Ewch i’r prif gynnwys

2018

Mae'r ffenestri yn ein tai yn gadael i ni'n llythrennol fwrw golwg ar yr anrhefn yng ngorffennol ein bydysawd, wrth i ymchwil newydd ddatgelu bod silica – prif gydran gwydr – wedi ffurfio'n wreiddiol yng nghanol sêr sy’n ffrwydro.

Mewn astudiaeth newydd, a gyhoeddwyd yn y Monthly Notices of the Royal Astronomical Society, mae tîm rhyngwladol o wyddonwyr wedi canfod silica yng ngweddillion dau supernova pell, biliwn o flynyddoedd golau i ffwrdd o'r Ddaear.

Gan ddefnyddio Telesgop Gofod Spitzer NASA, roedd y tîm wedi gallu canfod 'ôl bys' unigryw silica mewn dau supernova, Cassiopeia A a G54.1+0.3, ar sail y donfedd benodol o olau a allyrrwyd ganddynt.

Mae supernova yn ddigwyddiad dramatig pan mae seren anferth, yn y pen draw, yn rhedeg allan o danwydd, gan beri iddi syrthio ar ei hun a dod â'i bywyd i ben â ffrwydrad dwys. O fewn y ffrwydradau hyn y caiff atomau unigol eu cyfuno er mwyn ffurfio nifer o'r elfennau 'trymion' cyffredin, fel sylffwr a chalsiwm.

Roedd Jeonghee Rho, seryddwr yn Sefydliad SETI yng Nghaliffornia a phrif awdur y papur, wedi gallu nodi gronynnau o silica yn y supernovae ar sail y rhagdybiaeth eu bod yn debycach i siâp peli rygbi yn hytrach na'r gred gyffredin eu bod yn gwbl gylchol.

"Mae'r model gronyn cylchol yn syml, ond gallwch weld wrth edrych ar greigiau ar y Ddaear nad ydynt yn gylchol y rhan fwyaf o'r amser," meddai Rho.

Roedd data a gymerwyd o Arsyllfa Gofod Herschel Asiantaeth Gofod Ewrop y gallu ategu'r canfyddiad hwn, a bwrw amcan ar faint o silica a gynhyrchwyd gan bob ffrwydrad.

Gwelwyd nifer fawr o lwch silica drwy'r bydysawd yn flaenorol, ond hyd yma nid yw gwyddonwyr wedi gallu pennu'r union leoliad lle caiff ei ffurfio.

At ei gilydd, mae silica'n ffurfio oddeutu 60 y cant o gramen y ddaear. Mae un math penodol o silica, sef cwarts, yn un o brif gydrannau tywod sy'n amlwg ar hyd arfordiroedd dwyrain a gorllewin UDA. Yn ogystal â ffenestri gwydr a gwydr ffibr, defnyddir silica hefyd ym maes diwydiant i wneud concrid.

Yn ôl prif awdur yr astudiaeth, yr Athro Haley Gomez, o Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd: "Rydym wedi dangos am y tro cyntaf bod y silica a gynhyrchwyd gan y supernovae'n ddigon sylweddol i gyfrannu at y llwch ar draws y Bydysawd, gan gynnwys y llwch a ddaeth ynghyd, yn y pen draw, i ffurfio'r blaned sy'n gartref i ni.

"Bob tro y byddwn yn syllu drwy ffenestr, cerdded ar hyd y palmant neu'n camu ar draeth o dywod, byddwn yn rhyngweithio â deunydd a ffurfiwyd gan sêr wnaeth ffrwydro a llosgi miliynau o flynyddoedd yn ôl."

Mae system Brydeinig sy’n mynd i’r afael â thrais wedi’i mabwysiadu yn yr Unol Daleithiau.

Mae Model Caerdydd ar gyfer Atal Trais, a arloeswyd gan yr Athro Jonathan Shepherd, wedi cael cefnogaeth ffurfiol  Canolfannau Rheoli ac Atal Clefydau (CDC) UDA.

Mae’r model yn dod ag asiantaethau ynghyd i atal trais drwy ddefnyddio data a gesglir gan adrannau brys yn ogystal â gwybodaeth yr heddlu.

Yn ôl Adran Cyfiawnder yr Unol Daleithiau, mae camau atal troseddau wedi’u rhwystro gan y ffaith nad yw'r rhai sy'n gorfodi'r gyfraith yn cael gwybod am dros hanner y troseddau treisgar yn UDA.

Drwy ddefnyddio data’r adrannau brys, mae’r model yn dangos y mannau hynny lle mae trais yn digwydd nad yw’r heddlu yn gwybod amdanynt. Dyma’r mannau lle dylai’r heddlu fod yn canolbwyntio eu hymdrechion.

