Cymorth ar gyfer y Lluoedd Arfog
Rydym yn falch o gefnogi cyn-filwyr/menywod sy'n ceisio ail-hyfforddi yn ôl yn y byd sifil.
Llofnododd y Brifysgol y Cyfamod â’r Lluoedd Arfog, sy'n amlinellu ein haddewid i gefnogi myfyrwyr a staff sy'n gysylltiedig â chymuned y Lluoedd Arfog. Mae’r Cyfamod â’r Lluoedd Arfog yn addewid gan y genedl i wneud yn siŵr bod y rhai sy’n gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog a’u teuluoedd yn cael eu trin yn deg.
Fel rhan o'r Cyfamod, mae'r Brifysgol wedi penodi’r Is-gapten Paul Thomas fel ein Hyrwyddwr Lluoedd Arfog cyntaf. Mae Paul yn Filwr Wrth Gefn i’r Llynges Frenhinol ac yn ogystal â'i rôl yn y Brifysgol, mae'n helpu i ddatblygu a chefnogi Cymuned Lluoedd Arfog Prifysgol Caerdydd. Mae rhagor o wybodaeth am ymrwymiad y Brifysgol i gyn-filwyr y Lluoedd Arfog a'u teuluoedd ar ein gwefan, gan gynnwys manylion cyswllt ar gyfer Paul a phobl defnyddiol eraill.
Pwy ydym ni: yr Uned DPP
Rydym yn Uned Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) ymroddedig yn y Brifysgol - gallwn eich helpu i gael gafael ar gymorth, hyfforddiant a chyfleoedd eraill ar draws ein Hysgolion a’n Colegau academaidd. Rydym yn dîm o wyth, gyda chysylltiadau ar draws y Brifysgol.
Sut gallwn ni helpu
Fel cyn-filwr i’r lluoedd arfog sy'n dychwelyd i fywyd sifil, mae llawer o gyfleoedd ar gael ar eich cyfer yn y Brifysgol, gan gynnwys cynlluniau a ariennir. Yn yr Uned DPP rydym yn helpu unigolion a busnesau i gael gafael ar gyfleoedd hyfforddiant a datblygu.
Gall y rhain fod yn gyrsiau byr er mwyn eich helpu i ddatblygu sgil penodol (megis arweinyddiaeth, rheolaeth neu farchnata) neu hyd yn oed modiwlau lefel ôl-raddedig (y gellir eu hastudio ar eu pen eu hunain heb yr angen y ymrwymo i gwrs llawn-amser). Mae hefyd llawer o gyrsiau rhan-amser yn y prynhawn ar gael drwy Addysg Broffesiynol Barhaus (ABB), gan gynnwys ein cynllun Llwybrau poblogaidd, sy'n helpu myfyrwyr i gael mynediad at radd heb orfod cael cymwysterau ffurfiol.
Parhewch i ddarllen er mwyn cael rhagor o wybodaeth.
Cynlluniau a ariennir
Mae nifer o gynlluniau a ariennir yn agored i aelodau (a chyn-aelodau) y Lluoedd Arfog.
Cynllun Credydau Dysgu Uwch (ELC)
Rydym yn Ddarparwr Dysgu Cymeradwy ar y cynllun Credydau Dysgu Uwch. Mae'r cynllun hwn yn hyrwyddo gwaith dysgu gydol oes ymysg aelodau o'r lluoedd arfog, a gall ddarparu cymorth ariannol.
Milwyr i Athrawon
Mae cyllid gwerth £40,000 ar gael i gyn-fyfyrwyr astudio ar lefel gradd israddedig - dysgwch fwy am hyfforddi i Addysgu yng Nghymru.
Bwrsariaeth Lluoedd Arfog
Rydym hefyd yn cynnig bwrsariaeth ar gyfer cyn-filwyr y lluoedd, gellir cael manylion amdano yn ein tudalen bwrsariaethau.
Cyfleoedd am Hyfforddiant
Yn dibynnu ar y lefel o hyfforddiant rydych am ei archwilio, mae nifer o gyfleoedd yn y Brifysgol.
Yn yr Uned DPP, rydym yn gyfrifol am ddatblygiad proffesiynol. Mae nifer o opsiynau ar gael:
Cyrsiau hyfforddi byr
Mae gennym amrywiaeth eang o gyrsiau datblygu proffesiynol byr, a chynhelir y rhan fwyaf ohonynt ar Ffordd Senghennydd. Mae'r rhaglen hon yn ymdrin â phynciau megis marchnata, cyfathrebu ar-lein, rheoli prosiectau a rheoli pobl. Mae'r math hwn o gwrs yn addas i chi os ydych am wella eich sgiliau mewn maes penodol, neu os oes angen i chi feithrin sgiliau newydd er mwyn datblygu/newid eich gyrfa. Mae llawer o'r cyrsiau hyn yn cynnwys sgiliau trosglwyddadwy - er enghraifft, rheoli prosiectau, arweinyddiaeth, technegau cyfathrebu/cyflwyno effeithiol ac yn y blaen.
