Ewch i’r prif gynnwys

Canolfan Ymchwil Awtistiaeth Cymru: 10 carreg filltir dros 10 mlynedd

A Chanolfan Ymchwil Awtistiaeth Cymru yn dathlu ei phen-blwydd yn 10 oed, edrychwn yn ôl ar y 10 carreg filltir allweddol yn llwyddiant y ganolfan.

Yr Athro Sue Leekam agorodd y ganolfan - cyfleuster cenedlaethol cyntaf y deyrnas hon dros ymchwil i awtistiaeth - fis Medi 2010. Ers hynny, mae wedi ennill ei phlwyf yn ganolfan ymchwil o fri sy’n troi ymchwil yn bolisïau ac arferion. Ym mis Ebrill 2019, cymerodd Dr Catherine Jones yr awenau fel Cyfarwyddwr.

Mae tîm y ganolfan wedi dewis 10 peth sydd wedi bod yn hollbwysig i’w llwyddiant dros y cyfnod hwnnw.

Fyddai hynny i gyd ddim wedi digwydd heb haelioni ein partneriaid a'n noddwyr anhygoel. Yn anad neb, fodd bynnag, rhaid diolch i’r bobl awtistaidd a’u teuluoedd sydd wedi’n helpu a’n hysgogi. Ar ôl 10 mlynedd, dyma gyfle priodol inni nodi a dathlu 10 adeg dyngedfennol yn hanes y ganolfan ac edrych ymlaen at y 10 mlynedd nesaf.

Dr Catherine Jones Senior Lecturer and Director of WARC
Ffilm i helpu proffesiynolion rheng flaen i nodi arwyddion awtistiaeth mewn plant.
Ffilm i helpu proffesiynolion rheng flaen i nodi arwyddion awtistiaeth mewn plant.

1. Cryfhau ymwybyddiaeth o arwyddion awtistiaeth: Ffilm y Parti Pen-blwydd

Cydweithiodd y ganolfan â thîm awtistiaeth Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i lunio Y Parti Pen-blwydd, ffilm hyfforddi proffesiynolion rheng flaen. Mae'r ffilm yn defnyddio parti pen-blwydd plentyn i ddisgrifio sut mae ARWYDDION awtistiaeth yn wahanol mewn tri phlentyn. Mae’r arwyddion hynny wedi’u seilio ar ymchwil staff y ganolfan.

Mae sefydliadau megis y GIG, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth yn defnyddio’r ffilm i hyfforddi pobl a chodi ymwybyddiaeth ledled y wlad a’r tu hwnt. Mae wedi’i chyfieithu i chwe iaith - Eidaleg, Latfieg, Lithwaneg, Sbaeneg, Cymraeg a Ffrangeg a’i gweld dros 83,000 o weithiau.

Ganolfan Gwyddorau Datblygiadol Dynol Prifysgol Caerdydd
Ganolfan Gwyddorau Datblygiadol Dynol Prifysgol Caerdydd

2. Symud i Ganolfan Gwyddorau Datblygiadol Dynol Prifysgol Caerdydd

Ar ôl agor Canolfan Gwyddorau Datblygiadol Dynol Prifysgol Caerdydd fis Chwefror 2018, symudodd y ganolfan yno yn rhan o’i chyfleusterau ymchwil. Mae gwaith y ganolfan wedi’i gryfhau trwy fod yn rhan o sefydliad ehangach, gan roi cyfleoedd i gydweithio ag amrywiaeth o arbenigwyr ym maes y gwyddorau datblygiadol ac iechyd.

Rydyn ni wedi cydweithio â’r Uned dros Asesu Niwroddatblygiad a’r Astudiaeth o Gydlynu, Symud a’r Ymennydd o dan nawdd Sefydliad Waterloo a pheth arian ychwanegol o Gyngor yr Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol. Mae’r ganolfan yn elwa ar y cyfleusterau profi diweddaraf sy’n addas i bobl o bob oedran yn ei chartref presennol.

Rhwydwaith Ymchwil Adain Lorna, Canolfan Adain Lorna, Caint, 2012.
Rhwydwaith Ymchwil Adain Lorna, Canolfan Adain Lorna, Caint, 2012.

