Ewch i’r prif gynnwys

Themâu

Mae ein hymchwil yn rhychwantu maes seicoleg - o synaps i gymdeithas, ac mae’n mynd ar drywydd deg thema ryng-gysylltiedig.

Neuro

Niwrowyddoniaeth ymddygiadol

Rydym yn dadansoddi prosesau sylw, gwybyddiaeth, emosiwn, dysgu, cof, a chymhelliant.

Brain cross section

Gwyddoniaeth ddelweddu

Rydym yn gwneud gwaith ymchwil i optimeiddio delweddau, delweddu niwroffisiolegol a swyddogaeth niwrodrosglwyddyddion a delweddu clinigol a gwybyddol.

Woman attaching an EEG cap and electrodes to a male study participant's head

Niwrowyddorau gwybyddol

Mae ein gwaith yn cwmpasu astudiaethau arferol ac astudiaethau niwroseicolegol i ddulliau niwral cofio, canfod, sylwi, gwneud penderfyniadau, rheoli camau gweithredu a chyfathrebu cymdeithasol.

Social and Emotional

Gwyddor wybyddol

Rydyn ni'n mynd i'r afael â chwestiynau sylfaenol am brosesau seicolegol.

CUCHDS 2

Gwyddoniaeth ddatblygiadol

Mae ein thema datblygiad ac iechyd yn gwneud gwaith ymchwil i ddatblygiad gwybyddol dynol, datblygiad echddygol a datblygiad cymdeithasol cadarnhaol o’r adeg cenhedlu hyd at fod yn oedolyn.

Ultra sound

Seicoleg iechyd

Mae ein gwaith ymchwil ym maes iechyd yn cynnwys astudio iechyd atgenhedlu, y ffactorau iechyd sy’n effeithio ar berfformiad bodau dynol, ac ymddygiad sy’n gysylltiedig ag iechyd.

IROHMS

Ffactorau Dynol

Nod ein hymchwil yw edrych ar sut mae pobl a thechnoleg yn rhyngweithio.

Health psych

Iechyd meddwl a seicoleg clinigol

Rydym yn astudio datblygiad problemau iechyd meddwl ac yn ymchwil i ystod o broblemau iechyd.

Action

Canfyddiad a gweithredu

Rydym yn astudio golwg, clyw, cyffyrddiad, cydbwysedd, rheoli echddygol a phenderfyniadau.

Environmental image

Cymdeithasol, risg ac amgylcheddol

Rydym yn gwneud gwaith ymchwil ar draws y ddisgyblaeth sy’n canolbwyntio ar y cydadwaith rhwng unigolion a’r hyn sydd o’u cwmpas.