Cymru ar flaen y gad ym maes radiograffeg
12 Tachwedd 2018
Mae Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Caerdydd yn rhoi Cymru ar flaen y gad o ran gwella radiograffeg drwy lansio ystafell efelychu ac addysgu radiograffeg newydd yng Nghampws Parc y Mynydd Bychan.
Agorwyd Ystafell Amgylchedd Gwylio Radiograffeg a Delweddu Diagnostig (DRIVE) mewn digwyddiad gyda Sue Webb, Llywydd Cymdeithas a Choleg y Radiograffyddion, yn bresennol.
Wrth siarad yn y digwyddiad, dywedodd Sue Webb: “Pleser o’r mwyaf yw dathlu rhoi Cymru ar y map o ran cydnabod y gofal radiograffeg rhagorol sy’n cael ei gynnig yn y wlad. Mae’r cyfleuster hwn hefyd yn cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr astudio’r sgiliau annhechnegol a ‘dynol’ fel cyfathrebu, arwain ac ymwybyddiaeth o sefyllfaoedd. Mae ymchwil yn awgrymu bod y cyfuniad hwn o sgiliau technegol ac annhechnegol o’r radd flaenaf yn hanfodol i sicrhau diogelwch y cleifion.”
Mae ystafelloedd efelychu realistig yn rhoi amgylchedd dilys na fydd yn codi ofn, gan gyflwyno’r sgiliau clinigol pwysig fydd eu hangen ar fyfyrwyr pan fyddant yn gweithio yn y maes. Mae’n amgylchedd diogel lle gall myfyrwyr ymarfer a datblygu sgiliau cyffredin a chymhleth. Bydd hefyd yn cynyddu eu hyder fel eu bod yn gwbl barod ar gyfer y gwaith ymarferol.
Ariannwyd y cyfleuster newydd gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (Gwasanaethau Gweithlu, Addysg, a Datblygiadol – WEDS gynt). Mae’n cynnwys ystafell Pelydr-X ac uned CR cwbl weithredol, a oedd yn rhodd fel rhan o ddiweddariad radiotherapi digidol Cymru Gyfan gyda Fujifilm; uned symudol a C-Arm; a chyfrifiaduron a meddalwedd â manyleb uchel.
Mae’r feddalwedd hefyd ar gael i fyfyrwyr ar ddyfeisiau symudol pan na fyddant yn agos at y cyfleusterau dysgu ac addysgu, a dylai’r cyfuniad o’r asedau hyn wella hyder myfyrwyr a’u cymhwysedd wrth baratoi ar gyfer addysg glinigol.