3. Cydweithio â Llywodraeth Cymru a gwasanaethau clinigol

Mae’r ganolfan wedi’i sefydlu yn rhan o gynllun gweithredu gyhoeddodd Llywodraeth Cymru yn 2008 er anhwylderau’r sbectrwm awtistaidd. Mae'r cyswllt unigryw hwn â'r llywodraeth wedi parhau wrth wraidd gwaith y ganolfan a bydd ei staff yn rhan o gylchoedd ymgynghorol gwladol yn rheolaidd.

Uchafbwynt 1: Helpu proffesiynolion ynghylch adnabod awtistiaeth

DSM-5 yw'r dull mae clinigwyr yn ei ddefnyddio ledled y byd i adnabod awtistiaeth. Mae ymchwil y ganolfan wedi helpu clinigwyr i’w ddefnyddio trwy lunio algorithm sy’n addas i’r Cyfweliad Diagnostig ar gyfer Anhwylderau Cymdeithasol a Chyfathrebu. Canolfannau Lorna Wing sy’n defnyddio’r algorithm yn y deyrnas hon.

Lluniodd y ganolfan set gydlynol o ddulliau diagnostig a chodi ymwybyddiaeth, hefyd. Maen nhw wedi’u mabwysiadu gan Wasanaeth Diagnostig Llywodraeth Cymru i Oedolion (Gwasanaeth Cyfun Awtistiaeth bellach). Roedd rhai o brif elfennau’r algorithm cyfweld yn ffilm y Parti Pen-blwydd ac ar bosteri wedi’u hanfon i feddygfeydd ledled Cymru, hefyd.

Uchafbwynt 2: Hybu cynhwysiant o ran argaeledd gwasanaethau a chymorth

Yn 2016, cynhaliodd y ganolfan seminar ar wasanaethau cyhoeddus yn rhan o gyfres unigryw (o dan nawdd Cyngor yr Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol) a ystyriodd bwysigrwydd cynnwys barn pobl awtistaidd a'u teuluoedd wrth lunio ymchwil. Canolbwyntiodd seminar Caerdydd ar sut i ddatblygu gwasanaethau cyhoeddus mwy effeithiol ar y cyd â'r gymuned awtistaidd.

Roedd y seminar yn ddylanwadol o ran tynnu sylw at wahaniaethau mewn gwasanaethau ac ystyried sut y dylen ni newid rhaglenni ymchwil a gwasanaethau cyhoeddus fel ei gilydd. Dyma ganfyddiadau'r seminar: Creu’r dyfodol gyda'n gilydd: llunio ymchwil i awtistiaeth trwy gyfranogiad ystyrlon.

Memory
Asesiad cof yn digwydd yng Nghanolfan Gwyddoniaeth Datblygiadol Dynol Prifysgol Caerdydd (CUCHDS).

4. Deall ymddygiad a diagnosis

WARC carry out work to support and improve the diagnosis, recognition and understanding of autism, which includes clarifying the nature of the autism spectrum. For example, the individual variation seen within autism and the overlaps between autism and other neurodevelopmental conditions (e.g. Attention Deficit Hyperactivity Disorder).

The team also explore the relationship between core autistic features and co-occurring features (e.g. anxiety and mental health), as well as investigating the post-diagnostic pathway for autistic children and how this might be improved.

Mae’r ganolfan yn cyflawni gwaith sy’n helpu i bennu diagnosis ac adnabod a deall awtistiaeth yn well, gan gynnwys diffinio natur y sbectrwm awtistaidd yn eglurach. Er enghraifft, yr amrywio unigol ym maes awtistiaeth a'r modd mae awtistiaeth a chyflyrau niwroddatblygiadol eraill megis anhwylder diffyg sylw gorfywiogrwydd yn gorgyffwrdd.

Mae'r tîm yn edrych ar berthynas nodweddion awtistaidd craidd â rhai sy'n cyd-ddigwydd megis gorbryder ac iechyd y meddwl hefyd, yn ogystal ag ymchwilio i lwybr ôl-ddiagnostig plant awtistaidd a sut mae’i wella.