Erbyn hyn mae CDC, sy’n ceisio gwarchod America rhag bygythiadau iechyd a diogelwch, wedi creu gwefan a phecyn cymorth er mwyn helpu asiantaethau i gyflwyno'r model ledled y wlad

Yn ôl yr Athro Jonathan Shepherd, Cyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Trosedd a Diogelwch Prifysgol Caerdydd: "Mae'r ffaith fod y Canolfannau ar gyfer Rheoli ac Atal Clefydau yn rhoi sêl bendith ffederal yn ffurfiol yn garreg filltir o bwys yn hanes Model Caerdydd. I gymunedau ar draws yr Unol Daleithiau sy'n wynebu trasiedïau dynol a chostau drud trais, mae'r dull hwn, sydd eisoes wedi'i brofi, yn un addawol dros ben. Mae rhoi'r dull ar waith yn sicr o esgor ar fwy o wersi ynghylch sut y dylid defnyddio'r Model, a bydd yn helpu awdurdodaethau mewn mannau eraill i elwa."

Mae Model Caerdydd wedi bod mor fanwl gywir wrth ganfod mannau penodol nes ei fod wedi helpu Heddlu Llundain yn ddiweddar i ddod o hyd i 'dŷ crack' oedd yn anhysbys, gynt, yn y ddinas honno.

Mae pecyn cymorth CDC yn cynnwys ystod o ddeunyddiau i helpu gweithwyr iechyd proffesiynol ac asiantaethau i sefydlu prosiectau 'Model Caerdydd' ar y cyd. Mae'n cynnwys arweiniad ar gyfer ysbytai a chyrff gorfodi'r gyfraith, yn ogystal â chyngor ar faterion cyfreithiol, arian a sut i feithrin partneriaethau llwyddiannus.

Wrth lansio'r pecyn cymorth, meddai James A. Mercy, PhD, Cyfarwyddwr yr Adran Atal Trais yng Nghanolfan Cenedlaethol Atal a Rheoli Anafiadau: "Mae Model Atal Trais Caerdydd yn paratoi'r ffordd i gymunedau feddu ar ddarlun mwy clir o'r mannau lle mae trais yn digwydd drwy gyfuno a mapio data ysbytai a'r heddlu am drais.

"Mae mwy iddo na dull o fapio a deall trais: mae Model Caerdydd yn cynnig fframwaith uniongyrchol ar gyfer ysbytai, asiantaethau gorfodi'r gyfraith, asiantaethau iechyd cyhoeddus, grwpiau cymunedol, ac eraill sydd â diddordeb mewn atal trais er mwyn cydweithio a datblygu strategaethau atal trais ar y cyd."

Gan ddefnyddio Model Caerdydd, mae asiantaethau atal trais ac ysbytai'r ardal yn ffurfio partneriaeth diogelwch yn y gymuned er mwyn rhannu data o gyfweliadau gan bobl ag anafwyd gan drais. Mae’r wybodaeth hon yn cynnwys:

  • Pryd cafodd yr unigolyn ei anafu (dyddiad ac amser)
  • Ble cafodd yr unigolyn ei anafu (enw’r busnes a/neu gyfeiriad y stryd)
  • Sut ddigwyddodd yr anaf a/neu'r arf a ddefnyddiwyd (e.e. taro, trywanu â chyllell)

Yn y rhagair i'r pecyn cymorth, mae Dr Mercy yn ychwanegu: "Mae Model Caerdydd yn ateb addawol ar gyfer atal trais. Rydym yn eich annog i ddefnyddio'r deunydd hwn i greu partneriaeth eang er mwyn atal trais yn eich cymuned."

Sefydlwyd Model Caerdydd ym 1997, ac mae wedi'i fabwysiadu ledled y byd.

Yn UDA, dyfarnodd y Sefydliad Cyfiawnder Cenedlaethol ffederal, sy'n helpu asiantaethau lleol, $1m yn ddiweddar i brosiect yn Wisconsin sy'n mabwysiadu Model Caerdydd.

Bydd yr arian yn helpu i sefydlu'r broses o rannu data rhwng asiantaethau gorfodi'r gyfraith, cyrff iechyd cyhoeddus, ysbytai a chanolfannau triniaeth yn West Allis, un o faestrefi Milwaukee.

Mabwysiadodd y Canolfannau Rheoli ac Atal Clefydau fodel yr Athro Shepherd yn dilyn gwerthusiad sy'n cymharu deilliannau trais yng Nghaerdydd â'r profiad mewn 14 o ddinasoedd tebyg.

Dangosodd y canlyniadau ostyngiad o 32% mewn anafiadau wedi'u cofnodi gan yr heddlu (o'i gymharu ag ymosodiadau difrifol yn UDA), a gostyngiad o 42% yn y nifer a aeth i'r ysbyty am anafiadau yn gysylltiedig â thrais, gan arbed dros £19 mewn costau cyfiawnder troseddol a bron i £15 mewn costau system iechyd am bob £1 a wariwyd.

https://youtu.be/jiH6PBj0ekg

Cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford bod Cymru wedi cael dros €100m i gefnogi prosiectau ymchwil a datblygu o bwys oddi wrth un o gronfeydd blaenllaw'r UE.

