Ewch i’r prif gynnwys

Partneriaeth ragorol ym maes gwasanaethau mabwysiadu

17 Awst 2020

Silhouette of child holding hands with adults

Mae Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth Prifysgol Caerdydd a Chymdeithas Plant Dewi Sant yn ‘rhagorol’ yn ôl Innovate UK.

Sefydlwyd y bartneriaeth, Mabwysiadu ar y Cyd, i gryfhau gwasanaethau mabwysiadu trwy ddod o hyd i gartrefi parhaol ar gyfer plant sy’n aros am deulu ers cyfnod maith, a helpu’r cartrefi hynny’n therapyddol.

Dechreuodd y prosiect yn Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth o dan nawdd Llywodraeth Cymru fis Medi 2017.

O dan arweiniad Cymdeithas Plant Dewi Sant, denodd y tîm amlddisgyblaethol arbenigwyr academaidd megis yr Athro Katherine Shelton (Ysgol Seicoleg Prifysgol Caerdydd) a’r Dr Jane Lynch (Ysgol Busnes Caerdydd) yn ogystal â phartneriaid therapyddol a chydweithwyr o’r Gwasanaeth Mabwysiadu Gwladol, Barnardo’s Cymru, Adoption UK a’r Family Place.

Gan ddatblygu gwasanaethau mabwysiadu arloesol gorau’r sector yn ôl anghenion sydd wedi’u pennu ar gyfer y deyrnas gyfan, mae Mabwysiadu ar y Cyd yn cynnig rhaglen arbenigol o gymorth y bydd seicolegwyr yn ei harwain cyn pob mabwysiadu ac wedyn.

Mae’r ffordd newydd o roi gwasanaethau eisoes wedi galluogi 14 o blant i fyw gyda’u teuluoedd parhaol ac roedd pob un o’r rheiny wedi bod trwy lawer o anawsterau ers eu geni.

Meddai’r Athro Shelton: “Mae’n dda gyda fi fod Mabwysiadu ar y Cyd wedi cael y gydnabyddiaeth mae’n ei haeddu...”

“O ganlyniad i’r gwasanaeth arloesol iawn hwn, mae modd rhoi cymorth therapyddol i blant sy’n aros yn hirach na naw mis i gael eu cartrefu gyda theuluoedd mabwysiadol fel arfer, i’w helpu dros y pontio yn eu cartrefi newydd - yn aml, bydd gan blant o’r fath frodyr/chwiorydd neu anghenion cymhleth o ran eu hiechyd.”

Yr Athro Katherine Shelton Senior Lecturer

Ychwanegodd y Dr Lynch: “Roedd y prosiect yn unigryw mewn sawl ffordd...”

“Trwy ddod â seicolegwyr a gweinyddwyr ynghyd, mae’r gwasanaeth wedi’i drawsffurfio trwy gaffael arloesol a chydweithio effeithiol rhwng y sector cyhoeddus a’r trydydd sector i helpu rhai o blant mwyaf bregus Cymru.”

Yr Athro Jane Lynch Professor of Procurement

Daw clod Innovate UK yn sgîl llwyddiannau eraill tîm y bartneriaeth a enillodd wobr gan yr Institute for Collaborative Working yn 2018 a chlod uchel yng nghystadleuaeth Gwobrau Go Wales yr un flwyddyn.

Meddai Julia Bottomley ar ran Innovate UK: Asesir pob adroddiad terfynol yn annibynnol ar ddiwedd rhaglen ac roedd yn bleser rhoi gwybod i’r tîm fod y bartneriaeth wedi ennill y clod uchaf.”

“Hoffwn i longyfarch pawb oedd yn ymwneud â chyflawni’r canlyniad hwn a diolch iddyn nhw am gyfrannu at y llwyddiant hwn.”

Trwy gyfarwyddyd y Dr Jane Lynch a chymorth Coralie Merchant, un o gyfranogion y bartneriaeth, mae Mabwysiadu ar y Cyd wedi sefydlu trefn a fydd yn hwyluso newid trawsffurfiol ynghylch cael gafael ar gymorth cymdeithasol, yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015.

Meddai Coralie: “Trwy fod yn un o gyfranogion y bartneriaeth, ces i gyfle unigryw i gydweithio â phobl mewn amryw feysydd, dysgu am eu gwaith a lledaenu syniadau...”

“Mae’n wych bod gwaith dyfal tîm cydweithredol y bartneriaeth wedi’i gydnabod am ymdrechion pob aelod ohono ynghylch sefydlu’r gwasanaeth hwn a’i roi ar waith.”

Coralie Merchant Un o yfranogion y bartneriaeth
Welsh Government funding logo

Mae rhagor am bartneriaethau o’r fath gan Innovate UK a Llywodraeth Cymru.

Rhannu’r stori hon

Am ragor o fanylion ar y broses cyllido ac ymgeisio.