Uchafbwynt 1: Llunio holiadur am awtistiaeth

Lluniodd y ganolfan y ffordd gyntaf o alluogi pobl i fesur pethau y bydden nhw’n eu gwneud dro ar ôl tro, Holiadur Ymddygiad Ailadroddus. Llwyddodd yr holiadur i ddidoli pobl awtistaidd a’r rhai nad ydyn nhw’n awtistaidd, a gall fod o gymorth ynghylch pennu diagnosis, hefyd. Lluniodd y ganolfan Holiadur Arwyddbyst Awtistiaeth hefyd, a’i brofi ymhlith rhieni plant awtistaidd yng Nghymru a Latfia. Gweithiodd yn dda ynghylch adnabod plant awtistaidd yn y ddwy wlad. Mae’r holiadur hwnnw’n ddefnyddiol i weithwyr proffesiynol y rheng flaen megis athrawon o ran gweld patrymau ymddwyn a allai effeithio ar y gweithredu beunyddiol.  Holiadur Ymddygiad Ailadroddus.

Gweld ein papurau ar RBQ-2A a'i ddatblygiad pellach, yn ogystal â'r SQ-A.

Uchafbwynt 2: Deall a gwella llwybr gofal plant awtistaidd

Ar y cyd â nifer o staff Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Abertawe, ymchwiliodd y ganolfan i lwybrau gofal plant awtistaidd a phrofiad teuluoedd ac asiantaethau o’r rheiny, gan gynnwys gofal iechyd ac addysg. Pwysleisiodd pob grŵp fod angen cydweithio, gan nodi nifer o feini tramgwydd yn hynny o beth. Er enghraifft: cyfathrebu gwael, methu â rhannu gwybodaeth gyflawn a diffyg cymorth ar ôl diagnosis.

Gweld rin papur llwybr gofal plant awtistaidd.

Social and Emotional
Gwneir asesiadau cymdeithasol ac emosiynol.

5. Deall prosesau biolegol a gwybyddol

Mae gan dîm y ganolfan ddiddordeb yn y modd y bydd pobl awtistaidd yn meddwl ac yn gweld y byd o’u cymharu â phobl eraill. Hoffen nhw ddeall sut y bydd ymennydd rhywun awtistaidd yn prosesu arwyddion cymdeithasol megis wynebau a llygaid yn ogystal â pha mor dda y gall pobl awtistaidd ddeall meddyliau pobl eraill.

Yn ystafell y ganolfan ar gyfer y synhwyrau, maen nhw’n ystyried sut mae plant awtistaidd yn defnyddio ystafelloedd tawelu’r synhwyrau ac yn ymateb i ysgogi synhwyraidd, hefyd. Mae diddordeb gan y tîm ynghylch sut y gallai ffyrdd rhywun awtistaidd o feddwl ac ymddwyn effeithio ar iechyd ei feddwl, hefyd.

Uchafbwynt 1: Effeithiau mecanweithiau awtistiaeth ar anorecsia

Bydd awtistiaeth ac anorecsia yn cyd-ddigwydd yn aml, er nad yw’n hysbys pam mae’n digwydd na pha fath o gymorth fyddai orau. Trwy nawdd Autistica, roedd cyfle i ymchwilwyr o’r ganolfan a Choleg Prifysgol Llundain siarad â merched awtistaidd sy’n dioddef ag anorecsia yn ogystal â rhieni a phroffesiynolion. Roedden nhw’n gallu nodi rhai o fecanweithiau awtistiaeth (megis gwahaniaethau synhwyraidd ac anawsterau cymdeithasu) a allai fod wrth wraidd anorecsia merched awtistaidd.

At hynny, dysgon nhw nad yw gwasanaethau anhwylderau bwyta yn deall awtistiaeth yn dda ac y gallai newidiadau syml megis peth addasu synhwyraidd fod o les i’r rhai sy’n defnyddio gwasanaethau awtistiaeth.

Gweld ein papurau ar fecanweithiau awtistig-benodol a phrofiad gwasanaeth.

