Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwilio i dechnoleg glyfar mewn lleoliadau gofal cymdeithasol

Older woman using a smart speaker

Bydd ein rhaglen ymchwil yn ymdrin â’r ffyrdd posibl y bydd seinyddion clyfar a mathau eraill o dechnoleg glyfar o fudd mewn lleoliadau gofal cymdeithasol gwahanol.

Mae dyfeisiau clyfar yn cynnig opsiynau rheoli rhwydd megis defnyddio ffonau, tabledi neu orchmynion llais i wneud tasgau dyddiol. Mae’r rhain yn mynd yn fwyfwy poblogaidd mewn lleoliadau gofal cymdeithasol; maen nhw o gymorth o ran adloniant, cyfathrebu, atgoffa (e.e. at ddibenion meddyginiaeth) a rheoli'r amgylchedd yn y cartref.

Mewn cydweithrediad ag Innovate Trust, rydyn ni wedi ymchwilio i’r ffyrdd y gallai technoleg glyfar yn y cartref rymuso pobl sydd ag anabledd dysgu i fyw bywydau mwy annibynnol ac yn fwy boddhaol. I’r perwyl hwn, datblygon ni lawlyfr cynhwysfawr sy’n ymwneud â rhoi technoleg glyfar ar waith mewn lleoliadau byw â chymorth ar gyfer oedolion ag anableddau dysgu.

Fideo ynghylch defnyddio technoleg glyfar a chefnogi pobl sydd ag anableddau dysgu mewn lleoliadau gofal cymdeithasol

Lawrlwytho’r llawlyfr

Lady looking at smart speaker and smiling

I bwy mae'r llawlyfr?

Lluniwyd y llawlyfr hwn ar gyfer unrhyw un sy'n ymwneud ag iechyd a gofal pobl sydd ag anabledd dysgu. Fodd bynnag, mae'n berthnasol i ystod ehangach o ddefnyddwyr, megis:

  • aelodau'r teulu:
  • awdurdodau lleol a darparwyr byw â chymorth
  • gweithwyr cymorth ac ymarferwyr clinigol.

Yn y llawlyfr ceir gwybodaeth sy'n seiliedig ar dystiolaeth, a rhoddir sylw i’r manteision yn sgil defnyddio technoleg glyfar i bobl sydd ag anabledd dysgu yn ogystal â chanllawiau ymarferol ar gyfer y deilliannau gorau posibl.

Cyrchu’r llawlyfr

Defnyddio’r ymchwil mewn cyd-destunau eraill

Rydyn ni wedi bod yn ehangu'r ymchwil hon i ystyried sut y defnyddir technoleg glyfar mewn ffyrdd eraill, gan gynnwys oedolion hŷn sy'n byw mewn tai cymdeithasol a phlant sydd ag anawsterau lleferydd.

Yn fwy diweddar, rydyn ni wedi bod yn gweithio gydag 11 o gymdeithasau tai a chynghorau, megis Newydd HA, i ymchwilio i botensial seinyddion clyfar i wella bywydau oedolion hŷn sy'n byw mewn tai cymdeithasol.

Yn ogystal, rydyn ni wedi bod yn ymchwilio i botensial seinyddion clyfar i helpu i wella lleferydd plant sydd ag anawsterau lleferydd.

'Rhoi cynnig ar sgiliau' Alexa i oedolion hŷn sy'n byw mewn tai cymdeithasol

Yn rhan o'r ymchwil, mae Newydd wedi creu cyfres o bosteri sy'n awgrymu amryw o 'sgiliau Alexa y gellir rhoi cynnig arnyn nhw' i helpu oedolion hŷn sy'n byw mewn tai cymdeithasol.

Lawrlwytho posteri 'rhoi cynnig ar sgiliau Alexa'

Oedolion sydd ag anabledd dysgu

Cynhalion ni gyfweliad â mwy na 80 person sydd ag anabledd dysgu ynghylch eu profiadau o ddefnyddio'r dyfeisiau ac effaith hyn ar eu lles, eu hunanbenderfyniad a'u hannibyniaeth dros gyfnod o 12 wythnos.

Cynhalion ni gyfweliad hefyd â 127 o weithwyr cymorth ynghylch eu profiadau o ddefnyddio technoleg glyfar yn y gweithle.

Ein canfyddiadau

Y Manteision:
  • cwmnïaeth gymdeithasol – canfu rhai o’r sawl a gymerodd ran fod y dyfeisiau'n gwmnïaeth a’u bod yn mwynhau siarad â nhw, yn enwedig ar adegau pan fyddan nhw ar eu pen eu hunain.
  • adloniant - yn aml dyma oedd nodwedd fwyaf poblogaidd y ddyfais ac roedd y sawl a gymerodd ran yn mwynhau defnyddio’r nodweddion hyn (e.e. chwarae cerddoriaeth) unrhyw adeg o'r dydd
  • annibyniaeth - roedd y sawl a gymerodd ran yn gallu defnyddio'r ddyfais ar eu pen eu hunain ac roedd rhai yn gallu defnyddio'r dyfeisiau er mwyn bod yn llai dibynnol ar weithwyr cymorth, er enghraifft drwy osod eu negeseuon atgoffa eu hunain ynghylch meddyginiaeth
  • gwell lleferydd - awgrymodd rhai aelodau o’r staff ei bod yn bosibl bod lleferydd y sawl a gymerodd ran wedi gwella yn sgil defnyddio'r ddyfais.
Heriau:
  • cael eu deall - roedd rhai o’r sawl a gymerodd ran yn wynebu heriau wrth gael eu deall o ran y dyfeisiau, ond yn aml roedden nhw’n barod i barhau i geisio defnyddio'r ddyfais
  • anghofio ymadroddion - nid oedd y sawl a gymerodd ran bob amser yn gwybod nac yn cofio'r geiriau cywir i ofyn am rai nodweddion y ddyfais, ac roedden nhw weithiau’n anghofio dweud y gair i ddeffro Alexa (e.e. Alexa).
Atebion:
  • parhau i ddefnyddio’r ddyfais
  • cymorth a hyfforddiant

Oedolion hŷn mewn tai cymdeithasol

Ar hyn o bryd rydyn ni’n cyfweld â 100 o oedolion hŷn sy'n byw mewn tai cymdeithasol neu sy’n cael gofal cymdeithasol ac sydd wedi bod yn defnyddio seinyddion clyfar am 9 mis.

