Ewch i’r prif gynnwys

Telerau ac amodau

Telerau ac amodau ar gyfer cyrsiau, digwyddiadau a chynadleddau Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP).

Diffiniadau

Mae ‘Uned DPP’ neu ‘ni’ neu ‘Prifysgol Caerdydd’ yn golygu Prifysgol Caerdydd neu’r Uned Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP). Mae ‘cleient’ neu ‘chi’ yn golygu’r person, y cynrychiolwr, y cwmni neu’r sefydliad sy’n archebu lle neu sy’n bresennol mewn digwyddiad DPP.

Mae ‘Cwrs’ yn golygu cwrs DPP agored (ar-lein neu wyneb yn wyneb), cynhadledd, gweminar neu ddigwyddiad arall. Nid yw’r telerau ac amodau hyn yn berthnasol i gyrsiau pwrpasol neu gaeedig.

Mae ‘dyddiad dechrau’ yn golygu’r dyddiad y mae’r cwrs yn dechrau.

Mae ‘ffioedd’ yn golygu pris y Cwrs.

Mae 'darparwr hyfforddiant’ yn golygu cwmni neu hyfforddwr sy’n cynnal cwrs ar wahân i Brifysgol Caerdydd.

Mae ‘diwrnod gwaith’ yn golygu pob diwrnod o’r wythnos ac eithrio dydd Sadwrn a dydd Sul, gwyliau statudol a dyddiadau cau Prifysgol Caerdydd.

Mae ‘cwrs eithriedig’ yn golygu cwrs lle mae telerau gwahanol o ran y polisi canslo, cyfnewid a throsglwyddo. Mae cyrsiau eithriedig wedi’u nodi’n glir yn yr amlinelliad o’r cwrs.

Cwmpas

Mae’r telerau ac amodau hyn yn berthnasol i bob cwrs.

Prisiau

Mae ein gwefan yn hysbysebu’r ffioedd ar gyfer pob cwrs DPP. Rydym ni’n cadw’r hawl i gynyddu’r ffioedd o’r rheiny a hysbysebir ar y wefan neu drwy ffurf arall yn ôl ein disgresiwn ac am unrhyw reswm cyn i’r cwrs ddechrau. Mae’r ffioedd yn cynnwys yr holl daflenni cwrs, deunydd neu lawlyfrau cyn y cwrs, cinio, lluniaeth a chostau arholiadau neu achrediad (os yw’n berthnasol) ar gyfer cleientiaid yn y DU, oni nodir yn wahanol.

Mae’n bosibl y bydd gofyn i gleientiaid o du allan i’r DU dalu costau ychwanegol am bostio, os ydym ni’n gorfod talu’r costau hyn. Bydd hyn yn cael ei ddatgan yn glir yn yr amlinelliad o’r cyrsiau neu mewn gohebiaeth cyn archebu.

Telerau talu

Rhaid talu ffioedd yn llawn cyn i’r cwrs ddechrau. Gellir cytuno ar drefniadau arbennig ar wahân gydag archebion hwyr.

Cyrsiau

Mae’r Uned DPP yn darparu hyfforddiant ar y cyd â darparwyr hyfforddiant penodedig.  Hyd eithaf gwybodaeth yr Uned DPP, mae’r Darparwyr Hyfforddiant hyn wedi’u cymhwyso a’u hachredu’n addas i ddarparu’r cyrsiau hyfforddi a gynigir.

Canllaw cyffredinol yn unig yw cynnwys amserlenni cyrsiau ac nid yw’n ffurfio rhan o unrhyw gontract.  Rydym ni’n cadw’r hawl i wneud unrhyw amrywiadau rhesymol i gyrsiau, gan gynnwys y cynnwys a’r lleoliad, heb unrhyw rybudd.

Canllaw cyffredinol yn unig yw argaeledd a lleoliad cyrsiau a ddangosir ar wefan Prifysgol Caerdydd ac nid yw’n ffurfio rhan o unrhyw gontract. Cysylltwch â’r Uned DPP cyn gwneud unrhyw drefniadau o ran teithio neu lety gan na fyddwn yn atebol am unrhyw gamau a gymerwch wrth ddibynnu ar yr wybodaeth.

Cyfrifoldeb y cleient yw sicrhau eu bod yn bodloni rhagofynion y cwrs y maent yn trefnu i fynd arno, a bod y cwrs yn bodloni eu gofynion nhw.

Oni nodir yn wahanol, caiff pob cwrs ei gynnal yn Saesneg, ac mae’n rhaid i bawb sy’n cymryd rhan fod â gallu digonol mewn Saesneg cyn cymryd rhan mewn cwrs.