Ymhlith y prosiectau fydd ar eu hennill yn sgîl yr arian newydd yw partneriaeth rhwng y cwmni angori sy'n seiliedig yn Sir Ddinbych, Qioptiq Ltd, a Phrifysgol Caerdydd, sydd wedi cael €635,000 oddi wrth Horizon 2020 er mwyn gweithio ochr yn ochr â chonsortiwm o 20 o bartneriaid rhyngwladol ar brosiect MANUELA.

Bydd y prosiect yn datblygu prosesau gweithgynhyrchu ychwanegion mewn ystod eang o feysydd, gan gynnwys modura, awyrofod, ynni a meddygol.

Yn ôl Lee Eccles, prif beiriannydd Qioptiq Ltd:

"Mae Qioptiq yn llawn cyffro i fod yn rhan o brosiect MANUELA, sydd wedi'i ariannu gan Horizon 2020. Bydd ein cyfraniad at ddatblygu technoleg mor arloesol yn helpu i wneud yn siŵr bod Qioptiq yn cynnal ei safle fel arloeswr sy'n arwain y farchnad, gan greu twf ar gyfer y cwmni, yr economi leol a Chymru."

Horizon 2020 yw rhaglen ymchwil ac arloesedd fwyaf yr UE erioed. Mae'n cefnogi gwyddoniaeth a thechnoleg arloesol, a chydweithio rhyngwladol er mwyn darparu ffyrdd o ddatrys rhai o'r heriau allweddol sy'n wynebu ein cymdeithas.

Ers lansio'r rhaglen hynod gystadleuol, mae busnesau a phrifysgolion Cymru wedi bod yn ymwneud â dros 2,800 o gydweithrediadau rhyngwladol. Mae'r rhain wedi rhoi manteision economaidd sylweddol i Gymru, ac wedi helpu i osod prifysgolion Cymru ar flaen y gad o ran ymchwil.  

Yn ôl yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford:

"Heddiw, rydym yn dathlu llwyddiant Cymru yn Horizon 2020. Mae'r rhaglen yn cynnig cyfle go iawn i fusnesau a phrifysgolion Cymru fod ar flaen y gad o ran ymchwil ac arloesedd o'r radd flaenaf, yn ogystal â cheisio tyfu ein heconomi.

"Mae'r llwyddiant hwn yn amlygu'n union pa mor bwysig yw hi ein bod yn parhau i gael mynediad llawn at Horizon 2020 a'r rhaglen fydd yn ei holynu yn y dyfodol, ar ôl i'r DU adael yr UE.

"Byddwn yn parhau i roi pwysau ar Lywodraeth y DU i wneud yn siŵr bod hyn yn rhan o unrhyw berthynas newydd rhwng y DU a'r UE ar ôl Brexit."

Hon yw'r ail bartneriaeth rhwng Qioptic a Phrifysgol Caerdydd, yn dilyn Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth gydag Ysgol Busnes Caerdydd, wnaeth helpu QioptiQ i ennill cytundeb amddiffyn gwerth £82m, gan greu a diogelu swyddi.

Mae cais i greu cloc atomig bychan â pherfformiad uchel sy'n llywio technolegau'r dyfodol yn bartneriaeth rhwng Prifysgol Caerdydd a'r Ganolfan Lled-ddargludyddion Cyfansawdd .

Mae Prosiect KAIROS wedi'i ariannu gan Innovate UK, a bydd yn cysylltu partneriaid er mwyn datblygu'r prototeip rhag-gynhyrchu o gloc caesiwm cywasgedig fydd yn pweru rhwydweithiau 5G.

Gallai'r cloc gael ei ddefnyddio mewn ystod eang o gymwysiadau yn y dyfodol, gan gynnwys cyflenwad ynni dibynadwy, cysylltiadau trafnidiaeth saff, rhwydweithiau data a thrafodion ariannol electronig.

Yn ôl yr Athro Peter Smowton, Rheolwr Gyfarwyddwr Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd Prifysgol Caerdydd a ariennir gan EDRF: "Mae hon yn rhaglen hynod o gyffrous, dwy flynedd o hyd, a ddylai arwain at gadwyn gyflenwi Lled-ddargludyddion Cyfansawdd gyflawn sy'n seiliedig yn y DU. Bydd yn cynnwys popeth o'r twf crisialaidd cyntaf ar wafferi – a elwir yn epitacsi – i wneuthuriad a phecynnu'r ddyfais, er mwyn creu ystod eang o gymwysiadau yn y dyfodol."

Mae mesur amser yn fanwl gywir yn hanfodol er mwyn i wasanaethau sy'n dibynnu ar hyn o bryd ar Systemau Llywio Lloeren Byd-eang weithredu'n effeithiol (GNSS).

