Ewch i’r prif gynnwys

Mabwysiadu Gyda’n Gilydd: cynorthwyo gyda mabwysiadu'r plant sy'n aros hiraf

A family enjoying the outdoors.

Mae ein hymchwil wedi cryfhau gwasanaethau mabwysiadu ledled Cymru drwy ddod o hyd i gartrefi parhaol i blant sydd fel arfer yn aros hiraf am deulu.

Mae'n heriol dod o hyd i gartrefi parhaol i blant mewn gofal sy'n 4 oed a hŷn, yn enwedig mewn grwpiau o frodyr a chwiorydd. Gall cynlluniau mabwysiadu llawer o'r plant hyn newid i faethu tymor hir, a gallant gael eu gwahanu oddi wrth eu brodyr a'u chwiorydd.

Canfu ein hymchwil y ffactorau sy'n dylanwadu ar lwyddiant lleoliadau mabwysiadu cynnar gan arwain at y gwasanaeth mabwysiadu cenedlaethol cyntaf ar gyfer plant sy'n aros hiraf o'r enw 'Mabwysiadu Gyda'n Gilydd'.

Beth yw Mabwysiadu Gyda'n Gilydd?

Gwasanaeth therapiwtig yw Mabwysiadu Gyda'n Gilydd i blant sy'n aros hiraf am deulu i'w mabwysiadu. Ffurfiwyd ei esblygiad drwy'r Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth rhwng Prifysgol Caerdydd, Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Plant Dewi Sant - arbenigwr mabwysiadu sy'n ymroi i ddod o hyd i deuluoedd i blant agored i niwed ledled Cymru.

Galluogodd y bartneriaeth i Gymdeithas Plant Dewi Sant ddefnyddio ein harbenigedd academaidd, gan drosi canfyddiadau ymchwil Astudiaeth Garfan Fabwysiadu Cymru yn fethodoleg ymarferol i hwyluso mabwysiadu plant sy'n aros hiraf am deulu parhaol. Cyflawnwyd hyn drwy weithio gyda phartneriaid eraill yn y sectorau statudol a gwirfoddol sy'n ffurfio’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yng Nghymru a phartner therapiwtig.

Drwy gasglu arbenigedd gan seicolegwyr clinigol a gweithwyr cymdeithasol therapiwtig, mae Mabwysiadu Gyda'n Gilydd wedi gwella bywydau llawer o blant drwy ddarparu ymyrraeth gynnar a chynyddu nifer y lleoliadau i blant sy'n aros i gael eu mabwysiadu.

Ffeithiau allweddol Mabwysiadu Gyda'n Gilydd

  • 25 o blant wedi'u gosod gyda'u rhieni mabwysiadol ers 2018 (roedd cynlluniau llawer ohonynt ar fin cael eu newid o fabwysiadu i faethu tymor hir)
  • Sicrhawyd enillion ariannol o £14.4M
  • Cyfeirir ato bellach fel rhan o'r protocolau safonol ar gyfer holl weithwyr cymdeithasol proffesiynol Cymru.

"Mae'r gwasanaeth hynod arloesol hwn yn golygu bod plant sydd fel arfer yn aros dros 9 mis i gael eu gosod gyda theuluoedd mabwysiadol, sydd yn aml yn blant ag anghenion iechyd cymhleth neu sy'n rhan o grŵp o frodyr a chwiorydd, yn cael cefnogaeth therapiwtig wrth bontio i'w cartref newydd."
Yr Athro Katherine Shelton - Arweinydd Ymchwil Mabwysiadu Gyda'n Gilydd

Ymchwil Sylfaenol

Cefndir

Yn 2019, dangosodd y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yng Nghymru ddiffyg o bron i draean yn nifer y mabwysiadwyr ers 2014, gyda chynnydd dilynol o 64% yn nifer y plant oedd yn aros am deulu. Bu cynnydd hefyd yn nifer y plant 'blaenoriaeth' oedd yn aros dros 12 mis i ddod o hyd i deulu.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • plant 4 oed a throsodd
  • grwpiau o frodyr a chwiorydd
  • plant ag anghenion meddygol neu ychwanegol.

Yn ogystal, amlygodd adroddiad yr Adran Addysg yn 2014 yr effaith ar blant a rhieni pan fyddai lleoliadau mabwysiadu yn methu. Mae hyn yn digwydd yn aml pan fydd plant yn dangos lefelau eithriadol o uchel o ymddygiad heriol (e.e. ymddygiad ymosodol, trais, hunan-niweidio) a’r rhieni'n derbyn cymorth proffesiynol annigonol.

Ymchwil dilynol

Edrychodd ymchwil dan arweiniad yr Athro Katherine Shelton ar y ffactorau sy'n nodweddu ac sy'n sail i lwyddiant lleoli cynnar mewn teuluoedd a fabwysiadodd blentyn neu grŵp o frodyr a chwiorydd o Gymru.

Gwnaed hyn drwy:

  • Arloesi Astudiaeth Garfan Fabwysiadu Cymru, oedd yn dilyn sampl cynrychioliadol o deuluoedd dros y 5 mlynedd gyntaf ar ôl mabwysiadu plentyn neu grŵp o frodyr a chwiorydd.
  • Dangoswyd bod ymddygiad ac anhwylderau iechyd meddwl y sawl a fabwysiadwyd yn parhau'n uchel yn gyson dros gyfnod o 4 blynedd a bod adfyd cynnar (e.e. esgeuluso a/neu gamdriniaeth) yn gysylltiedig â phroblemau cynyddol.
  • Roedd rhianta mabwysiadol cynnes yn gysylltiedig â gostyngiad amlwg yn symptomau’r plant o broblemau iechyd meddwl dros amser.

Amlygodd y canfyddiadau werth gwybodaeth fywgraffyddol am fywyd y plentyn cyn ac yn ystod gofal i gefnogi gofalwyr maeth a gweithwyr proffesiynol i reoli cyfnod pontio plentyn i deulu mabwysiadol, gan gynnwys cymorth ar ôl mabwysiadu.

Cwrdd â’r tîm

Cysylltiadau allweddol

Gwobrau

Mae Mabwysiadu Gyda’n Gilydd wedi ennill nifer o wobrau am ei waith yn gwella gwasanaethau mabwysiadu ledled Cymru.

Newyddion

‘Mabwysiadu Gyda’n Gilydd’ yn ennill gwobr bwysig yn y DU

Mae partneriaeth sy'n lleoli'r plant sy'n aros hiraf i gael eu mabwysiadu yng Nghymru wedi ennill gwobr nodedig yn y DU am ei heffaith gymdeithasol.

Low carbon image Newyddion

Partneriaeth 'ragorol' ym maes gwasanaethau mabwysiadu

Mae Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth Prifysgol Caerdydd a Chymdeithas Plant Dewi Sant yn ‘rhagorol’ yn ôl Innovate UK.

Adoption Newyddion

Canmoliaeth y DU i ‘Mabwysiadu Gyda’n Gilydd’

Mae prosiect ar y cyd i gryfhau gwasanaethau mabwysiadu wedi ennill gwobr genedlaethol nodedig.

Partneriaid

Cyhoeddiadau