Ewch i’r prif gynnwys

Unedau'r Lluoedd Arfog

Mae'r tri gwasanaeth arfog yn cynnig cyfleoedd hyfforddi i’n myfyrwyr.

Gall y rhain roi’r cyfle i chi ennill sgiliau milwrol a chymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon, antur a chymdeithasol yn ogystal â chynnig cyfleoedd gwerthfawr ar gyfer datblygiad personol.

Mae rhan fwyaf o'r myfyrwyr sy'n cymryd rhan yn ei chael yn brofiad gwerthfawr iawn ac nid oes unrhyw rwymedigaeth i ymuno â’r gwasanaethau ar ôl cwblhau eich astudiaethau.

Uned Llynges Frenhinol y Brifysgol

Mae'r Uned Llynges Frenhinol yn cynnig hyfforddiant ym mhob agwedd ar fordwyo, forwriaeth a sgiliau arweinyddiaeth. Mae gan yr Uned ei llong bwrpasol ei hun, HMS Express, ym Mae Caerdydd.

Gall aelodau ymarfer y wybodaeth forwrol y maent newydd ei chaffael ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau’r Pasg a’r haf, pan fydd y llong yn ymfyddino yn nyfroedd y DU ac Ewrop.

Corfflu Hyfforddi Swyddogion

Mae gan Gorfflu Hyfforddi Swyddogion Prifysgol Cymru (WUOTC) ganolfan ym Marics Maendy, taith gerdded fer o'r Brifysgol. Mae hyfforddi’n canolbwyntio ar sgiliau arwain, gwneud penderfyniadau a gwaith tîm yn ogystal â rhai sgiliau milwrol sylfaenol fel darllen map, cymorth cyntaf, saethu a goroesi.

Mae digwyddiadau cymdeithasol yn amrywio o giniawau ffurfiol, caniadau encil a Dawns Mai yn ogystal â llu o bartïon llai ffurfiol. Yn ystod y gwyliau, mae llawer o aelodau WUOTC yn cymryd rhan mewn hyfforddiant deithiau antur.

Sgwadron Awyr y Brifysgol

Mae Sgwadron Awyr Prifysgol Cymru (UWAS) yn cynnig hyfforddiant hedfan rhad ac am ddim, a datblygiad personol a hyfforddiant arweinyddiaeth, i fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn darganfod mwy am y Llu Awyr Brenhinol. Canolfan y Sgwadron yw Weinyddiaeth Amddiffyn Sain Tathan, ger Caerdydd.