Cefnogaeth dechnegol a mynediad

Os na allwch gael mynediad at gwrs ar-lein, byddwn yn gwneud ymdrech resymol i gynnig ateb lle mae gennym reolaeth uniongyrchol dros y system, y feddalwedd neu’r gosodiadau cysylltiedig. Os mai achos y broblem yw eich caledwedd, eich systemau, eich meddalwedd neu osodiadau’r rhain, gallwn, fel y gwelwn yn dda, roi cymorth i’ch helpu i ddatrys y mater ond ni allwn sicrhau y bydd unrhyw gymorth a roddir yn datrys eich problem.

Ni fyddwn yn gyfrifol am unrhyw oedi neu darfu ar eich mynediad at gwrs ar-lein o ganlyniad i unrhyw gyfyngiadau mur cadarn a osodwyd ar eich rhwydwaith neu ar y cyfrifiadur rydych yn ei ddefnyddio, am unrhyw fethiannau o ran cysylltiadau ac offer telegyfathrebu, neu faterion sy’n codi o borwr wedi’i ddiweddaru.

Canslo, trosglwyddo a chyfnewid

Sylwer y byddwn yn anfon manylion cyrsiau (fel lleoliad, amseroedd, tasgau cyn y cwrs ac ar gyfer cyrsiau ar-lein, manylion mewngofnodi Zoom/arall) ac yn cadarnhau bod y cwrs yn mynd yn ei flaen fel a ganlyn:

  • 20 diwrnod gwaith cyn y dyddiad dechrau ar gyfer cyrsiau PRINCE2®, MSP® ac AgilePM®
  • 10 diwrnod gwaith cyn y dyddiad dechrau ar gyfer pob cwrs arall (oni nodir yn wahanol).

Cyfnewid

Lle mae cwrs cyfunol yn cynnwys elfennau o e-ddysgu, addysgu byw ar-lein a / neu wyneb yn wyneb, chewch chi ddim cyfnewid ar ôl cael mynediad at yr elfen e-ddysgu/ar ôl ei lawrlwytho.

Bydd yr Uned DPP yn gwneud pob ymdrech i fodloni ceisiadau gan y cleient i gyfnewid un cynrychiolydd am un arall, ond nid yw o dan unrhyw reidrwydd i wneud hynny. Mae ceisiadau o’r fath yn gofyn bod y sawl sy’n cymryd lle’r cynrychiolydd gwreiddiol yn bodloni’r rhagofynion ar gyfer y cwrs.  Mewn achos lle mae’n rhaid cyfnewid, rhaid i’r cleient dalu unrhyw gostau sy’n ymwneud â’r newid na ellir eu hosgoi. Os gwneir cais i gyfnewid o fewn 3 diwrnod gwaith, bydd yn rhaid talu ffi weinyddol o £50.

Cyrsiau 'eithriedig'

Sylwer, pan fydd cwrs wedi’i dynodi gennym fel un ‘eithriedig’, mae’r newidiad canlynol yn berthnasol:

Bydd yr Uned DPP yn gwneud pob ymdrech i fodloni ceisiadau gan y cleient i gyfnewid un cynrychiolydd am un arall, ond nid yw o dan unrhyw reidrwydd i wneud hynny. Mae ceisiadau o’r fath yn gofyn bod y sawl sy’n cymryd lle’r cynrychiolydd gwreiddiol yn bodloni’r rhagofynion ar gyfer y cwrs. Mae’n rhaid i’r cleient gyflwyno ceisiadau cyfnewid dim llai na 15 diwrnod gwaith cyn y dyddiad dechrau. Os gofynnir am gyfnewid o fewn 15 diwrnod gwaith, bydd ffi canslo yn berthnasol.

Faint o rybudd yn ôl diwrnodau gwaithFfi yn daladwy
Dros 15N/A
15-0Byddwn yn trin hwn yn yr un modd â'ch bod wedi canslo a bydd y ffi canslo yn daladwy.

Trosglwyddiadau

Lle mae cwrs cyfunol yn cynnwys elfennau o eDdysgu, addysgu byw ar-lein a / neu wyneb yn wyneb, chewch chi ddim trosglwyddo ar ôl cael mynediad at yr elfen eDdysgu/ar ôl ei lawrlwytho.

Os na fydd unigolyn yn gallu bod yn bresennol yn y cwrs a archebir, byddwn yn gwneud pob ymdrech i drosglwyddo’r unigolyn hwnnw i gwrs amgen.

Os gwneir y cais hwn 10 diwrnod gwaith neu fwy cyn dyddiad dechrau’r cwrs gwreiddiol, yr unig gostau y bydd yn rhaid eu talu fydd ffi weinyddol o £50 yn ogystal ag unrhyw wahaniaeth yn y ffioedd. Os gwneir cais i drosglwyddo o fewn 10 diwrnod gwaith, bydd y ffi canslo isod yn berthnasol.

Mae’n rhaid trosglwyddo i gwrs o fewn yr un flwyddyn galendr. Dim ond unwaith y gellir trosglwyddo. Rhaid i’r cleient gyflwyno’r cais i drosglwyddo yn ysgrifenedig at train@cardiff.ac.uk.

