Ewch i’r prif gynnwys

Gosod ymgysylltu â'r cyhoedd ar flaen y gad o ran newid polisi amgylcheddol

Wind farm

Roedd ein hymchwil yn gyrru penderfyniadau llunwyr polisïau drwy ddatgelu cefnogaeth gyhoeddus gref i rai o'r newidiadau mawr sydd eu hangen er mwyn i'r DU gyrraedd ei tharged sero net.

Er mwyn cyflawni ymrwymiad sero-net y DU i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, mae angen newidiadau helaeth, nid yn unig i’r seilwaith ynni ond hefyd i arferion ac ymddygiad cymdeithasol pobl. Dangosodd ein hymchwil y ceir cefnogaeth fawr gan y cyhoedd i newid i ffynonellau ynni adnewyddadwy ac i economi fwy cynaliadwy a llai gwastraffus, er gwaethaf canfyddiad cyffredin bod y cyhoedd yn gwrthwynebu newid o'r fath.

Newidiodd hyn feddylfryd llunwyr polisïau'r DU a gwreiddio ymgysylltiad y cyhoedd o fewn Strategaeth Adnoddau a Gwastraff Lloegr a Strategaeth Ynni'r Alban. Cafodd sylw’n rhyngwladol hefyd oherwydd iddo gael ei gynnwys yng nghanllawiau newydd y Cenhedloedd Unedig ar gyfathrebu am newid yn yr hinsawdd.

Canfyddiadau ymchwil allweddol

  • Parodrwydd cyhoeddus cryf i symud i ffwrdd o ddefnyddio ffynonellau ynni llygredig cyfyngedig a dulliau gwastraffus o ddefnyddio ynni
  • Awydd y cyhoedd am system ynni well i Brydain a fydd yn mynd i'r afael ar yr un pryd â'r argyfwng hinsawdd, diogelwch ynni a fforddiadwyedd.

"Hon oedd yr astudiaeth gyntaf o'i bath yn unrhyw le yn y byd i ystyried y cyhoedd yn derbyn y trawsnewidiadau cyffredinol sydd eu hangen i ddatgarboneiddio system ynni gwlad ar draws pob elfen o’r cyflenwad, y galw, y seilwaith ac ymddygiad dynol. Gosododd agenda a methodoleg ymchwil newydd sy'n cael ei mabwysiadu'n eang yn awr ledled y DU ac mewn mannau eraill i ymgysylltu â dinasyddion cyffredin mewn rheithgorau a chynulliadau i drafod heriau polisi newid yn yr hinsawdd, i sicrhau amgylchedd glanach, ac i gyflawni ein targedau allyriadau sero net."
Yr Athro Nick Pidgeon - Arweinydd Ymchwil

Ymchwil Sylfaenol

Cefndir

Yn 2019, dangosodd y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yng Nghymru ddiffyg o bron i draean yn nifer y mabwysiadwyr ers 2014, gyda chynnydd dilynol o 64% yn nifer y plant oedd yn aros am deulu. Bu cynnydd hefyd yn nifer y plant 'blaenoriaeth' oedd yn aros dros 12 mis i ddod o hyd i deulu.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • plant 4 oed a throsodd
  • grwpiau o frodyr a chwiorydd
  • plant ag anghenion meddygol neu ychwanegol.

Yn ogystal, amlygodd adroddiad yr Adran Addysg yn 2014 yr effaith ar blant a rhieni pan fyddai lleoliadau mabwysiadu yn methu. Mae hyn yn digwydd yn aml pan fydd plant yn dangos lefelau eithriadol o uchel o ymddygiad heriol (e.e. ymddygiad ymosodol, trais, hunan-niweidio) a’r rhieni'n derbyn cymorth proffesiynol annigonol.

Ymchwil dilynol

Edrychodd ymchwil dan arweiniad yr Athro Katherine Shelton ar y ffactorau sy'n nodweddu ac sy'n sail i lwyddiant lleoli cynnar mewn teuluoedd a fabwysiadodd blentyn neu grŵp o frodyr a chwiorydd o Gymru.

Gwnaed hyn drwy:

  • Arloesi Astudiaeth Garfan Fabwysiadu Cymru, oedd yn dilyn sampl cynrychioliadol o deuluoedd dros y 5 mlynedd gyntaf ar ôl mabwysiadu plentyn neu grŵp o frodyr a chwiorydd.
  • Dangoswyd bod ymddygiad ac anhwylderau iechyd meddwl y sawl a fabwysiadwyd yn parhau'n uchel yn gyson dros gyfnod o 4 blynedd a bod adfyd cynnar (e.e. esgeuluso a/neu gamdriniaeth) yn gysylltiedig â phroblemau cynyddol.
  • Roedd rhianta mabwysiadol cynnes yn gysylltiedig â gostyngiad amlwg yn symptomau’r plant o broblemau iechyd meddwl dros amser.

Amlygodd y canfyddiadau werth gwybodaeth fywgraffyddol am fywyd y plentyn cyn ac yn ystod gofal i gefnogi gofalwyr maeth a gweithwyr proffesiynol i reoli cyfnod pontio plentyn i deulu mabwysiadol, gan gynnwys cymorth ar ôl mabwysiadu.

Underpinning research

Cwrdd â’r tîm

Cysylltiadau allweddol

Sylw yn y wasg

Mae'r ddau brosiect ymchwil wedi denu diddordeb yn y cyfryngau o bob rhan o'r byd, yn enwedig wrth flaenoriaethu newid yn yr hinsawdd ym mholisïau'r rhan fwyaf o lywodraethau.

Recycling logo Newyddion

Mae’r cyhoedd yn mynnu y cymerir camau gweithredu ynghylch deunydd pacio na ellir ei ailgylchu

Mae bron i 90% o bobl am i holl ddeunydd pacio fod yn ailgylchadwy, yn ôl arolwg newydd gan Brifysgol Caerdydd.

Huff Post logo Newyddion

Sut mae'r cyhoedd yn y DU yn teimlo mewn gwirionedd am blastig, sbwriel ac ailgylchu

Mae tri chwarter o bobl am i'r cynhyrchion y maent yn eu defnyddio bob dydd fod yn ailgylchadwy ac yn ailddefnyddiadwy.

Recycling international Newyddion

Arolwg: mae defnyddwyr eisiau cynhyrchion mwy cynaliadwy

Mae arolwg o ddefnyddwyr yn y DU yn awgrymu bod mwyafrif llethol yn credu y dylai cymdeithas fod yn fwy effeithlon o ran adnoddau.

Partneriaid