Fodd bynnag, gellir tarfu'n rhwydd ar signalau amser GNSS, naill ai drwy ddamwain neu'n faleisus. Arweiniodd dibyniaeth ar y systemau sy'n agored i niwed, InnovateUK i gomisiynu adroddiad a gyhoeddwyd gan London Economics ym mis Mehefin 2017. Yn ôl amcangyfrif, byddai methiant yn y systemau am bum niwrnod yn cael effaith o £5.2 biliwn ar economi'r DU.

Yn ôl Dr Wyn Meredith, Rheolwr Gyfarwyddwr CSC – menter ar y cyd rhwng Prifysgol Caerdydd a'r arbenigwyr lled-ddargludyddion cyfansawdd IQE, sydd wedi'u lleoli yng Nghaerdydd: "Mae'r galw ar gynnydd am ffyrdd o ddatrys dulliau amseru sydd ddim yn dibynnu ar GNSS.

Mae partneriaid eraill, o dan arweiniad Teledyne e2v, yn cynnwys y Labordy Ffiseg Cenedlaethol, Leonardo, Altran, ICS Ltd, HCD Research, Optocap a Phrifysgol Caerefrog.

I gyd-fynd â Phrosiect KAIROS mae ail wobr Cronfa Her ar gyfer CS Connected – clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd cyntaf y byd, sydd wedi'i leoli yn Ne Cymru.

Mae partner y clwstwr, IQE, yn cymryd rhan y prosiect Agile Quantum Safe Communications (AQuaSec).

Mae'r prosiect wedi'i arwain gan Toshiba Research Europe Limited, a bydd yn datblygu technolegau ar gyfer cyfathrebiadau "cwantwm-ddiogel", gan adeiladu prototeipiau sy'n mynd i'r afael â bod yn gynyddol agored i niwed gan fygythiadau seibr-ddiogelwch yn sgîl galluoedd cyfrifiadura cwantwm.

Mae crater anferth a adawyd gan wrthdrawiad trychinebus meteorit a drawodd y Ddaear wedi'i ddarganfod yn ddwfn o dan y rhewlifoedd yn yr Ynys Las.

Cafodd y crater 31 km o led, sy'n fwy o faint na Paris, ei ddarganfod gan dîm rhyngwladol o wyddonwyr sy'n credu iddo gael ei achosi gan wrthdrawiad meteorit ar y Ddaear rhwng 3 miliwn a 12,000 o flynyddoedd yn ôl.

Darganfuwyd y crater dan Rewlif Hiawatha yng ngogledd-orllewin yr Ynys Las a dyma'r tro cyntaf erioed i geudwll gwrthdrawiad o unrhyw faint gael ei ddarganfod o dan un o lenni iâ cyfandirol y Ddaear.

Mae tystiolaeth a gyhoeddwyd heddiw yn y cyfnodolyn Science Advances yn awgrymu i'r crater gael ei ffurfio pan drawodd meteorit un cilometr o led i ogledd yr Ynys Iâ cyn i iâ orchuddio'r wlad.

Ers hynny mae'r crater wedi'i gladdu dan iâ sydd dros gilometr o drwch, gan gadw cyfrinachau digwyddiad dramatig y mae'n bosibl iddo newid yr hinsawdd yn sylweddol ac a arweiniodd at ganlyniadau difrifol i fywyd ar y Ddaear ar y pryd.

Arweiniwyd y tîm gan ymchwilwyr o'r Ganolfan ar gyfer GeoGenetics yn Amgueddfa Astudiaeth Natur Denmarc, Prifysgol Copenhagen. Gwnaeth y tîm ddarganfod y crater ym mis Gorffennaf 2015, pan wnaethant ddigwydd dod o draws 'pant crwn' na sylwyd arno o'r blaen o dan Rewlif Hiawatha wrth iddynt archwilio map newydd o’r dopoleg o dan len iâ yr Ynys Las.

Plane flying over crater

Cododd y darganfyddiad hwn ddiddordeb y tîm, a gwnaethon nhw beilota awyren ymchwil dros y rhewlif er mwyn defnyddio radar o'r radd flaenaf i fesur yr iâ, ac roedd y tu hwnt i bob disgwyliad gan ddatgelu crater y gwrthdrawiad yn fanwl iawn.

O ganlyniad i ddadansoddiad cemegol manwl a gyflawnwyd ym Mhrifysgol Caerdydd, llwyddodd yr ymchwilwyr i greu darlun o'r math o wrthrych a allai achosi dinistr enfawr o'r fath drwy fesur y gwaddod o afon sy'n draenio'n syth drwy'r rhewlif.

Yn benodol, roedd yr arbenigwyr yn edrych am arwyddion o blatinwm, paladiwm, rhodiwm ac aur, ymysg metelau eraill, gan y byddai hynny'n awgrymu presenoldeb meteorit.

