Ewch i’r prif gynnwys

Mesur ymddygiadau ailadroddus drwy gydol oes

Young child lining up cars on a sofa.

Mae ymchwilwyr yng Nghanolfan Ymchwil Awtistiaeth Cymru Prifysgol Caerdydd wedi creu holiadur sy'n fesur a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer ymddygiad ailadroddus.

Mae'r Holiadur Ymddygiad Ailadroddus (RBQ-3) wedi'i gyfieithu i nifer o ieithoedd. Fe'i defnyddir yn helaeth mewn ymarfer clinigol ar draws y byd, gan ymchwilwyr a'r boblogaeth gyffredinol yn ogystal.

Mae ymddygiad ailadroddus yn rhan o'r meini prawf diagnostig ar gyfer awtistiaeth ac maent yn cynnwys ymddygiad echddygol, arferion, ymatebion synhwyraidd, diddordebau â ffocws, a ffafriaeth o ran cadw cysondeb. Mae’n bwysig nodi bod eraill yn y boblogaeth gyffredinol yn enwedig plant ifanc, pobl sydd â chyflyrau niwroddatblygiadol eraill, a chyflyrau niwroseiciatrig yn dangos yr ymddygiadau hyn hefyd.

Mae ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd wedi bod ar flaen y gad o ran ymchwil ar ymddygiad ailadroddus ers 2007. Cafodd yr Holiadur Ymddygiadau Ailadroddus gwreiddiol (RBQ-2) sy’n cael ei lenwi gan riant a'r Holiadur Ymddygiadau Ailadroddus 2A (RBQ-2A), fersiwn hunan-adrodd ar gyfer pobl ifanc ac oedolion eu datblygu ar y cyd â chydweithwyr ym Mhrifysgol Durham a Phrifysgol Newcastle. Mae'r RBQ-3 yn fersiwn newydd, gwell.

“Mae'r RBQ-3 yn adnodd pwysig ar gyfer helpu i ddeall yn well batrwm ymddygiadau ailadroddus ymhlith pobl awtistig, yn ogystal ag yn y boblogaeth ehangach.”
Dr Catherine Jones Reader and Director of Wales Autism Research Centre

Holiadur Ymddygiad Ailadroddus - 3 (RBQ-3)

Mae datblygiad yr RBQ-3 wedi'i arwain gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd ac mae'n disodli RBQ-2 ac RBQ-2A. Cafodd ei lunio mewn ymateb i geisiadau clinigwyr ac ymchwilwyr am ddau welliant i'r mesurau presennol:

  1. Roeddent eisiau holiadur 'oes' a allai fesur ymddygiadau ailadroddus drwy gydol oes, gyda chwestiynau a oedd yn briodol i blant ac oedolion.
  2. Roeddent eisiau un mesur y gellid ei ddefnyddio ar gyfer hunan-adrodd ac ar gyfer adrodd gan eraill (e.e. gan riant neu roddwr gofal).

Mae'r Holiadur Ymddygiadau Ailadroddus 3 (RBQ-3) yn cyflawni'r ddau faen prawf hyn a bydd yn galluogi mwy o hyblygrwydd i glinigwyr sydd am ddeall proffil unigolyn o ran eu hymddygiad ailadroddus.

Bydd hefyd yn agor mwy o gyfleoedd i ymchwilwyr sydd am fesur ymddygiad ailadroddus, yn enwedig mewn astudiaethau hydredol. Gall y fersiynau hunan-adroddiad ac adrodd-gan-eraill eu defnyddio gyda'i gilydd wrth gymharu atebion mwy nag un hysbysydd.

Two people having a conversation

Lawrlwythwch yr holiadur

Bu galw mawr am yr holiaduron ymddygiad ailadroddus yn rhyngwladol ac maent wedi'u cyfieithu i lawer o ieithoedd. Mae'r RBQ-3 ar gael ar hyn o bryd mewn Tsieinëeg, Almaeneg, Perseg, Sbaeneg a Thwrceg.

Gall clinigwyr, ymarferwyr, ymchwilwyr ac eraill sydd â diddordeb mewn cael mynediad i'r RBQ-3 ei lawrlwytho am ddim. Mae copïau blaenorol o'r RBQ-2 a'r RBQ-2A hefyd ar gael drwy'r un ddolen.

Mynediad at yr Holiadur Ymddygiad Ailadroddus 3 (RBQ-3)

Gallwch hefyd gael mynediad i'r RBQ-2, RBQ-2A a'r RBQ gwreiddiol trwy gydweithwyr y tîm ym Mhrifysgol Newcastle.

Cwrdd â’r tîm

Cysylltiadau allweddol

Cynnwys dan sylw

CUCHDS Ymchwil

Canolfan Ymchwil Awtistiaeth Cymru

Hyrwyddo dealltwriaeth wyddonol o awtistiaeth i greu newid cadarnhaol.

colab Arloesedd

Gwobr i system sy'n nodi arwyddion awtistiaeth – SIGNS

Mae system sy'n helpu gweithwyr meddygol proffesiynol i nodi arwyddion awtistiaeth mewn plant wedi ennill gwobr ar gyfer arloesedd.

euro map Rhyngwladol

Ail-lansio ffilm 'The Birthday Party' mewn pedair gwlad Ewropeaidd.

Mae ffilm hyfforddiant, sydd â'r nod o godi ymwybyddiaeth o arwyddion awtistiaeth, yn cael ei hail-lansio'n swyddogol mewn cydweithrediad arloesol gyda phedair gwlad Ewropeaidd.