Ewch i’r prif gynnwys

Trosolwyg

Aelod o’r Tîm Darganfod Cyffuriau, y Gwyddorau Fferyllol a Therapiwteg Arbrofol yn Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Prifysgol Caerdydd

Rwy'n ymchwilydd cydweithredol iawn sy'n arwain ac yn cyfrannu at dimau rhyngddisgyblaethol o gydweithwyr gwyddonol a chlinigol o gefndir academaidd a chefndir masnachol, ac mae gennyf ddiddordeb angerddol mewn sicrhau bod ymchwil wyddonol yn cael effaith amlwg. Mae fy nghefndir addysgol a phroffesiynol ym maes fferylliaeth a’r gwyddorau fferyllol. Mae fy ngweithgareddau ymchwil presennol yn ymwneud â’r croen (fel organ a rhwystr) ac optimeiddio systemau cyflwyno cyffuriau arloesol.

  • PhD (Cyflwyno Cyffuriau), Prifysgol Caerdydd, 2007
  • MPharm, Prifysgol Cymru, Caerdydd, 2001

Cyhoeddiad

2023

2022

2021

2020

2019

2018

2017

2016

2015

2014

2013

2012

2011

2010

2009

2006

2005

Articles

Book sections

Conferences

Thesis

Ymchwil

Diddordebau ymchwil

  • Y croen yn darged a phorth ar gyfer cyflenwi cyffuriau
  • Dyfeisiau micronodwyddo
  • Pympiau anadlu powdwr sych sy'n defnyddio capsiwlau
  • Y rhyngwyneb defnyddiwr-dyfais
  • Bio-argraffu croen dynol
  • Cyfrifiadau ar sail rhifedd a meddyginiaethau (ymchwil addysgegol)

Gellir dosbarthu fy arbenigedd a gweithgareddau ymchwil wyddonol yn fras yn dair ffrwd waith, y mae pob un ohonynt yn ymwneud â'r croen (yn organ ac yn rhwystr i’r gwaith o gyflenwi cyffuriau) a/neu optimeiddio systemau cyflenwi cyffuriau arloesol.

Rwyf wedi gweithio gyda dyfeisiau micronodwyddo ers 2002 ac wedi ystyried eu potensial o ran bod yn ffordd llai ymwthiol o gyflenwi cynhwysion fferyllol newydd a chyffredin yn drawsgroenol ac yn fewngroenol. Rwyf hefyd wedi gweithio gydag amrywiaeth o gyffuriau biolegol a brechlynnau. Mae gennyf ddiddordeb angerddol mewn troi’r dechnoleg sy’n sail i brototeipiau labordy’n gynhyrchion sy’n ddefnyddiol yn glinigol ac sydd ar gael yn fasnachol, ac rwy’n canolbwyntio’n benodol ar wneud hyn. Rwyf wedi cyfrannu at amrywiaeth o brosiectau, ac mae gennyf brofiad technegol sylweddol o werthuso systemau cyflenwi mewngroenol a thrawsgroenol, ex vivo ac in vivo. Mae gennyf arbenigedd mewn defnyddio dulliau arloesol o werthuso biofecaneg croen dynol, pensaernïaeth y meinwe ac imiwnoleg leol. Mae fy nghyhoeddiadau hefyd yn rhoi sylw i’r rhain, yn ogystal ag astudiaethau defnyddwyr. Rwy'n un o sefydlwyr Extraject Technologies, cwmni a ddeilliodd o Brifysgol Caerdydd, sy’n ceisio masnacheiddio systemau llai ymwthiol ar gyfer rhoi triniaeth ar sail celloedd i’r croen. Rwyf hefyd yn cyd-gadeirio gweithgor (Patsys â Micronodwyddau – Gweithgor Rheoleiddio; MAP-RWG), a gafodd ei greu yn 2018 er mwyn helpu i ddiffinio’r llwybr ar gyfer rheoleiddio’r math hwn o ddosio a chyflymu’r gwaith o gymhwyso’r dechnoleg yn glinigol.

