Ewch i’r prif gynnwys

Cyrsiau israddedig

Mae ein rhaglenni gradd yn cyfleu cyffro byd ffiseg a seryddiaeth, yn datblygu eich sgiliau datrys problemau ac yn eich helpu i baratoi ar gyfer ystod o yrfaoedd.

A student using equipment in one of our well-equipped laboratories.
Modern and well-equipped laboratories allow students to gain experience with experimental methods and equipment.

Rydyn ni’n ymfalchïo’n fawr yn safon ein haddysgu a llwyddiant ein myfyrwyr. Y brifysgol yw un o'r lleoedd gorau yn y DU i astudio ffiseg a seryddiaeth, o safbwynt addysgu ac ymchwil.

Yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr yn 2022, roedd 100% o'n graddedigion Seryddiaeth a 93% o’n graddedigion Ffiseg yn fodlon ar y cyfan ar ein cyrsiau gradd. Mae’r arolwg annibynnol hwn o farn myfyrwyr yn dangos bod ein myfyrwyr yn fodlon iawn ar y ddarpariaeth.

Astudio hyblyg

Mae gan bob un o'n cyrsiau israddedig flwyddyn gyntaf gyffredin. Mae hyn yn golygu y gallwch chi drosglwyddo i gwrs israddedig gwahanol yn yr Ysgol os dymunwch hynny. Ar ddiwedd yr ail flwyddyn, gallwch chi benderfynu ar gynnwys eich cwrs yn y drydedd a’r bedwaredd flwyddyn.

Rhaglen astudio hyblyg yw hon sy'n eich galluogi i newid eich meddwl os byddwch chi’n penderfynu y byddai'n well gennych chi astudio un o'n cyrsiau eraill ar ôl ichi ddechrau eich gradd gyda ni.

Lleoliadau gwaith ym myd diwydiant

Rydyn ni’n cynnig ystod o raddau sy’n cynnwys lleoliad gwaith proffesiynol, sy'n eich galluogi i dreulio eich trydedd flwyddyn yn gweithio mewn cwmni allanol y mae gennym gysylltiad ag ef.

Bwriad y lleoliad gwaith hwn yw eich helpu i ddatblygu eich sgiliau datrys problemau ymhellach, dechrau cymryd yr awenau a datblygu methodoleg gwaith broffesiynol drwy ymgymryd â rhywfaint o gyfrifoldeb proffesiynol.

Mae ein myfyrwyr yn cael lle mewn ystod o gwmnïau a sefydliadau llwyddiannus megis Rolls Royce, EDF, Rutherford Appleton Laboratory, Merck Healthcare ac Applied Seismology Consultants. Mae'r rhain yn cynnig ystod o rolau proffesiynol, gan gynnwys Cyfathrebu, Peirianneg, Technoleg, Gwyddoniaeth ac ymchwil a datblygu ym maes Awyrofod.

Cyrsiau gradd

Rydyn ni’n cynnig ystod eang o raddau israddedig.