Ewch i’r prif gynnwys

Cymrodoriaethau Ymchwil

Mae'r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth yn gwahodd y rheini sy'n dymuno dilyn gyrfa mewn ymchwil ar ôl PhD i wneud cais am ystod o gymrodoriaethau.

Mae'r cyfleoedd hyn ar gael ar adegau gwahanol drwy gydol y flwyddyn.

Cymrodoriaethau Ernest Rutherford y Cyngor Cyllid Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Bydd yr Ysgol yn cefnogi dau gais am Gymrodoriaethau Ernest Rutherford 2023 gan yr STFC.

Mae’n rhaid i’r rheini sy’n dymuno cyflwyno cais anfon eu cais atom erbyn 18 Gorffennaf 2023. A fyddech cystal ag anfon CV ar ffurf naratif, rhestr o gyhoeddiadau ac allbynnau ymchwil, ynghyd â chynnig amlinellol (pedair ochr A4 ar y mwyaf, gan gynnwys cyfeirnodau, diagramau a darluniau) yn y fformat sydd ei angen i gyflwyno cais i’r STFC at InserraC@caerdydd.ac.uk. Fel arall, gallwch gysylltu â Dr Cosimo Inserra neu'r Athro Erminia Calabrese i gael rhagor o fanylion.

Ewch i wefan UKRI i gael rhagor o wybodaeth am y cynllun ac ym mha fformat y dylai’r cais fod.

Cymrodoriaeth Ymchwil Prifysgol y Gymdeithas Frenhinol

Bydd yr Ysgol yn cefnogi ceisiadau am Gymrodoriaeth Ymchwil Prifysgol 2023 y Gymdeithas Frenhinol.

Anogir y rheini sy'n dymuno gwneud cais i gysylltu ag aelod o’r staff i lunio cynnig. Wedyn, gall yr aelod o’r staff roi cyngor ar y broses adolygu gan gymheiriaid mewnol yn ogystal â’r amserlen. Gallwch gysylltu â Dr Cosimo Inserra i gael rhagor o fanylion.