Ewch i’r prif gynnwys

Rhaglen Arwain a Gweinyddu Busnes (LBA) Caerdydd

Mae ein cwrs LBA Caerdydd (Arwain a Gweinyddu Busnes) wedi'i lunio i fod yn rhagflas yn y gweithle ar y rhaglen MBA i Weithredwyr. Bydd yn eich helpu i ddatblygu arbenigedd busnes hanfodol a gwella eich perfformiad proffesiynol er mwyn eich galluogi i wireddu eich potensial gyrfaol.

Mae'r cwrs hwn ar gael fel rhaglen bwrpasol hefyd y gallwn ei theilwra i'ch gofynion penodol. Os hoffech drafod hyn cysylltu â ni.

Bydd y rhaglen gyffrous hon yn rhoi'r wybodaeth a'r hyder sydd eu hangen arnoch i fabwysiadu rôl arweiniol yn eich sefydliad. Bydd yn eich helpu i ddatblygu eich arbenigedd strategol a chynnig y ddealltwriaeth sydd ei hangen arnoch i ddylanwadu ac effeithio ar newid go iawn.

Dylunir LBA Caerdydd i gyd-fynd â’ch ymrwymiadau gwaith a chartref, gan ei bod yn cael ei chyflwyno trwy sesiynau undydd dros gyfnod o 12 mis. Byddwch yn gallu mynd yn ôl at eich sefydliad gyda syniadau a’u rhoi ar waith yn syth bin.

Mae darlithwyr yn cynnwys: Dr Sarah Hurlow, David Jones, yr Athro Maneesh Kumar, Stephen Thomas, Richard Strudwick, yr Athro Aoife McDermottRachel WilliamsDr Richard Baylis a'r Athro Rob Morgan.

Tîm y Rhaglen Addysg i Weithredwyr, Ysgol Busnes Caerdydd fydd eich hyfforddwr.

Nid oes unrhyw ddyddiadau ar y gweill

Ar hyn o bryd, nid oes dyddiadau ar gael cyn bo hir ar gyfer y cwrs hwn, ond gallwch chi . Byddwn ni mewn cysylltiad pan fydd dyddiad newydd ar gyfer y cwrs wedi cael ei drefnu.

Aeth rhywbeth o'i le

Nid yw'ch ymholiad wedi'i gyflwyno. Cysylltwch â ni drwy ebostio training@caerdydd.ac.uk neu ffonio +44 (0)29 2087 5274.

Mae'r maes hwn yn ofynnol. Nodwch eich enw cyntaf.
Mae'r maes hwn yn ofynnol. Nodwch eich cyfenw.
Mae'r maes hwn yn ofynnol. Nodwch eich cyfeiriad ebost.
A hoffech dderbyn y newyddion diweddaraf am y cwrs hwn, yn ogystal â newyddion, digwyddiadau a chynigion CPD?

Hysbysiad am breifatrwydd a diogelu data

Bydd Prifysgol Caerdydd yn prosesu’r data personol a ddarparwyd gennych yn unol â rheoliadau diogelu data. Drwy gyflwyno eich manylion, rydych yn caniatáu i’r Brifysgol brosesu eich data personol er mwyn anfon gwybodaeth atoch, yn unol â’r dewisiadau a nodwyd gennych uchod a rheoliadau diogelu data. Cewch newid eich meddwl ynglŷn â rhoi caniatâd ar unrhyw adeg drwy gysylltu â’r Tîm Datblygiad Proffesiynol.

Ewch i’n tudalennau gwybodaeth gyhoeddus i gael rhagor o wybodaeth am ein Polisi Diogelu Data, eich hawliau, a sut i fynegi pryder ynghylch sut y caiff eich data bersonol ei brosesu.Gallwch gysylltu â’n Swyddog Diogelu Data yn uniongyrchol - inforequest@caerdydd.ac.uk. Gallwch hefyd fynegi unrhyw bryder drwy gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).

Diolch

Rydych wedi llwyddo i gofrestru eich diddordeb yn y cwrs hwn. Byddwn yn cysylltu â chi os bydd dyddiadau newydd ar gael.

Ar gyfer pwy mae hwn

Mae’r rhaglen hon wedi’i dylunio i ddiwallu anghenion rheolwyr canol profiadol sy’n chwilio am ffyrdd o ddatblygu eu dealltwriaeth a’u gwybodaeth o fyd busnes er mwyn hybu eu gyrfaoedd.

Mae’n addas ar gyfer y rheiny sydd am ddysgu mewn sesiynau byrion a gynhelir unwaith y mis trwy’r flwyddyn - ac nad oes angen achrediad neu asesiad arnynt.

Beth fyddwch yn ei ddysgu

Mae LBA Caerdydd yn MBA ‘mini’, os mynnwch, sy’n rhoi gwybodaeth fusnes arbenigol i chi a’r hyder sydd ei angen i gymryd rôl flaengar yn eich sefydliad - ond heb ddrysfa asesiadau ac aseiniadau!

Bydd yr holl sesiynau yn darparu sawl cyfle i chi werthfawrogi sut mae'r cysyniadau busnes yn berthnasol i’ch gwaith a/neu’n effeithio arno.

Rhoddir sawl enghraifft o amryw o sectorau er mwyn egluro’r pwyntiau dysgu allweddol. Ar ôl pob sesiwn, gallwch roi’r hyn y byddwch wedi’i ddysgu ar waith yn ymarferol ar unwaith.