"Pan ddaeth y canlyniadau o'r dadansoddiad cemegol, roeddent yn sicr yn annisgwyl," esboniodd cyd-awdur yr ymchwil Dr Iain McDonald, o Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Môr ym Mhrifysgol Caerdydd.

Daethpwyd o hyd i nifer o meteoritau haearn, gan gynnwys darn 20 tunnell sydd bellach yn sefyll yn amlwg yng nghwrt yr Amgueddfa Ddaearegol yn Copenhagen, gynt yn yr ardal o gwmpas Cape York heb fod ymhell o safle Hiawatha yng ngogledd Greenland.

Arweiniodd hyn i'r gwyddonwyr gredu bod rhaid bod gwrthdrawiad meteorit wedi digwydd yn rhywle yn yr ardal, ond hyd yma nid oedd gan y tîm dystiolaeth i gefnogi eu damcaniaeth.

"Nid oedd y llofnod a nodwyd gennym yn union yr un fath â'r meteorit haearn a welwyd o'r blaen yn Cape York; fodd bynnag, mae asteroidau haearn yn cynrychioli tameidiau o greiddiau metel y tu mewn i blanetoidau a gafodd eu chwalu'n gatastroffig gan wrthdrawiadau yn ystod hanes cynnar Cysawd yr Haul.

"Yn gemegol, mae ein samplau a'r meteorit haearn yn hynod heterogenaidd ac mae'n debygol eu bod yn cynrychioli tameidiau gwahanol a gafodd eu glynu at ei gilydd gan ddisgyrchiant.  Mae meteoritau haearn rhanedig yn bethau prin ac mae'n bosibl y bydd dod o hyd i ddau ddigwyddiad o'r fath yn agos at ei gilydd yn fwy na chyd-ddigwyddiad.

"Er bod angen mwy o ymchwil, rydym o'r farn ei fod yn bosibl mai rhannau allanol neu hyd yn oed yn gerrig mawrion ar wyneb y prif feteorit yw haearnau Cape York. Rydym yn amau i'r rhain dorri'n rhydd ym maes disgyrchiant y Ddaear ac yna arafu wrth iddynt fynd i mewn i'r atmosffer i gwympo i'r dde o geudwll Hiawatha," parhaodd Dr McDonald.

Crater the size of Paris

Meddai awdur arweiniol yr ymchwil, yr Athro Kurt H. Kjær, o Amgueddfa Astudiaeth Natur Denmarc: "Mae'r crater wedi'i gadw'n eithriadol o dda ac mae hynny'n syndod, oherwydd bod rhew y rhewlif yn erydydd hynod effeithlon a fyddai wedi dileu olion y gwrthdrawiad yn gyflym."

"Y cam nesaf yn yr ymchwiliad fydd mynd ati’n hyderus i bennu dyddiad ar gyfer y gwrthdrawiad. Bydd hyn yn her oherwydd y mae'n debyg y bydd yn gofyn am gael hyd i ddeunydd a oedd wedi toddi yn ystod y gwrthdrawiad yng ngwaelod y strwythur, ond mae hyn yn hollbwysig os ydym i ddeall yr effaith a gafodd gwrthdrawiad Hiawatha ar fywyd ar y Ddaear," parhaodd yr Athro Kjær.

Bydd pobl anabl yn gallu elwa ar ofal a rennir a mwy o gyfleoedd cymdeithasol, o ganlyniad i Arloesi er mwyn Arbed.

Am y tro cyntaf yng Nghymru, mae'r elusen anabledd blaenllaw, Leonard Cheshire, wedi cael benthyciad di-log o £1 miliwn i ddarparu gweithgareddau hamdden mewn grwpiau. Bydd hyn yn creu cyfleoedd gwell i bobl anabl mewn ffordd fydd hefyd yn arbed arian y sector cyhoeddus.

Cyflwynir Arloesi er mwyn Arbed mewn partneriaeth gan Y Lab, Labordy Arloesedd Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, sy’n bartneriaeth rhwng Prifysgol Caerdydd a Nesta. Ei nod yw darganfod, profi a chefnogi'r syniadau newydd gorau ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus Cymru.

Bydd y benthyciad a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn caniatáu i Leonard Cheshire roi dewis i bobl anabl i gyfuno eu taliadau uniongyrchol am ofal gyda'i gilydd. Gallant hefyd fwynhau gweithgareddau fel grŵp yn hytrach nag ar eu pen eu hunain, os ydynt yn dewis.

Yn ogystal â’r manteision cymdeithasol amlwg y bydd hyn yn eu creu ar gyfer unigolion a'u cymunedau, mae hyn yn lleihau'r gost o oriau gofal un-i-un lle nad oes eu hangen, sy'n ei wneud yn fodel newydd arloesol ar gyfer gwariant yn y sector cyhoeddus.

