Ewch i’r prif gynnwys

Llieiniau gwrthficrobaidd

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Amcangyfrifir bod heintiau a gafwyd mewn ysbyty (HAI) yn costio tua £1 biliwn y flwyddyn i'r GIG.

Mae llieiniau gwrthficrobaidd yn gynhyrchion cymharol newydd, a ddefnyddir fwyfwy fel rhan o drefnau rheoli heintiau mewn lleoliadau gofal iechyd.

Yn benodol, defnyddir llieiniau i ddadheintio arwynebau drwy leihau neu ladd pathogenau microbaidd sy’n cyfrannu at heintiau a geir yn yr ysbyty.

Datblygu protocol profi

Datblygodd tîm Caerdydd dan arweiniad yr Athro Jean-Yves Maillard, brotocol profi wedi’i deilwra ar gyfer gwerthuso pa mor effeithiol yw llieiniau gwrthficrobaidd a alluogodd y broses o gynllunio, gwerthuso a marchnata cynhyrchion newydd a gyfrannodd at refeniw sylweddol i bartner diwydiant y DU.

Roedd y weithdrefn yn galluogi gwerthuso perfformiad llieiniau gwrthficrobaidd yn gywirac yn cyflwyno canlyniadau adrodd meintiol a oedd yn cynnwys:

  • canran y biofaich microbaidd a dynnir o arwynebau
  • canran atal trosglwyddo o lieiniau gwlyb i arwynebau
  • canran lladd micro-organebau targed a gedwir o fewn y lliain.

Nid yn unig yr argymhellir y weithdrefn gan y Coleg Nyrsio Brenhinol ac yn sail i well safonau ar gyfer profion effeithlonrwydd ond mae wedi caniatáu i weithgynhyrchwyr a defnyddwyr terfynol ddeall effeithlonrwydd cynnyrch yn effeithiol.

Jean Yves Maillard Award
Derbyniodd yr Athro Maillard a GAMA Healthcare wobr Partneriaethau Busnes ac Addysg yr Insider ar gyfer 2015 yng nghategori 'Ymchwil a Datblygu'. Mae’r wobr yn dathlu cydweithio rhwng cwmnïau, prifysgolion a cholegau ledled Cymru.

Mwy o wybodaeth

Am fwy o wybodaeth am y prosiect hwn, cysylltwch â:

Yr Athro Jean-Yves Maillard

Yr Athro Jean-Yves Maillard

Professor of Pharmaceutical Microbiology

Email
maillardj@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 9088