Ein canfyddiadau

Y manteision (hyd yn hyn):
  • ymreolaeth gyfleus - roedd yr oedolion yn ei chael hi’n rhwyddach gwneud pethau drostyn nhw eu hunain a fyddai wedi bod yn anos hwyrach heb y seinydd, megis chwarae eu cerddoriaeth eu hunain
  • ysgogi gwybyddol - roedd y sawl a gymerodd ran o’r farn bod dysgu sut i ddefnyddio'r ddyfais a chwarae rhai o'r gemau arni yn 'rhoi hwb i’w hymennydd'
  • cwmnïaeth - nodwyd bod y ddyfais yn rhywfaint o gwmnïaeth i rai o’r sawl a gymerodd ran, ei bod yn 'llais yn yr ystafell' ac yn rhywun i siarad ag ef.
  • hygyrchedd - yn hygyrch i’r rheiny ag anawsterau o ran golwg a symudedd.
Heriau (hyd yn hyn)
  • diffyg cymorth
  • bod yn bryderus wrth ddefnyddio technoleg
  • problemau technegol
  • anawsterau o ran clywed
Ateb:
  • hyrwyddo hunanddibyniaeth gan gynnig cymorth, ac ehangu seilwaith digidol a gwella hygyrchedd.

Plant ag anawsterau lleferydd

Fe wnaethom gyfweld 11 o blant ag anawsterau lleferydd a oedd wedi bod yn defnyddio siaradwr craff am 4 wythnos, ynghyd â rhiant pob plentyn.

Yr hyn a ddaethom o hyd

Manteision:
  • roedd plant yn mwynhau defnyddio siaradwyr craff, gan arwain at siarad yn arafach, yn uchel, ac o bosibl yn fwy eglur.
Heriau:
  • dyfais peidio â deall plantrigidity lleferydd y ddyfais
Datrysiadau:
  • dyfalbarhad mewn gwelliannau parhaol i hygyrchedd a swyddogaeth y ddyfais

"Mae ein hymchwil wrthi’n creu sylfaen dystiolaeth ar sut i ddefnyddio technoleg glyfar yn ddiogel ac yn effeithiol mewn lleoliadau gofal cymdeithasol."
Dr Georgina Powell Research Fellow (Health and Care Research Wales)

Cymryd rhan yn ein hymchwil

Rydyn ni’n chwilio am sefydliadau sy'n gweithio gydag oedolion hŷn (65+) nad ydyn nhw ar hyn o bryd yn berchen ar seinyddion clyfar i gymryd rhan yn ein hastudiaeth. Os hoffech chi gymryd rhan, byddwch chi’n cael seinyddion clyfar yn rhad ac am ddim ar gyfer eich defnyddwyr, eich preswylwyr neu eich cleientiaid.

Cymryd rhan yn ein hymchwil

Prosiectau sydd ar waith

Cynorthwy-ydd ymwybyddiaeth o breifatrwydd

Rydyn ni wedi datblygu ap sgiliau 'ymwybyddiaeth o breifatrwydd' er mwyn i Alexa helpu defnyddwyr i wneud dewisiadau cytbwys am y gosodiadau ar eu seinyddion clyfar. Mae'r cynorthwy-ydd hwn yn egluro’r gosodiadau recordio llais, y lleoliadau a hefyd y gosodiadau sydd ar y ddyfais ar adeg ei phrynu gan ddefnyddio iaith hawdd ei deall, gan fod o fudd i unigolion sydd heb lawer o brofiad o ddefnyddio technoleg ddigidol.

Gan gydweithio ag Innovate Trust, gwelson ni fod gan oedolion hŷn a’r rheini sydd ag anabledd dysgu oedd yn defnyddio ein cynorthwy-ydd preifatrwydd ddealltwriaeth gliriach ynghylch y gosodiadau preifatrwydd ar eu dyfais o'i gymharu â'r sawl sy'n defnyddio'r ap safonol.

Dyfais sy’n rhoi cwmni

Rydyn ni wedi datblygu dyfais sy’n rhoi cwmni, sy’n debyg i seinydd clyfar ac yn rhoi cwmnïaeth a chymorth emosiynol i oedolion hŷn sy’n teimlo’n unig neu sy’n ynysig.

Ar hyn o bryd mae 10 oedolyn hŷn sydd wedi nodi eu bod yn unig yn treialu'r ddyfais hon.

Diolch yn fawr

Diolch yn fawr i bob un o’r sawl a gymerodd ran a’r cydweithwyr am wneud yr ymchwil hon yn bosibl, ac i Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru am ariannu'r prosiectau.

Cwrdd â’r tîm

Picture of Georgina Powell

Dr Georgina Powell

Cymrawd Ymchwil (Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru)

Telephone
+44 29208 70716
Email
PowellG7@caerdydd.ac.uk
Picture of Lauren Makin

Lauren Makin

Cynorthwy-ydd Ymchwil

Email
MakinL1@caerdydd.ac.uk