Ewch i’r prif gynnwys

Cymryd rhan mewn ymchwil

Research participation

Cymerwch ran yn ein gwaith ymchwil a’n helpu i ehangu ein gwybodaeth a deall sut i wella bywydau cleifion.

Rydym bob amser yn edrych am aelodau o’r cyhoedd i helpu gyda’n gwaith ymchwil, ac mae nifer o ffyrdd y gallwch gymryd rhan. Mae’r mathau o waith ymchwil yn amrywio o brofion syml am ymddygiad, defnyddio holiaduron neu dasgau cyfrifiadurol, i astudio genynnau, gwybyddiaeth a swyddogaeth yr ymennydd.

Cyfleoedd ar gyfer cymryd rhan mewn ymchwil

Panel Cymunedol Caerdydd

Rydym yn edrych am wirfoddolwyr rhwng 18 a 90 mlwydd oed i gymryd rhan yn ein gwaith ymchwil. Rydym yn ymchwilio i ystod eang o bynciau, gan gynnwys y ffordd rydym yn gweld, cofio, dysgu a rhesymu. Rydym hefyd yn edrych ar sut y caiff ein hagweddau eu creu, sut mae emosiynau yn dylanwadu ar ein hymddygiad, a sut gall ein cyfansoddiad seicolegol gael effaith ar ein hiechyd a’n lles.

Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy am ein gwaith ymchwil, a chael eich talu am gymryd rhan o bosibl, ebostiwch communitypanel@caerdydd.ac.uk.

Y Gronfa Ddata Colli Golwg Niwrolegol

Rydym yn chwilio am bobl i gymryd rhan mewn gwaith ymchwil ar gyfer astudio colli golwg niwrolegol. Rydym yn recriwtio’r rhai hynny sydd wedi colli eu golwg mewn unrhyw ffordd yn ogystal ag unigolion iach sy’n gallu gweld yn iawn, er mwyn eu cymharu gyda’r rhai hynny sydd wedi colli eu golwg. Rydych yn gymwys i gofrestru ar gyfer ein cronfa ddata colli golwg niwrolegol cyhyd â’ch bod dros 18 mlwydd oed.

I gael rhagor o wybodaeth am y gronfa ddata gallwch lawrlwytho ein taflen wybodaeth. Os oes gennych ddiddordeb mewn cael eich talu i gymryd rhan, cwblhewch ein holiadur ar-lein.

Grŵp Ffrwythlondeb Caerdydd

Nod ein hastudiaethau yw ennyn dealltwriaeth o bob agwedd ar atgynhyrchu, gan gynnwys iechyd atgynhyrchiol dynion a menywod, gwella cyfleoedd i feichiogi a rhoi cyngor ynghylch gwneud polisïau ar bynciau yn y maes hwn.

Rhagor o wybodaeth am sut i gymryd rhan gyda Grŵp Ffrwythlondeb Caerdydd.

Development@Cardiff

Mae gennym ddiddordeb mewn sut mae bodau dynol yn dysgu am y byd o adeg eu geni, gyda’r nod o ddeall datblygiad cymdeithasol a gwybyddol. Mae’r astudiaethau hyn yn helpu i lywio polisi cyhoeddus a chynllunio rhaglenni addysg ar gyfer plant.

Rhagor o wybodaeth am sut i gymryd rhan gyda Development@Cardiff.

Canolfan Ymchwil Awtistiaeth Cymru

Rydym yn rhan o waith ymchwil amlddisgyblaethol sy’n anelu at nodi ffactorau risg, helpu gyda rhoi diagnosis, a datblygu dulliau ymyrryd ar gyfer awtistiaeth.

Rhagor o wybodaeth am sut i gymryd rhan gyda Chanolfan Ymchwil Awtistiaeth Cymru.

Cysylltwch â ni

Cysylltwch â ni os ydych eisiau rhagor o wybodaeth ynghylch cymryd rhan yn ein gwaith ymchwil:

Yr Ysgol Seicoleg