Ewch i’r prif gynnwys

Gwobr i system sy'n nodi arwyddion awtistiaeth – SIGNS

16 Mai 2019

Birthday party

Mae system sy'n helpu gweithwyr meddygol proffesiynol i nodi arwyddion awtistiaeth mewn plant wedi ennill gwobr ar gyfer arloesedd.

Mae Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistiaeth (ASD) yn gyflwr niwroddatblygiadol gydol oes, sydd fel arfer wedi'i ddiagnosio yn gynnar mewn plentyndod. Fodd bynnag, gall gweithwyr meddygol proffesiynol fethu arwyddion cynnar ASD, gan arwain at oedi wrth gyfeirio, diagnosio a chymorth hanfodol yn yr ysgol a'r cartref.

Sefydlodd ymgynghoriad, wedi'i arwain gan Lywodraeth Cymru, gyda rhieni, gweithwyr proffesiynol a phobl awtistig, ac wedi'i hwyluso gan y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, bod angen gwybodaeth gyfeirio ar weithwyr proffesiynol ar lawr gwlad i'w helpu i gyfeirio drwy ddiagnosis, a chynnig cymorth mewn modd sy'n fanwl gywir.

Bu ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd, o dan arweiniad yr Athro Sue Leekam a Dr Catherine Jones, yn cydweithio â'r Tîm Awtistiaeth, sydd wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru (Tîm Datblygu Cenedlaethol ASD yn flaenorol), yng ngofal Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WGLA), gan weithio mewn partneriaeth agos ag Iechyd Cyhoeddus Cymru.  Mae'r tîm yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru, arweinwyr ASD lleol o fewn awdurdodau lleol, a byrddau iechyd, rhanddeiliaid allweddol a grwpiau cynghori.

Yn wreiddiol, nododd a chyhoeddodd yr Athro Sue Leekam a Dr Sarah Carrington o'r Ysgol Seicoleg gyfres o eitemau cyfeirio hanfodol o asesiad sy'n cael ei alw'n Gyfweliad Diagnostig ar gyfer Anhwylderau Cymdeithasol a Chyfathrebu (y Diagnostic Interview for Social and Communication Disorders – DISCO).

Arweiniodd ymchwil pellach ar ran tîm Caerdydd at greu SIGNS – modd i weithwyr proffesiynol ar lawr gwlad nodi a deall ymddygiad awtistaidd mewn plant yn y meysydd canlynol:

Rhyngweithio cymdeithasol a chyfathrebu ar lafar
Dychymyg
Ystumiau neu cyfathrebu heb fod ar lafar
Ystod gul o ddiddordebau, arferion ac ymddygiad ailadroddus
Ymatebion synhwyrus

Datblygodd y tîm ddau adnodd allweddol y mae Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol WLGA yn ei rhoi i weithwyr proffesiynol clinigol ac addysgol: posteri yn nodi arwyddion awtistiaeth, a ffilm 18 munud mewn hyd, 'The Birthday Party,' yn seiliedig ar SIGNS. Mae llwyddiant y ffilm wedi arwain at geisiadau i'w ddefnyddio ar gyfer hyfforddiant ym maes awtistiaeth ar draws y byd, ac mae tîm Prifysgol Caerdydd wedi arwain y gwaith o'i chyfieithu i'r Sbaeneg, Eidaleg, Latfieg a Lithwaneg.

Mae'r prosiect wedi ennill y wobr Arloesedd mewn Gofal Iechyd yng Ngwobrau Arloesedd ac Effaith Prifysgol Caerdydd eleni.

Wrth groesawu'r anrhydedd, dywedodd yr Athro Sue Leekam a Dr Catherine Jones: "Rydym mor falch. Mae'r wobr anhygoel hon yn deyrnged i dros fil o weithwyr proffesiynol a rhieni y mae eu hadborth, a'u gwaith ymgynghori wedi llunio'r deunydd a gynhyrchwyd gennym. Rydym yn diolch iddyn nhw, ac yn diolch i'n partneriaid yn y llywodraeth, byd busnes, elusennau a'r Brifysgol fu'n gweithio gyda ni ar draws pum gwlad. Rydym eisiau i bob sector o'r gymdeithas adnabod arwyddion awtistiaeth, ac ymateb iddynt, ac mae ennill y wobr hon yn ein symud yn agosach at y nod hwnnw."

Gellir adnabod prif nodweddion ASD – problemau gyda chyfathrebu cymdeithasol a phatrymau o ymddygiad cyfyngedig ac ailadroddus – yn aml wrth gam cynnar plentyndod. Mae arwyddion awtistiaeth yn amlygu eu hunain mewn amrywiaeth o wahanol ffyrdd, a gall ambell nodwedd ASD fod yn gynnil ac yn anodd i'w nodi. Mae meini prawf SIGNS wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr i ddiagnosio awtistiaeth.

Yn ôl y Cynghorydd Huw David (Pen-y-bont ar Ogwr), llefarydd WLGA ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol:

"Mae'r wobr hon yn cydnabod dull o gydweithio gwirioneddol a gymerwyd i godi ymwybyddiaeth o awtistiaeth ymysg gweithwyr proffesiynol meddygol, ac rwy'n eithriadol o falch o gyfraniad allweddol y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol yn yr ymdrechion hynny. Amcangyfrifir bod oddeutu un person ym mhob 100 yn awtistaidd, felly mae'n hanfodol meithrin gwell dealltwriaeth o'r cyflwr ymysg gweithwyr meddygol proffesiynol a chymdeithas yn ei chyfanrwydd. Mae'r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol yn cynnig ystod o adnoddau i godi ymwybyddiaeth o awtistiaeth, a chefnogi pobl awtistig a'r rheiny sydd o'u hamgylch. Gellir eu cyrchu'n rhad ac am ddim ar-lein yn www.asdinfowales.co.uk."

Trefnir y Gwobrau, ar 3 Mehefin, gan Rwydwaith Arloesedd Prifysgol Caerdydd, ac maent wedi bod yn hyrwyddo'r partneriaethau rhwng y Brifysgol â busnesau ers dros ugain mlynedd.

Gellir bwrw golwg ar y ffilm 'The Birthday Party' yma: www.autismchildsigns.com.

https://youtu.be/LUP4jEq24Ok

Rhannu’r stori hon