Mae'r lansiad cenedlaethol yn dilyn treial Leonard Cheshire ar Ynys Môn, 'Arloesi ar gyfer Cymunedau Heini'. Cymerodd y bobl ran mewn gweithgareddau gan gynnwys gweithdai drama a sesiynau ffotograffiaeth.

Dywedodd Gary, un cyfranogwr ifanc: "Mae hwn wedi gwella fy hyder ac wedi agor mwy o gyfleoedd i mi."

Ychwanegodd Martin Gallagher, y cynorthwy-ydd personol sy'n cefnogi Gary: "Mae ganddo fwy o ddewis beth i'w wneud, gyda phwy, ym mhle a phryd.  Rwy'n credu bod yr hyblygrwydd a'r creadigrwydd hwn yn gyfle gwych i unrhyw un."

Bydd y £1 miliwn yn galluogi’r elusen i ymestyn Arloesi ar gyfer Cymunedau Heini ledled Cymru dros dair blynedd. Bydd pobl anabl yn gallu mewngofnodi ar-lein i ddewis pa ofal a ddymunant. Byddant hefyd yn medru ymuno â chymuned gynyddol sy'n cael ei harwain gan anghenion, gweithgareddau a diddordebau cyffredin.

Dywedodd Rob Ashelford, Cyd-arweinydd a Phennaeth Digwyddiadau Y Lab: "Canlyniad allweddol y rhaglen Arloesi er mwyn Arbed yw helpu prosiectau i fanteisio ar gyllid risg.  Mae Leonard Cheshire wedi croesawu'r cyfle a'r rhaglen. Maent wedi datblygu syniadau cyffrous a chreu cyfleoedd pendant y gellir eu rhoi ar waith i wella'r gwasanaeth y maent yn ei gynnig.”

Dywedodd Mark Drakeford, Gweinidog y Cabinet dros Gyllid: "Rydw i wrth fy modd ein bod wedi gallu rhoi £1m i’r prosiect hwn trwy'r rhaglen Arloesi er mwyn Arbed.

"Bydd y cynllun Arloesi ar gyfer Cymunedau Heini yn galluogi pobl anabl i gael hyfforddiant a gwaith gwirfoddol ac i wneud penderfyniadau gwybodus am eu gofal, eu cefnogaeth, a sut maent yn treulio eu hamser."

Mae ffigurau a gyhoeddwyd heddiw gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd yn datgelu hyd a lled hunan-niweidio a thrais mewn Sefydliadau Troseddwyr Ifanc (YOIs) yng Nghymru a Lloegr.

Mae’r ffigurau blaenorol sydd heb eu cyhoeddi, a gasglwyd gan Fwrdd Cyfiawnder Ieuenctid drwy’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth*, yn cynnig cipolwg unigryw ar brofiadau plant mewn unedau pobl ifanc sy’n darparu ar gyfer plant 15-17 oed yn bennaf.**

Mae’r canfyddiadau, a gasglwyd yn rhan o Brosiect Cyfiawnder ac Awdurdodaeth Canolfan Llywodraethiant Cymru, yn datgelu:

  • Roedd nifer uchaf yr achosion o hunan-niweidio yn HMYOI Parc ym Mhen-y-bont ar Ogwr o’i gymharu â phum sefydliad arall yng Nghymru a Lloegr. Cafwyd cyfanswm o 64 o achosion yn 2017. 40 yw poblogaeth uned blant HMYOI Parc ar gyfartaledd.
  • Yn ogystal, uned blant HMYOI Parc oedd â’r gyfradd uchaf o ymosodiadau ar bobl ifanc, gan gofnodi 113 o achosion yn ystod 2017. Mae’r nifer hwn yn gyfwerth â thua tri digwyddiad ar gyfer pob carcharor.
  • YOI Feltham oedd â’r nifer uchaf o ymosodiadau ar unigolion nad oeddent yn bobl ifanc yn 2017. Roedd 131 o’r achosion hyn i gyd, a allai ymwneud â staff carchar ac ymwelwyr. 129 yw poblogaeth uned blant Feltham ar gyfartaledd.

Dywedodd Dr Robert Jones: “Mae’r data a gyflwynir yma yn dangos hyd a lled difrifol hunan-niweidio a thrais ymhlith plant yn y ddalfa.  Mae’r ffigurau diweddaraf hyn yn codi cwestiynau brys ynghylch lefelau diogelwch mewn Sefydliadau Troseddwyr Ifanc yng Nghymru a Lloegr gan gynnwys HMYOI Parc, uned i blant yn Nghymru sy’n rhan o un o garchardai mwyaf y DU.