Rhaid i bawb gydio’n frwd yn y rhaglen a bydd yn hanfodol cwblhau gwaith prosiectau.

Pynciau dan sylw

Arweinyddiaeth ddigidol

  • Tywys sefydliadau'r sector cyhoeddus a'r sector preifat fel ei gilydd ar hyd y llwybr o'r byd analog i'r byd digidol
  • Archwilio'r camau ymarferol y gall arweinwyr eu cymryd er mwyn cyflwyno newidiadau i'w sefydliadau
  • Agile a'r MVP
  • Gweithio gyda chyflenwyr technoleg
  • Byrddau ac arweinyddiaeth ddigidol
  • Pwysigrwydd seiberddiogelwch.

Rheoli gweithrediadau

  • Deall technegau allweddol ar gyfer rheoli gweithrediadau
  • Defnyddio technegau dychmygu i helpu i ddatrys problemau
  • Dulliau gwella parhaus a sut mae’u cymathu
  • Deall anawsterau cynhenid o ran rheoli gweithrediadau.

Timau sy’n rhagori

  • Ffyrdd ymaddasol a dosbarthedig o arwain
  • Meithrin meddylfryd iach mewn tîm
  • Diogelwch seicolegol
  • Datrys problemau ar y cyd
  • Meithrin meddylfryd iach mewn tîm.

Adnoddau dynol a rheoli perfformiad

  • Meithrin gwybodaeth a dealltwriaeth ynghylch prif ddulliau ac arferion adnoddau dynol
  • Astudio’r materion allweddol sy’n codi wrth reoli adnoddau dynol (HRM)
  • Gwerthuso ac asesu effeithiolrwydd gwahanol weithgareddau ym maes adnoddau dynol o amryw safbwyntiau cyfundrefnol
  • Deall effaith polisïau personél ar lwyddiant masnachol, cydymffurfiaeth â’r gyfraith ym maes cyflogaeth a’r gallu i gadw at safonau moesegol cydnabyddedig.

Materion ariannol i reolwyr anariannol

  • Sut i ddehongli cyfrifon, adroddiadau o elw a cholled, mantolenni a chymarebau ariannol
  • Rheoli cyfalaf gweithredol, stoc, credydwyr, dyledwyr ac arian
  • Pennu a rheoli cyllidebau
  • Cofnodi a rheoli costau.

Marchnata digidol

  • Dadansoddi Sefyllfaol
  • Strategaeth
  • Amcanion
  • Tactegau
  • Gweithredu a rheoli.

Rheoli strategol

  • Deall a defnyddio syniadau strategol a dulliau dadansoddi sylfaenol ym maes rheoli
  • Adnabod, arfarnu ac asesu prosesau strategol mewn sefydliadau
  • Canfod problemau strategol a gwerthuso dewisiadau strategol
  • Dangos ymwybyddiaeth o foeseg a rôl a hawliau amryw fudd-ddalwyr er mwyn ateb eu gofynion.

Datblygiad proffesiynol ac arweinyddiaeth

  • Gwahanol ffyrdd o arwain
  • Deall arweinyddion fel unigolion o’i chymharu ag arweinyddiaeth fel proses
  • Adnabod mathau o bersonoliaethau a’r gwaith sydd orau gan bobl - paratoi cynlluniau gweithredu i wella effeithiolrwydd personol
  • Adnabod y ffactorau sefydliadol angenrheidiol i feithrin ffordd ddosbarthedig neu gydweithredol o arwain.

Manteision

  • Mae Ysgol Busnes Caerdydd yn 6ed yn y DU o ran rhagoriaeth ymchwil - mae LBA Caerdydd yn rhoi'r cyfle i chi gwrdd a gweithio gyda'n cyfadran academaidd ragorol, ar ystod o bynciau gwahanol, mewn ffordd hwylus sy'n ysgogi'r meddwl.
  • Bydd yr addysgu'n gwbl berthnasol i’r gweithle fel y gallwch ddechrau rhoi’r hyn rydych wedi’i ddysgu ar waith yn syth ar ôl sesiwn.
  • Mae'r sgyrsiau yn y rhaglen yn gysylltiedig â problemau'r byd go iawn y mae’r myfyrwyr yn eu hwynebu yn y gwaith a’r rhai rydych yn debygol o’u hwynebu yn y dyfodol
  • Rhoddir sawl enghraifft addysgu o amryw sectorau er mwyn egluro’r pwyntiau dysgu allweddol.
  • Bydd Ysgol Busnes Caerdydd yn rhoi Tystysgrif Presenoldeb Addysg i Weithredwyr ar yr amod bod pob elfen addysgol o’r rhaglen wedi’i gorffen.
  • Mae hon yn rhaglen hyblyg iawn, wedi'i dylunio i gyd-fynd ag ymrwymiadau presennol o ran gwaith ac ar yr aelwyd. Gallwch ddewis mynd i bob sesiwn neu dim ond y rheini sydd bennaf o ddiddordeb i chi.
  • P’un a ydych eisoes â’r dwymyn ddysgu, neu os yw hi wedi bod yn sbel ers i chi fod yn y Brifysgol (neu yn well fyth, os nad ydych wedi astudio o’r blaen) bydd gweithio gydag Ysgol Busnes Caerdydd yn tanio eich angerdd dros syniadau a ffyrdd newydd o feddwl.
Mae'r rhaglen hon wedi'i chynllunio i fod yn hyblyg fel y gallwch astudio’r sesiynau sydd o ddiddordeb i chi yn unig.