Uchafbwynt 2: Deall patrymau ymddygiad di-eiriau

Mae peth o ymchwil y ganolfan yn taflu goleuni ar wybyddiaeth gymdeithasol pobl awtistaidd yn sgîl datblygu paradeimau arbrofol newydd. Mae’r ganolfan wedi ystyried gwahaniaethau yn y modd y bydd pobl yn gweld wynebau a sut y gall ymwneud cymdeithasol effeithio ar hynny.

Gwelodd y tîm fod pobl ac arnynt sawl nodwedd awtistaidd yn tueddu i edrych yn llai ar wyneb rhywun mewn sgwrs. Bellach, maen nhw’n ystyried a all cydamseru cymdeithasol (ein ffyrdd o amseru rhyngweithio cymdeithasol) fod yn wahanol i bobl awtistaidd.

Gweld ein papurau ar batrymau newydd a syllu ar y llygaid yn ystod rhyngweithio.

Language
Asesiad iaith yn CUCHDS.

6. Deall cyfathrebu, teuluoedd a pherthnasoedd

Mae’r ganolfan yn cynnal ymchwil i’r modd y bydd pobl awtistaidd yn cyfathrebu â’i gilydd a phobl eraill a sut y gallai’r cyfathrebu effeithio ar yr unigolyn, teuluoedd a pherthnasoedd. Mae’r ymchwilwyr wedi bod yn edrych ar y cyfathrebu rhwng plant awtistaidd, eu rhieni a’u therapyddion yn ystod triniaeth yn ogystal ag ystyried cyfathrebu yn ystod cyfnod y cymorth ar ôl diagnosis.

Rydyn ni wedi bod yn darganfod sut mae pobl awtistaidd yn defnyddio strategaethau gwneud iawn yn eu bywydau bob dydd.

Uchafbwynt 1: Deall strategaethau cydadferol

Bydd rhai pobl awtistaidd yn ceisio cuddio eu nodweddion mewn sefyllfaoedd cymdeithasol. Holon ni dros 100 o oedolion awtistaidd am eu mathau o ymddwyn a gweld eu bod yn tueddu i ddefnyddio strategaethau efelychu ymddygiad pobl, dysgu pryd y dylen nhw chwerthin ar ôl clywed jôc a chuddio diddordebau arbennig.

Gallai effeithiau strategaethau fod yn fuddiol (megis hel ffrindiau) neu niweidiol (megis afiechyd y meddwl a methu ag adnabod awtistiaeth ar adeg diagnosis). I roi’r cymorth gorau i bobl awtistaidd, dylai clinigwyr a phroffesiynolion eraill fod yn fwy effro i strategaethau o’r fath.

Gweld ein papurau ansoddol a meintiol ar iawndal mewn awtistiaeth.

Gweld ein papur ansoddol ar geiwiso cuddio awtistiaeth a'n papurau meintiol ar iawndal mewn awtistiaeth.

Uchafbwynt 2: Seinyddion craff er lles a chyfathrebu

Ar y cyd ag elusen leol o’r enw Ymddiriedolaeth Innovate, ymchwilion ni i ddeilliannau cynnig seinyddion craff i dros 80 o oedolion oedd yn byw mewn llety gyda chymorth. Roedd gan bob un anabledd deallusol ac roedd awtistiaeth gan rai, hefyd. Gwelon ni fod tua 80% ohonyn nhw’n mwynhau defnyddio seinyddion craff am eu bod wedi rhoi hwb i’w hannibyniaeth.

Daeth i’r amlwg bod lleferydd y rhai oedd wedi defnyddio’r seinyddion craff yn haws ei ddeall wedyn, hefyd. Mae'r canfyddiadau hyn yn awgrymu y gallai technolegau craff fod o gymorth o ran gwella lles a chyfathrebu fel ei gilydd.

Gweld ein papur ar siaradwyr craff a lles a chyfathrebu.

Madrid WARC visit
mweliad yr Athro Sue Leekam â Grŵp Ymchwil Traberitea, Universidad Autonoma de Madrid, 2017.