Ceir hefyd nifer o gyrsiau meddygol byr, a gynhelir gan yr Ysgol Meddygaeth ac Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd, sy’n cynnig hyfforddiant datblygiad personol hanfodol a chost-effeithiol.
Cynhelir y rhan fwyaf o'n cyrsiau dros un neu ddau ddiwrnod; rydym yn cynnal cyrsiau sawl gwaith y flwyddyn, a bob amser ar ddiwrnodau'r wythnos (fel arfer y tu allan i wyliau ysgol).
Sut i wneud cais
Mae'r cyrsiau hyn ar gael i bawb. Edrychwch ar ein gwefan i gael cyrsiau.
Modiwlau ôl-raddedig a addysgir
Mae'r Brifysgol yn cynnig ystod ddethol o fodiwlau y gellir eu hastudio yn unigol ar gyfer DPP. Mae hyn yn golygu y gallwch ddysgu hyblygrwydd, a datblygu eich gyrfa, tra'n cydbwyso eich gwaith presennol a'ch ymrwymiadau bywyd o hyd.
Ymhlith enghreifftiau o'r modiwlau presennol a gynigir yn y ffordd hon mae Polisïau Trafnidiaeth Gynaliadwy, Cyfieithu Ieithoedd Lleiafrifol, Meistr Gweithredol mewn Gweinyddu Busnes, ac Astudiaethau Adeiladu Amgylcheddol.
Mae'r dull gweithredu 'unigol' hwn yn eich galluogi i gael mynediad at yr holl waith ymchwil ac arbenigedd sydd ar gael yn y Brifysgol, a phrofi eich archwaeth am radd ôl-raddedig gyflawn, heb ymrwymo i radd ôl-raddedig gyflawn.
Yn y rhan fwyaf o achosion, byddwch yn ymuno â myfyrwyr ôl-raddedig llawn amser ar gyfer un modiwl. Mae’r modiwlau yr ydym yn eu cynnig wedi’u dewis yn ofalus er mwyn sicrhau eu bod yn addas i’w haddysgu fel hyn.
Croesawn geisiadau gan y rheini nad oes ganddynt y gofynion mynediad traddodiadol o bosibl, ond sy’n gallu dangos profiad gwaith neu ddysgu blaenorol.
Sut i wneud cais
Yn gyntaf, edrychwch ar ein tudalennau Modiwlau ôl-raddedig unigol ar ein gwefan, neu lawrlwythwch ein llyfryn (cyrsiau byr DPP) yn rhad ac am ddim ar waelod y dudalen.
Gallwch gael gwybodaeth lawn am fodiwlau a gwneud cais ar ein gwefan. Byddwn yn gofyn i chi lenwi ffurflen gais fer sy’n nodi manylion eich cymwysterau blaenorol a/neu eich profiad.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu os fyddai well gennych siarad ag aelod o'n tîm cyfeillgar am gyngor ac arweiniad, mae croeso i chi gysylltu â ni.
CPE (Addysg Barhaus a Phroffesiynol)
Yn yr Uned DPP, ein rôl yw cefnogi unigolion a busnesau i fachu ar gyfleoedd datblygu proffesiynol. Mae hefyd tîm ar wahân yn y Brifysgol (Addysg Barhaus a Phroffesiynol) a all roi cyngor i chi ar addysg ran-amser i oedolion.
Mae'r tîm DPP yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau rhan amser ar lefelau ac ar adegau sy'n addas i chi. Nid oes unrhyw ofynion mynediad ar gyfer llawer o’r cyrsiau hyn, y cyfan sydd ei angen arnoch yw diddordeb mewn pwnc a pharodrwydd i’w astudio yng nghwmni pobl eraill. Er mwyn ei gwneud hi mor hawdd â phosibl i chi astudio yn y Brifysgol, trefnir cyrsiau yn ystod y dydd, gyda’r nosau ac ar benwythnosau. Mae nifer o gyrsiau’n cael eu hailadrodd drwy gydol y flwyddyn. Mae rhai cyrsiau ar gael ar-lein, sy’n rhoi’r hyblygrwydd i chi astudio o gartref.
Llwybrau gradd
Mae'r rhaglen llwybrau'n ddewis amgen i gymwysterau Safon Uwch a mynediad gan ei bod yn cael ei haddysgu a'i hasesu mewn ffyrdd tebyg i gyrsiau israddedig blwyddyn gyntaf. Mae llawer o wybodaeth ar gael ar dudalennau gwefan DPP, gan gynnwys rhestrau o gyrsiau a sut i wneud cais.
Cysylltwch â ni
Yr Uned Datblygu Proffesiynol Parhaus
Cynigiwn borth i fusnesau fanteisio ar yr ystod eang o arbenigedd sydd ym Mhrifysgol Caerdydd.