Ewch i’r prif gynnwys

Sganiwr côd bar ATLAS

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Yn y DU, mae tua 430K o bobl hŷn yn byw mewn cartrefi gofal ar hyn o bryd, ffigur sydd deirgwaith yn fwy na’r hyn a gynrychiolir gan sector ysbytai acíwt y DU.

Mae preswylwyr cartrefi gofal yn cynrychioli carfan arbennig o fregus o gleifion oherwydd ffactorau cyd-forbidrwydd lluosog sy’n golygu eu bod yn fwy agored i ddioddef digwyddiadau niweidiol yng nghyswllt cyffuriau.

Gwnaed ymdrechion i fesur rhagnodi a gweinyddu amhriodol mewn cartrefi gofal gan ddefnyddio amrywiaeth o offer a ddilyswyd. Er bod yr astudiaethau hyn wedi dod i’r casgliad bod yna broblemau, mae’r astudiaethau eu hunain wedi bod ar raddfa gymharol fach.

Lleihau gwallau a gwastraff

Mae’r tîm ymchwil, dan arweiniad Dr Mat Smith, mewn cydweithrediad ag Invatech Health (BBACH technoleg iechyd ym Mryste), wedi gwerthuso system caglu presgripsiynau electronig gyfun a system cadw cofnodion gweinyddu meddyginiaethau electronig mewn dros 150 o gartrefi gofal a fferyllfeydd; ar hyn o bryd mae’r system yn casglu data ar fwy na 15,000 o breswylwyr cartrefi gofal. Yna caiff y data rhagnodi a gasglwyd ochr yn ochr â chofnodion gweinyddu meddyginiaethau eu cloddio i archwilio materion ar lefel y boblogaeth sy’n ymwneud ag epidemioleg ac  arferion rhagnodi.

Dangoswyd bod y system yn sicrhau gostyngiad o 90% o ran camgymeriadau gweinyddol, a gostyngiad o 20% o ran gwastraff moddion. Mae hefyd yn caniatáu i fferyllwyr ymyrryd yn rhagweithiol mewn rheolaeth meddyginiaethau yn y cartrefi gofal ac ymdrin â materion rhagnodi gyda’r rhagnodydd.

Mae’r system wedi’i defnyddio hefyd i archwilio modelau estynedig o weinyddu meddyginiaethau mewn cartrefi gofal sy’n canolbwyntio’n benodol ar alluogi gofalwyr i weinyddu meddyginiaethau i breswylwyr o dan y ddirprwyaeth i nyrsys er mwyn rhyddhau amser nyrs er mwyn ymwneud ag agweddau mwy datblygedig ar gynllunio gofal.

Award photo for case study 4
Yn 2016, dyfarnwyd gwobr y Health Service Journal am Wella Gofal gyda Thechnoleg am eu gwaith ar y system.

Mwy o wybodaeth

Am fwy o wybodaeth am y prosiect hwn, cysylltwch â:

Dr Mathew Smith

Dr Mathew Smith

Lecturer and MPharm Programme Director

Email
smithmw1@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 9286