7. Cydweithio: ymwelwyr ac ymweld

Rydyn ni wedi lledaenu’r hyn sy’n digwydd ar ein safle yn ystod sawl ymweliad ymchwil a dysgu llawer oddi wrth ein cydweithredwyr a’n cyfeillion byd-eang. Dyma enghreifftiau o’n hymweliadau:

  • Ymwelodd sylfaenydd y ganolfan, yr Athro Sue Leekam, â Grŵp Ymchwil Traberitea, Universidad Autonoma de Madrid, yn 2017.
  • Ymwelodd cydymaith ymchwil, Sarah Barrett, â Phrifysgol Latfia a Chymdeithas Awtistiaeth Latfia yn 2017 o dan nawdd Cymdeithas Seicolegol Prydain.
  • Ymwelodd myfyriwr PhD, Katy Unwin, â Chanolfan Ymchwil Awtistiaeth Olga Tennison, Awstralia, yn 2017 o dan nawdd Cyngor yr Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol.

Rydyn ni wedi croesawu sawl ymchwilydd, clinigwr a lluniwr polisïau cenedlaethol a rhyngwladol hefyd, megis:

  • Cynrychiolwyr o Latfia a Gweinidog Cymru dros y Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd y Cyhoedd yn 2017.
  • Seicolegwyr datblygiadol uchel eu parch o Awstralia, yr Athro Alison Lane, yr Athro Cheryl Dissanayake a'r Athro Lesley Stirling yn 2018.
  • Yr Arglwydd Dafydd Wigley a Chadeirydd Cymdeithas Awtistiaeth Latfia, Līga Bērziņa yn 2014.
  • Cydweithredwr SIGNS Ewrop, y Dr Marcella Caputi, o Brifysgol Torino yn 2019.
  • Yr Athro Emiko Kezuka o Brifysgol Merched Ardal Gunma, Siapan, yn 2016.
Zoe graduation
Graddiodd Zoe Baberg-Collins ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2019. Yn ei thraethawd doethurol, edrychodd ar effaith awtistiaeth ac anhwylder diffyg sylw gorfywiogrwydd ar fedrau darllen a gwybyddiaeth gymdeithasol.

8. Hyfforddi'r to nesaf

Rydyn ni wedi cael y fraint o hyfforddi sawl myfyriwr dawnus sydd wedi dilyn amrywiaeth helaeth o yrfaoedd yn sgîl ennill doethuriaeth.

Dyma rai o’n graddedigion:

  • Zoe Baberg-Collins (Llywodraeth Cymru)
  • Sarah Barrett (Swyddfa’r Ystadegau Gwladol)
  • Silvia Colonna (Llywodraeth Cymru)
  • Rhiannon Fyfield (Seicolegydd Addysg)
  • Anastasia Kourkoulou
  • Lai-Sang Iao (Darlithydd, Prifysgol Nottingham Trent)
  • Rachel Kent (Seicolegydd Clinigol)
  • Julie Mullis (GIG Cymru)
  • Sarah Thompson (Cydymaith Ymchwil, Canolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant, Prifysgol Caerdydd)
  • Mirko Uljarević (Uwch Gymrawd Ymchwil, Prifysgol Melbourne)
  • Katy Unwin (Cymrawd Ymchwil Ôl-ddoethurol, Canolfan Ymchwil Awtistiaeth Olga Tennison, Melbourne)
  • Alice Winstanley (Comisiwn Ansawdd Gofal).

Rydyn ni wedi goruchwylio sawl cynorthwywr ymchwil ac intern hefyd, yn ogystal â phrosiectau ymchwil ar gyfer gradd meistr (Alexandra Gough, Lottie Hopkins, Katy Warren) a seicolegwyr clinigol o dan hyfforddiant (Gareth Davies, Marcus Lewton).

Rydyn ni wedi hyfforddi cyfranogion sydd newydd ddechrau eu gyrfaoedd hefyd, megis: Y Dr Sarah Carrington (Darlithydd, Prifysgol Aston), y Dr Jane Lidstone (Prifysgol Durham), y Dr Georgina Powell (Prifysgol Caerdydd), y Dr Louise White (Swyddfa’r Ystadegau Gwladol).