Faint o rybudd yn ôl diwrnodau gwaithFfi yn daladwy
Dros 10£50 yn ogystal ag unrhyw wahaniaeth rhwng ffioedd y ddau gwrs
10-0Byddwn yn trin hwn yn yr un modd â'ch bod wedi canslo a bydd y ffi canslo yn daladwy.

Trosglwyddo ar gyfer cyrsiau 'eithriedig'

Sylwer, pan fydd cwrs wedi’i dynodi gennym fel un ‘eithriedig’, mae’r newidiad canlynol yn berthnasol:

Os na fydd unigolyn yn gallu bod yn bresennol yn y cwrs, byddwn yn gwneud pob ymdrech i drosglwyddo’r unigolyn hwnnw i gwrs amgen.

Os gwneir y cais hwn 20 diwrnod gwaith neu fwy cyn dyddiad dechrau’r cwrs gwreiddiol, yr unig gostau y bydd yn rhaid eu talu fydd ffi weinyddol o £50 yn ogystal ag unrhyw wahaniaeth yn y ffioedd. Os gwneir cais i drosglwyddo o fewn 20 diwrnod gwaith, bydd y ffi canslo yn berthnasol. Mae’n rhaid trosglwyddo i gwrs o fewn yr un flwyddyn galendr. Dim ond unwaith y gellir trosglwyddo. Rhaid i’r cleient gyflwyno’r cais i drosglwyddo yn ysgrifenedig at train@cardiff.ac.uk.

Ar gyfer pob cwrs, os nad oes unrhyw ddyddiadau pellach ar gael ar gyfer y Cwrs yn ystod y flwyddyn galendr, byddwn yn ad-dalu’r ffioedd yn llawn, ac eithrio unrhyw ffi gweinyddol.

Faint o rybudd yn ôl diwrnodau gwaithFfi yn daladwy
Dros 20£50 yn ogystal ag unrhyw wahaniaeth rhwng ffioedd y ddau gwrs
20-0Byddwn yn trin hwn yn yr un modd â'ch bod wedi canslo a bydd y ffi canslo yn daladwy.

Canslo eich cwrs

Lle mae cwrs cyfunol yn cynnwys elfennau o eDdysgu, addysgu byw ar-lein a / neu wyneb yn wyneb, chewch chi ddim canslo ar ôl cael mynediad at yr elfen eDdysgu/ar ôl ei lawrlwytho.

Gall y cleient ganslo cwrs drwy roi gwybod i ni yn ysgrifenedig. Tybir hefyd bod cleient wedi canslo os nad yw’n bresennol.

Ym mhob achos, mae’n rhaid i’r cleient gadarnhau ei fod yn canslo yn ysgrifenedig drwy anfon e-bost at train@caerdydd.ac.uk, gyda thystiolaeth gefnogol (os yw’n berthnasol).

Ffioedd canslo

Bydd yn rhaid i’r cleient dalu ffi canslo fel a ganlyn:

Faint o rybudd yn ôl diwrnodau gwaith% ffioedd y cwrs sy’n daladwy
Dros 11Ffi weinyddol o £50
10-150%
0100%

Ffioedd canslo cyrisau 'eithriedig'

Pan fydd cwrs wedi’i dynodi gennym fel un ‘eithriedig’, mae’r newidiad canlynol yn berthnasol:

Faint o rybudd yn ôl diwrnodau gwaith% ffioedd y cwrs sy’n daladwy
Dros 21Ffi weinyddol o £50
20-1Os na allwn lewni eich archeb:
70% yn ogystal ag unrhyw gostau ar gyfer deunyddiau cyn y cwrs sydd eisoes wedi’u hanfon ar yr unigolyn neu’r cleient, oni bai bod y deunyddiau yn cael eu dychwelyd atom o fewn 10 diwrnod gwaith mewn cyflwr newydd sbon.
0100%

Bydd Pennaeth yr Uned DPP yn ystyried amgylchiadau eithriadol.

Os ydym yn canslo neu ohirio cwrs

Rydym yn cadw'r hawl i ganslo neu ohirio unrhyw gwrs. Mewn amgylchiadau o’r fath, bydd ffioedd yn cael eu had-dalu yn llawn. Ni fyddwn yn atebol am unrhyw golled neu gost arall sy’n codi o ganslo’r cwrs, gan gynnwys costau teithio neu lety.

Os byddwn yn canslo neu ohirio cwrs, byddwn yn cysylltu â phawb sy'n cymryd rhan dros ebost ac yn rhoi cynnig iddynt drosglwyddo i ddyddiad arall (os oes un ar gael). Pe bai unigolyn yn dymuno trosglwyddo, byddai’n rhaid i’r cleient roi gwybod i’r Uned DPP o fewn 10 diwrnod gwaith wedi i’r ebost canslo gyrraedd neu byddwn yn ad-dalu’r ffioedd yn awtomatig.