Gwyddoniaeth ddatblygiadol

Mae ein thema datblygiad ac iechyd yn gwneud gwaith ymchwil i ddatblygiad gwybyddol dynol, datblygiad echddygol a datblygiad cymdeithasol cadarnhaol o’r adeg cenhedlu hyd at fod yn oedolyn.
Mae ein gwaith ymchwil ym maes gwyddoniaeth ddatblygiadol yn cynnwys datblygiad gwybyddol, echddygol a chymdeithasol cadarnhaol o fabandod i lencyndod. Rydym hefyd yn astudio awtistiaeth mewn plant ac oedolion (Ganolfan Ymchwil Awtistiaeth Cymru) a’r sail niwrofiolegol ar gyfer ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Mae’r gwaith ymchwil yn mynd i’r afael â phroblemau sylfaenol sy’n ymwneud â datblygiad nodweddiadol ac annodweddiadol, yn ogystal ag iechyd atgenhedlol ac ymddygiadau sy’n gysylltiedig ag iechyd.
Seicoleg iechyd ac iechyd meddwl
Mae ein gwaith ymchwil ym maes iechyd yn cynnwys astudio iechyd atgenhedlu, y ffactorau iechyd sy’n effeithio ar berfformiad bodau dynol, ac ymddygiad sy’n gysylltiedig ag iechyd.
Rydym hefyd yn astudio datblygiad problemau iechyd meddwl ac yn ymchwil i ystod o broblemau iechyd gan gynnwys ymddygiad gwrthgymdeithasol a seicopathi, dibyniaeth, lledrithion, iselder, ADHD, anhwylder ar y sbectrwm Awtistiaeth, clefyd Alzheimer, sgitsoffrenia a gorbryder.
Staff cysylltiedig

Yr Athro Neil Harrison
Clinical Professor in Neuroimaging
- harrisonn4@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2087 6785

Yr Athro Petroc Sumner
Professor and Head of School of Psychology
- sumnerp@caerdydd.ac.uk
- +44(0)29 2087 0091