Sensory room
Amgylchedd amlsynhwyraidd WARC.

9. Agor ystafell synhwyraidd y ganolfan

Yn 2018, agoron ni ystafell tawelu’r synhwyrau yng Nghanolfan Prifysgol Caerdydd dros y Gwyddorau Datblygiadol Dynol ychydig ar ôl ei sefydlu. Gallen ni agor yr ystafell o ganlyniad i gytundeb noddi rhwng Mike Ayres Design a Phrifysgol Caerdydd.

Mae’n hymchwil yn helpu i hel tystiolaeth ar gyfer canllawiau fydd o gymorth mawr i’r rhai sy’n defnyddio ystafelloedd tawelu’r synhwyrau i blant ac oedolion awtistaidd. I’r perwyl hwnnw, rydyn ni wedi bod yn cynghori canolfan ymchwil i Iechyd y meddwl ymhlith plant, rhan o ysbyty triniaeth yr ymennydd yn Tsieina, sydd wrthi’n adeiladu ystafell o’r fath.

National Autistic society
Mae Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth yn cydweithio’n agos â ni ac rydyn ni wedi cynnal rhai achlysuron ar y cyd.

10. Ymgysylltu â'r gymuned

Rydyn ni’n gwerthfawrogi ein hymgysylltu â phobl awtistaidd a’u rhieni ac rydyn ni wedi bod yn ddigon ffodus i gael sawl cyfle i gynnal achlysuron yn y gymuned.

Dyma rai enghreifftiau:

  • Digwyddiadau ar y cyd â Changen Caerdydd a Bro Morgannwg Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth. Prifysgol Caerdydd, 2012 a 2014.
  • Gŵyl Gwyddorau Gymdeithasol Cyngor yr Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, 'Camu y tu mewn i feddyliau plant', 2018.
  • Helpu Tim Rhys i lunio ‘Quiet Hands’, drama am oedolyn awtistaidd gydag actor awtistaidd, Joshua Manfield, yn y brif rôl o dan nawdd Cyngor Celfyddydau Cymru, 2017.
  • Diwrnod Agored Prosiect Darganfod Prifysgol Caerdydd 2015, gan helpu pobl ifanc awtistaidd i bontio o'r ysgol i'r brifysgol.
  • 'Arddangosfa Awtistiaeth' AP Cymru a Phrifysgol Caerdydd, 2019.

Llawer o ddiolch i Lynda Morgan a Bev Winn am gyflawni rôl bwysig ynghylch cysylltu â chymunedau yn ystod blynyddoedd cynnar y ganolfan hon. Diolch i Nicola Hall a Jamie Williams, ymgynghorwyr gwefannau cymunedol, am y degawd cyntaf, hefyd.

Diolch i gefnogwyr Canolfan Ymchwil Awtistiaeth Cymru

Cafodd Canolfan Ymchwil Awtistiaeth Cymru ei chreu drwy gydweithrediad unigryw rhwng Autism Cymru ac Autistica, Ysgol Seicoleg Prifysgol Caerdydd a Llywodraeth Cymru. Fe'i cefnogwyd gan roddion hael gan yr uchod, yn ogystal ag Autism Initiatives, Cronfa Elusennol Baily Thomas, Sefydliad Waterloo, Sefydliad Jane Hodge, Research Autism a Phrif Elusen y Seiri Rhyddion.

Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, hoffai’r Ganolfan ddiolch o galon i’r cefnogwyr hyn, yn arbennig Hugh Morgan (Autism Cymru), Hilary Gilfoy (Autistica) a Dylan Jones (Prifysgol Caerdydd). Mae'r tîm hefyd yn diolch i'r holl sefydliadau sydd wedi cyllido eu prosiectau ymchwil, yn ogystal â'r ymchwilwyr talentog sydd wedi cyfrannu at lwyddiant y Ganolfan. Mae'r diolch olaf i’r nifer fawr o bobl ag awtistiaeth a'u teuluoedd sydd wedi cefnogi ac ysbrydoli gwaith y Ganolfan.