Ewch i’r prif gynnwys

Ymgysylltiad Therapïau Gwybyddol Ymddygiadol

CBT

Mae’r Tîm Therapi Ymddygiad Gwybyddol wedi ymgysylltu â gwasanaethau ledled Cymru i wella lles cymdeithasol ac economaidd pobl yng Nghymru.

Mae tîm y rhaglen wedi cynnal nifer o weithgareddau allanol, yn ogystal ag ymgymryd â gofynion mewnol eu swyddi.

Ymgysylltu proffesiynol

Mae’r rhaglenni wedi ymgysylltu â dros 100 o staff o amrywiaeth eang o gefndiroedd proffesiynol (seiciatryddion, gweithwyr cymdeithasol, seicolegwyr clinigol, seicolegwyr iechyd, nyrsys iechyd meddwl, therapyddion galwedigaethol) a gwasanaethau (plant, oedolion, oedolion hŷn, gwasanaethau dibyniaeth a’r gwasanaeth carchardai).

Ymgysylltu â chleifion

Mae myfyrwyr (staff) wedi cynnal ymarfer cymwys gyda tua 300 o gleifion (a llawer mwy y hwnt i hyfforddiant). Mae adroddiadau achos yn dangos buddion seicolegol, cymdeithasol ac economaidd i’r cleifion hyn.

Ymgysylltu â’r cyfryngau

Cafodd rhaglen deledu ei darlledu, a oedd yn dangos claf o Gymru a oedd o’r farn bod y triniaeth therapi gwybyddol ymddygiadol (a hyfforddwyd gennym ni) wedi atal ei hunanladdiad. Mae archwiliad wedi’i wneud sy’n dangos effaith y rhaglenni ar allu gwasanaethau i fodloni’r safonau ar gyfer gofal cleifion fel y nodir gan Lywodraeth Cymru a’r Adran Iechyd.

Ymgysylltu â’r GIG

Mae arweinwyr gwasanaethau’r GIG wedi cael eu croesawu ar ymweliadau i’r ysgol, mae digwyddiadau estyn allan wedi’u cynnig i wasanaethau’r GIG yn eu hardal leol, ac mae goruchwylwyr maes wedi’u gwahodd i ddigwyddiadau hyfforddi rhad ac am ddim.

Mae staff y rhaglen wedi cwrdd ag arweinwyr gwasanaethau’r GIG, cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, aelodau’r Cynulliad a rheolwyr y Bwrdd Iechyd.