Rwyf hefyd yn gweithio'n agos gyda Pharma, cwmni rhyngwladol mawr, i werthuso perfformiad cynhyrchion capsiwl cyffredin ac arloesol i’w defnyddio mewn pympiau anadlu powdwr sych sy'n defnyddio capsiwlau. Helpais i ddatblygu methodoleg profi in vitro ar gyfer capsiwlau sydd wedi cael, ac yn dal i gael, ei defnyddio gan y diwydiant fferyllol er mwyn datblygu a sicrhau ansawdd cynhyrchion. Fy nod yw deall a gwella perfformiad pympiau anadlu powdwr sych sy’n defnyddio capsiwlau, yn y labordy ac yn nwylo’r defnyddiwr.

Bio-argraffu 3D ac, yn fwy penodol, fodelu croen drwy ddefnyddio platfform bio-argraffu 3D fforddiadwy sydd ar gael yn fasnachol yw’r trydydd maes sydd o ddiddordeb i mi. Mae'r gwyddonwyr a’r cyhoedd wedi dangos cymaint o ddiddordeb yn y maes ymchwil hynod arloesol hwn, sydd wedi hwyluso nifer o gyfleoedd i ymgysylltu â nhw.

Mae gennyf ddiddordeb addysgegol hefyd mewn cyfrifiadau ar sail rhifedd a meddyginiaethau, ac rwy’n canolbwyntio’n benodol ar addysg myfyrwyr fferyllol a fferyllwyr yn y maes hwn. Rwyf wedi datblygu prawf rhifedd diagnostig cyd-destunol sydd wedi’i ddefnyddio mewn nifer o ysgolion fferylliaeth yn y DU. Rwyf hefyd wedi cyfrannu at weithgareddau sydd wedi dylanwadu’n uniongyrchol ar addysg a hyfforddiant myfyrwyr fferyllol a meddygol.

Addysgu

    Arweinydd Asesiadau ac Adborth yr Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol

    Arweinydd Cyfrifiadau Fferyllol yr Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol

  • PH1000 Datblygiad Proffesiynol
  • PH1122 Rôl y Fferyllydd mewn Ymarfer Proffesiynol
  • PH1124 Systemau’r Corff Dynol
  • PH2000 Datblygiad Proffesiynol
  • PH2107 Gwyddoniaeth Fformiwleiddio
  • PH3000 Datblygiad Proffesiynol
  • PH3110 Optimeiddio Gofal Fferyllol
  • PH3202 Methodoleg Ymchwil
  • PH4000 Datblygiad Proffesiynol
  • PH4116 Prosiect ysgoloriaeth neu ymchwil ym maes fferylliaeth
  • PH4118 Gwyddorau Fferyllol, Ymarfer Fferyllol a’r Claf

Bywgraffiad

Proffil gyrfa

Graddiais o Brifysgol Cymru, Caerdydd yn 2001 gyda gradd MPharm ac yna symudais i fy mlwyddyn cyn-cofrestru mewn fferyllfa gymunedol. Yn ystod haf 2002 fe ddes i’n aelod o Gymdeithas Fferyllol Frenhinol Prydain Fawr a dechreuais ymarfer yn broffesiynol yn fferyllydd locwm, gan weithio'n rhan-amser yn y sector cymunedol.

Roedd hyn yn digwydd yr un pryd ag yr oeddwn yn dechrau fy astudiaethau PhD ym Mhrifysgol Caerdydd lle treuliais dair blynedd yn ymchwilio i systemau cyflenwi trawsdermol newydd ar gyfer cyflenwi a mynegi DNA plasmid alldarddol mewn croen dynol. Yn 2005, wrth gwblhau fy astudiaethau PhD, dechreuais ar gontract byr ym Mhrifysgol Caerdydd yn Gymrawd Dysgu ac yn ystod y cyfnod hwn y datblygais fy niddordeb addysgu mewn rhifedd a chyfrifiadau yn seiliedig ar feddyginiaethau, sy’n faes dysgu ac addysgu rwy'n parhau i fod yn angerddol amdano.