Meddai Andrew Neilson, Cyfarwyddwr Ymgyrchoedd yng Nghynghrair Howard er Diwygio’r System Gosb:  “Mae’r ffigurau hyn yn dangos yn gwbl glir pam na ddylai plant fod mewn carchardai. Nid ydym yn rhoi’r plant yn gyntaf ar adeg hanfodol yn eu bywydau os ydym yn eu rhoi mewn carchardai lle maent yn dod i gysylltiad â lefelau mor uchel o drais. Yn hytrach na llehau’r tebygolrwydd o aildroseddu, mae hyn yn eu gwneud yn fwy tebygol o droseddu eto wedi iddynt gael eu rhyddhau.”

* Gan ddefnyddio Deddf Rhyddid Gwybodaeth, gofynnwyd y cwestiynau canlynol i Sefydliadau Troseddwyr Ifanc yng Nghymru a Lloegr am eu hunedau sy’n gofalu am bobl ifanc rhwng 15 ac 17 mlwydd oed:

Faint o’r digwyddiadau canlynol a gofnodwyd yn (i) Cookham Wood; (ii) Feltham A; (iii) Parc (iv) Werrington; (v) Wetherby; (vi) Uned Keppel yn 2017.

i) achosion o hunan-niweidio 
ii) ymosodiadau carcharwr-ar-garcharwr 
iii) ymosodiadau ar staff

** Mae’r data yn cyfeirio at ddigwyddiadau mewn unedau sy’n gofalu am y troseddwyr ieuengaf mewn YOIs – rhwng 15 ac 17 oed yn bennaf. Bydd y data yn cynnwys rhai sy’n 18 oed sy’n parhau i fod yn yr ystâd ddiogel i blant o dan 18.

  • Nid yw’r gymhariaeth yn cynnwys Uned Keppel yn HMYOI Wetherby. Mae Uned Keppel yn Uned Dibyniaeth Uchel/Cefnogaeth Uwch, ac yn cynnig cefnogaeth fwy datblygedig i rai o’r bobl ifanc mwyaf heriol ac agored i niwed yn y ddalfa. Mae ffigurau ar gyfer Uned Keppel wedi’u cynnwys yn y tablau isod er gwybodaeth.

Poblogaeth a nifer yr achosion

 Cookham WoodFelthamParcWerringtonWetherbyUned Keppel
Poblogaeth (cyfartaledd)144129409818436
Nifer yr achosion o hunan-niweidio623564100146195
Nifer y bobl ifanc sydd wedi dioddef ymosodiad a brofwyd10920711320915833
Nifer y rhai NAD YDYNT yn bobl ifanc sydd wedi dioddef ymosodiad a brofwyd413140829415

Nifer yr achosion ‘fesul 100’ at ddibenion cymharu

 Cookham WoodFelthamParcWerringtonWetherbyUned Keppel
Poblogaeth (cyfartaledd)144129409818436
Cyfradd hunan-niweidio fesul 10043.127.116010279.3542

Nifer y bobl ifanc o bob 100 sydd wedi dioddef ymosodiad a brofwyd

75.7160.5282.5213.385.992

Nifer y rhai NAD YDYNT yn bobl ifanc o bob 100 sydd wedi dioddef ymosodiad a brofwyd

2.8101.610083.751.142

Mae Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Caerdydd yn rhoi Cymru ar flaen y gad o ran gwella radiograffeg drwy lansio ystafell efelychu ac addysgu radiograffeg newydd yng Nghampws Parc y Mynydd Bychan.

Agorwyd Ystafell Amgylchedd Gwylio Radiograffeg a Delweddu Diagnostig (DRIVE) mewn digwyddiad gyda Sue Webb, Llywydd Cymdeithas a Choleg y Radiograffyddion, yn bresennol.

Wrth siarad yn y digwyddiad, dywedodd Sue Webb: “Pleser o’r mwyaf yw dathlu rhoi Cymru ar y map o ran cydnabod y gofal radiograffeg rhagorol sy’n cael ei gynnig yn y wlad. Mae’r cyfleuster hwn hefyd yn cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr astudio’r sgiliau annhechnegol a ‘dynol’ fel cyfathrebu, arwain ac ymwybyddiaeth o sefyllfaoedd.  Mae ymchwil yn awgrymu bod y cyfuniad hwn o sgiliau technegol ac annhechnegol o’r radd flaenaf yn hanfodol i sicrhau diogelwch y cleifion.”

Mae ystafelloedd efelychu realistig yn rhoi amgylchedd dilys na fydd yn codi ofn, gan gyflwyno’r sgiliau clinigol pwysig fydd eu hangen ar fyfyrwyr pan fyddant yn gweithio yn y maes. Mae’n amgylchedd diogel lle gall myfyrwyr ymarfer a datblygu sgiliau cyffredin a chymhleth. Bydd hefyd yn cynyddu eu hyder fel eu bod yn gwbl barod ar gyfer y gwaith ymarferol.

