Ewch i’r prif gynnwys

Meicronodwyddau

Mae technoleg micronodwyddau arloesol yn cael ei datblygu’n ddull effeithiol, di-boen a chynnil o atal cenhedlu ar draws gwledydd tlota’r byd, diolch i gonsortiwm technoleg newydd a arweinir gan Brifysgol Caerdydd ac a gefnogir gan Sefydliad Bill a Melinda Gates.

Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar y gwaith cyn-glinigol i ddatblygu patshys micronodwyddau y gallai’r defnyddwyr eu gosod heb boen mewn eiliadau’n unig a’u defnyddio’n ddisylw am hyd at chwe mis. Byddai'r dull newydd hwn o atal cenhedlu yn diwallu anghenion rhai o’r menywod tlotaf a mwyaf agored i niwed yn y byd.

The power of contraception

Yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd, ‘nid yw 214 miliwn o fenywod o oed atgenhedlu mewn gwledydd sy’n datblygu’n defnyddio dull modern o atal cenhedlu er eu bod am osgoi beichiogrwydd’. Byddai cael dulliau atal cenhedlu neu gynllunio teulu gwirfoddol yn arwain at lai o feichiogi anfwriadol, llai o fenywod a merched yn marw yn ystod beichiogrwydd neu enedigaeth, a llai o farwolaethau babanod.

Ar ben hynny, byddai grymuso menywod a merched fel eu bod yn gallu penderfynu dros eu hunain a ydynt am gael plant a phryd, yn gwella’u cyfleoedd addysgol ac economaidd yn fawr. Yn ei dro, bydd hyn yn arwain at deuluoedd a chymunedau iachach.

Mae cynllunio teulu gwirfoddol yn rhywbeth y mae llawer ohonom yn ei gymryd yn ganiataol, ond yn rhai o’r gwledydd tlotaf, nid yw’n opsiwn i fenywod neu ferched.
Yr Athro James Birchall Professor of Pharmaceutical Sciences

Rhwystrau i ddullai atal cenhedlu

Mae llawer o ffactorau economaidd gymdeithasol a diwylliannol sy’n rhwystro menywod rhag cael dulliau atal cenhedlu, hyd yn oed os ydynt am gynllunio neu osgoi beichiogrwydd. Efallai fod diffyg ymwybyddiaeth o'r perygl o fod yn feichiog, neu gallai rhai gael eu rhwystro gan y gost, yr anghyfleustra neu bryderon ynghylch sgîl-effeithiau. Ar ben hynny, bydd llawer yn methu cael dulliau effeithiol o atal cenhedlu o gwbl.

Ar hyn o bryd, pigiadau – sy'n effeithiol am dri mis – a mewnblaniadau, sy'n parhau am dair blynedd yw dau o'r dulliau mwyaf poblogaidd o atal cenhedlu mewn gwledydd incwm isel a chanolig. Mae’r ddau ddull hyn yn fewnwthiol ac yn achos y mewnblaniad, rhaid cael ymarferydd wedi’i hyfforddi er mwyn ei fewnosod a’i dynnu. Gall hyn gyfrannu at rwystro menywod rhag defnyddio'r mathau hyn o atal cenhedlu.

Empowering women and girls to make their own choices about if, and when, they have children would vastly improve their educational and economic opportunities.

Datblygiad meicronodwyddau

Mae Sefydliad Bill a Melinda Gates yn ariannu ymchwil er mwyn mynd i'r afael â’r materion hyn a datblygu dulliau atal cenhedlu ymarferol ac effeithiol sy'n canolbwyntio ar anghenion y defnyddiwr.

Rydym yn gweithio gyda Sefydliad Bill a Melinda Gates a’n partneriaid prosiect, ac ein gobaith yw datblygu dull newydd o atal cenhedlu fydd yn rhoi ffordd syml, cyfleus a di-boen o atal cenhedlu i fenywod, am chwe mis ar y tro

Bydd y grant yn gadael i'r consortiwm asesu dichonoldeb technegol, defnyddioldeb a derbynioldeb y patsh atal cenhedlu micronodwyddau ar gyfer y gwledydd sydd ei ddirfawr angen.  

Ar sail eu polymer bioddiraddadwy, bydd InnoCore Pharmaceuticals yn datblygu’r micronodwyddau sydd eu hangen er mwyn yllu’r croen heb boen a chyflwyno’r cemegion mewn ffordd a reolir yn dynn am hyd at chwe mis.

Mae’n gyffrous iawn cyfrannu at ddatblygu dulliau arloesol a fforddiadwy o atal cenhedlu ar gyfer menywod mewn gwledydd sy’n datblygu. Mae hyn yn bosibl drwy gydweithio â’r consortiwm ymchwil gwych hwn, a gefnogir gan Sefydliad Bill a Melinda Gates
InnoCore Pharmaceuiticals

Arweinir y prosiect hwn gan  Dr Sion Coulman a'r Athro James Birchall.

Canlyniadau

Os yw’n llwyddiannus, bydd y rhaglen yn arwain at gynnig dull fforddiadwy a hirdymor o atal cenhedlu sy'n cyfuno modd o’i osod eich hun yn hawdd ac yn ddi-boen â bioamsugno llawn. Mae hyn yn golygu nad oes angen llawdriniaeth i’w dynnu wedyn.

Erbyn diwedd y prosiect 18 mis hwn, bydd defnyddioldeb, derbynioldeb a dichonoldeb y patsh atal cenhedlu sy’n defnyddio micronodwyddau wedi cael eu gwerthuso. Cynhelir astudiaethau technegol mewn labordai yn ogystal ag ymweliadau â gwledydd incwm isel neu ganolig yn Affrica, fel bod y tîm ymchwil yn gallu deall anghenion y menywod sydd am ddefnyddio’r dull newydd hwn o atal cenhedlu.

Partneriaid

Mae Ysgol Fferylliaeth a'r Gwyddorau Fferyllol Prifysgol Caerdydd, a'r Ysgol Peirianneg, wedi sicrhau cyllid ar gyfer y prosiect, yn dod ag arbenigedd y partneiriad canlynol ynghyd:

  • academia (Prifysgol Caeredin)
  • industry (InnoCore Pharmaceuticals, Maddison Product Design, Isca Healthcare, REMEDI)
  • NGOs (Population Council, PATH)
  • partnerships (Hub Cymru Africa)
  • charitable bodies (Knowledge For Change, Life for African Mothers)
  • Ymddiriedolaethau'r GIG.

Mwy o wybodaeth

Am fwy o wybodaeth am y prosiect hwn, cysylltwch â:

Dr Sion Coulman

Dr Sion Coulman

Uwch-ddarlithydd

Email
coulmansa@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 6418
Yr Athro James Birchall

Yr Athro James Birchall

Professor of Pharmaceutical Sciences

Email
birchalljc@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 5815
Dr Louise Hughes

Dr Louise Hughes

Lecturer

Email
hughesml@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 6432