Ewch i’r prif gynnwys

Prosiectau ymchwil ryngddisgyblaethol

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Mae cydweithio traws-ddisgyblaeth yn helpu i feithrin arloesedd ym maes ymchwil Ffiseg, ac yn cael effaith ar ystod eang o sectorau.

Rydym yn cefnogi ymchwil ryngddisgyblaethol yn gryf, o fewn a'r tu allan i'n Hysgol, gan weithio gyda gwyddonwyr o bob rhan o'r Brifysgol a chyda sefydliadau a chwmnïau allanol.

Rydym yn cynnal ac yn bartner ar gyfer sawl Canolfan Hyfforddiant Doethurol, ac mae rhaglenni o'r fath yn ein galluogi i hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o ffisegwyr a seryddwyr, ac i wella'r broses o rannu gwybodaeth rhwng y byd academaidd a diwydiant.

Prosiectau ymchwil

Mae ein hystod amrywiol o weithgareddau ymchwil ryngddisgyblaethol yn cynnwys:

Bioffotoneg

Mae rhai o'n hymchwilwyr yn y grŵp Mater Cywasgedig a Ffotoneg yn gweithio ar y rhyngwyneb rhwng ffiseg a'r gwyddorau bywyd. Maent yn defnyddio microsgopeg a nanosgopeg Raman a Raman Cydlynol er mwyn astudio biofoleciwlau ac ymchwilio'r defnydd o fiosynwyryddion optegol dilabel gan ddefnyddio microgeudodau.

Synhwyro gorsbectrol is-filimetr o awyrgylch y Ddaear

Mae Astroffisegwyr yn ein Grŵp Offeryniaeth Seryddiaeth yn gweithio gyda gwyddonwyr yn Swyddfa Met y DU i ddefnyddio eu technoleg gydag arsylwadau meteorolegol.

Nodweddu mecanweithiau cynnull a throsglwyddo golau yn y gornbilen

Mae gennym staff academaidd sy'n gweithio gyda chydweithwyr yn yr Ysgol Optometreg, gan ddefnyddio technegau ffiseg i daflu goleuni ar drefn a chemeg ffibrilau colagen y gornbilen.

Defnyddio dadansoddi gofodol yng nghyd-destun geoffiseg

Gan weithio gydag Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd, mae ymchwilwyr yn yr uned ymchwil Ffurfio Sêr a Phlanedau wedi defnyddio technegau a ddatblygir ar gyfer dadansoddi clystyrau o sêr newydd i fesur dosbarthiad safleoedd ffrwydradau nwy ar wely'r môr ger California ac yn Nelta’r Nîl.