Ewch i’r prif gynnwys

Canolfan Caerdydd ar gyfer Ymchwil a Thechnoleg Astroffiseg

The Simons Observatory, Credit: Simons Observatory
The Simons Observatory, Credit: Simons Observatory

Rydym yn astudio pob agwedd ar y bydysawd a'r gwrthrychau sydd ynddo, o gyfnod y chwyddiant, lai nag eiliad ar ôl y Glec Fawr i'r gwrthrychau yn ein cysawd ein hunain.

Rydym yn arsylwi'r bydysawd gan ddefnyddio offerynnau ledled y byd ac yn y gofod. Rydym yn adeiladu rhai ein hunain, gan gynnwys rhannau hanfodol o Arsyllfa Simons, a fydd yn ymchwilio i fomentau cyntaf y bydysawd (gweler uchod). Rydym yn cynnal efelychiadau cyfrifiadurol o'r radd flaenaf o enedigaethau sêr a galaethau. Rydym yn gweithio'n agos gyda'r Sefydliad Archwilio Disgyrchiant a'r Sefydliad Arloesedd Data.

Ein pynciau ymchwil