Ewch i’r prif gynnwys

Bocs Brên

Mae'r Bocs Brên yn becyn addysg rhyngweithiol ar gyfer athrawon seicoleg a bioleg Safon Uwch.

Mae'r Bocs Brên, a gafodd ei ddylunio gan yr Ysgol Seicoleg a Fferylliaeth, yn cymryd gweithgareddau o'n rhaglen hynod lwyddiannus Gemau'r Ymennydd, a'u hailddychmygu fel pecyn cymorth ar gyfer athrawon seicoleg a bioleg Safon Uwch.

Dechreuodd Gemau'r Ymennydd yn 2013 fel rhaglen allgymorth niwrowyddoniaeth sydd wedi bod yn hynod lwyddiannus o ran cynyddu ymwybyddiaeth o wyddor yr ymennydd ymhlith myfyrwyr cyfnod allweddol 2 drwy wasanaethau, gweithdai ac mewn digwyddiad blynyddol. Yn ogystal ag ailddylunio gemau sy'n bodoli eisoes o Gemau'r Ymennydd, rydym hefyd wedi datblygu gemau newydd sy'n addas i gynulleidfa hŷn.

Ochr yn ochr â'r gemau, mae'r blwch yn cynnwys cyfres o fideos sy'n egluro sut i baratoi'r gemau ac ystyr y canlyniadau.

Instructions thumbnail v1

Cyfarwyddiadau i ddefnyddio'r Bocs Brên

Mae gan bob fideo hyfforddi adran 'Gosod' ac 'Esbonio'.

Adnoddau ychwanegol

Fel adnodd ychwanegol, mae gennym Restr Chwarae YouTube sy'n cynnwys fideos sy'n ymdrin â nifer o bynciau gan gynnwys canfyddiad lliw, swyddogaeth yr ymennydd, defnydd o'r cyfryngau cymdeithasol ac iechyd meddwl. Mae pob croeso i chi eu defnyddio yn eich gwersi.

Adborth

Er mwyn cadw cofnod o sut mae'r pecynnau hyn yn cael eu defnyddio, gofynnwn i'r holl athrawon gwblhau arolwg adborth munud o hyd bob tro ar ôl i chi ddefnyddio'r pecyn Bocs Brên.

Cwblhau ein harolwg adborth

Cyswllt

Paul Allen

Paul Allen

Digital Media Producer

Email
allenph@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 6583

Ariannwyd gan Wellcome Trust.