawod ar y pedwerydd llawr. Ceir ystafell sychu hefyd ar y seithfed llawr ar gyfer cotiau ac ymbareli.

Lleoliadau eraill

Canolfan Gwyddoniaeth Datblygiad Dynol (CUCHDS) ger Adeilad y Tŵr.