Ariannwyd y cyfleuster newydd gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (Gwasanaethau Gweithlu, Addysg, a Datblygiadol – WEDS gynt). Mae’n cynnwys ystafell Pelydr-X ac uned CR cwbl weithredol, a oedd yn rhodd fel rhan o ddiweddariad radiotherapi digidol Cymru Gyfan gyda Fujifilm; uned symudol a C-Arm; a chyfrifiaduron a meddalwedd â manyleb uchel.

Mae’r feddalwedd hefyd ar gael i fyfyrwyr ar ddyfeisiau symudol pan na fyddant yn agos at y cyfleusterau dysgu ac addysgu, a dylai’r cyfuniad o’r asedau hyn wella hyder myfyrwyr a’u cymhwysedd wrth baratoi ar gyfer addysg glinigol.

Y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Michael Heseltine, cyn-Ddirprwy Brif Weinidog ac un o brif feirniaid yr ymgyrch i adael yr UE, i draddodi Darlith Nodedig Hadyn Ellis.

Yn y ddarlith, 'Brexit: diweddariad', a gynhelir nos Fercher 28 Tachwedd 2018, bydd yr Arglwydd Heseltine yn defnyddio ei brofiad gwleidyddol helaeth wrth gynnig gwerthusiad beirniadol o’r cytundeb drafft ar gyfer ymadael a'r effaith a gaiff hyn ar ddyfodol y wlad.

Bydd yr Arglwydd Heseltine yn manteisio ar ei brofiad hir mewn gwleidyddiaeth wrth ystyried cwestiynau hanfodol fel: Beth fydd telerau'r broses ymadael yn ei olygu i ddyfodol masnach y DU? Beth fydd hyn yn ei olygu i’r undeb rhwng pedair cenedl y DU? A gaiff y cynigion ddigon o gefnogaeth wleidyddol i gael eu cymeradwyo gan Senedd y DU?

Cynhelir Cyfres Darlithoedd Nodedig Hadyn Ellis unwaith y flwyddyn er cof am gyn-Ddirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, yr Athro Hadyn Ellis CBE. Fe wnaeth yr Athro Ellis arloesi wrth sefydlu disgyblaeth niwroseiciatreg wybyddol, ac roedd ganddo rôl allweddol wrth helpu Caerdydd i ennill ei phlwyf fel un o brifysgolion ymchwil mwyaf blaenllaw’r DU.

Cyflwynir 'Brexit: diweddariad' yn narlithfa Julian Hodge ar 28 Tachwedd 2018 am 18.30.

Mae pob tocyn wedi’i werthu. Mae gan y Brifysgol restr aros am docynnau a ddychwelwyd.

Mae llawfeddygon Cymru’n dysgu techneg lawfeddygol newydd fydd yn eu galluogi i weithio wrth fôn yr ymennydd drwy grau’r llygad. Bydd hyn yn lleihau creithiau ac amser gwella’r cleifion a allai fod wedi gorfod cael llawdriniaeth agored ar yr ymennydd heb y dechneg hon.

Mae’r seminarau hyfforddi, mewn cysylltiad ag Athrofa Therapïau Lleiaf Ymyrrol Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd, yn cael eu cynnal gan Kris Moe, Athro Llawfeddygaeth y glust, y trwyn a’r gwddf yn Seattle. Ef wnaeth arloesi’r driniaeth gywrain hon.

Mae tîm llawfeddygaeth bôn y benglog Caerdydd yn cynllunio cyflwyno’r dechneg, sy’n ymyrryd cyn lleied â phosibl, i Gymru. Y nhw hefyd fydd y cyntaf i’w chyflwyno i’r DU.

TONES (llawfeddygaeth niwroendosgopig drawsgreuol) yw’r enw ar y dechneg, sy’n cynnwys gwneud endoriad bach y tu ôl i’r amrant neu drwyddo. Gwneir twll bach iawn drwy asgwrn crau’r llygad, sydd mor denau â phapur, er mwyn cyrraedd yr ymennydd. Mae’r dull hwn yn galluogi llawfeddygon i wneud llawdriniaethau fel atgyweirio toresgyrn bôn y greuan a thynnu tiwmorau heb symud yr ymennydd. Hefyd, mae’n gwarchod y nerfau optig, y nerfau ar gyfer arogli a’r rhydwelïau carotid ac offthalmig.

Meddai Miss Caroline Hayhurst, Niwrolawfeddyg Ymgynghorol yn Ysbyty Prifysgol Cymru a threfnydd y cwrs: “Mae llawdriniaeth ar fôn yr ymennydd yn un hynod gymhleth, hyd yn oed ym maes niwrofeddygaeth.

“Mae’r Athro Kris Moe yn llawfeddyg o fri rhyngwladol, ac mae wedi arloesi techneg sy’n newid sut rydym yn cyrraedd yr ymennydd ac yn hwyluso gwellhad y cleifion. Mae’n anrhydedd enfawr ei fod yn ein helpu i ddatblygu gwasanaeth hynod flaengar i Gymru, drwy gyflwyno’r driniaeth chwyldroadol hon.”