Yn ystod haf 2006, ar ôl graddio gyda’m PhD, dechreuais Ddarlithio yn Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Caerdydd a pharhau i ddilyn fy niddordebau gwyddonol yn y ffordd y defnyddir micronodwyddau i gyflenwi brechlynnau, meddyginiaethau biolegol a nanoronynnau i’r croen. Yn ystod y cyfnod hwn, fe wnes i feithrin perthnasoedd cryf gyda chydweithwyr yn y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg a datblygais ymagwedd fwy rhyngddisgyblaethol at fy ymchwil, gan fabwysiadu dulliau dadansoddol newydd a modern (er enghraifft, tomograffeg cydlyniad optegol, profi deunyddiau a dadansoddi elfennau meidraidd) o ddisgyblaethau eraill a'u cymhwyso i'm diddordebau ymchwil. Datblygais ddiddordeb hefyd yn y ffordd y defnyddir Anadlyddion sy’n defnyddio Powdwr Sych (DPIs) ar gyfer cyflenwi cyffuriau ysgyfeiniol a chychwynnais weithgareddau ymchwil yn y maes hwn, mewn cydweithrediad â Pharma.

Yn 2014 cefais fy mhenodi’n Uwch Ddarlithydd ac mae gennyf bellach rwydwaith rhyngwladol o gydweithwyr o sefydliadau academaidd, diwydiant, cyrff rheoleiddio a chyrff anllywodraethol. Rwy’n hoff o natur wirioneddol ryngddisgyblaethol y timau yr wyf yn gweithio ynddynt ac yn mwynhau arwain a/neu gyfrannu at ystod o brosiectau, sydd bob un ohonynt yn parhau i fod yn ymwneud â’r croen a datblygiad systemau cyflenwi cyffuriau drwy’r croen neu’n ysgyfeiniol, ac â’u hoptimeiddio a’u perfformiad. Mae fy niddordeb datblygol mewn adeiladu a datblygu bio-argraffydd ar gyfer croen dynol hefyd wedi ysgogi diddordeb y cyhoedd yn fy ngwaith ac wedi arwain at nifer o brofiadau ymgysylltu gwyddonol gydag ystod o gynulleidfaoedd, sy’n rhoi boddhad i mi.

Aelodaeth o gyrff proffesiynol

  • Cyd-Gadeirydd y Gweithgor Rheoleiddio Patshys ac ynddynt Ystod o Ficronodwyddau (MAP-RWG)
  • Aelod o'r Pwyllgor Llywio ar gyfer y Gynhadledd Ryngwladol ar Ficronodwyddau; Cyd-arweinydd y Gynhadledd Ryngwladol ar Ficronodwyddau 2016
  • Aelod Pwyllgor ar gyfer Cymdeithas Rhyddhau Rheoledig y DU ac Iwerddon (UKICRS)
  • Aelod o Athrofa Peirianneg a Thrwsio Meinweoedd Caerdydd (CITER)
  • Llysgennad STEM

Pwyllgorau ac adolygu

  • Pwyllgor Ymgysylltu - Athrofa Peirianneg a Thrwsio Meinwe Caerdydd

Aelodaethau proffesiynol

  • Co-Chair of the Microneedle Array Patch-Regulatory Working Group (MAP-RWG)
  • Steering Committee Member for the International Conference on Microneedles; Co-host of the International Conference on Microneedles 2016
  • Committee Member for the UK and Ireland Controlled Release Society (UKICRS)
  • Member of Cardiff Institute of Tissue Engineering and Repair (CITER)
  • STEM Ambassador

Pwyllgorau ac adolygu