Ewch i’r prif gynnwys

Partneriaeth yn cael €635,000 o arian gan yr UE

15 Tachwedd 2018

Qioptiqed

Cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford bod Cymru wedi cael dros €100m i gefnogi prosiectau ymchwil a datblygu o bwys oddi wrth un o gronfeydd blaenllaw'r UE.

Ymhlith y prosiectau fydd ar eu hennill yn sgîl yr arian newydd yw partneriaeth rhwng y cwmni angori sy'n seiliedig yn Sir Ddinbych, Qioptiq Ltd, a Phrifysgol Caerdydd, sydd wedi cael €635,000 oddi wrth Horizon 2020 er mwyn gweithio ochr yn ochr â chonsortiwm o 20 o bartneriaid rhyngwladol ar brosiect MANUELA.

Bydd y prosiect yn datblygu prosesau gweithgynhyrchu ychwanegion mewn ystod eang o feysydd, gan gynnwys modura, awyrofod, ynni a meddygol.

Yn ôl Lee Eccles, prif beiriannydd Qioptiq Ltd:

"Mae Qioptiq yn llawn cyffro i fod yn rhan o brosiect MANUELA, sydd wedi'i ariannu gan Horizon 2020. Bydd ein cyfraniad at ddatblygu technoleg mor arloesol yn helpu i wneud yn siŵr bod Qioptiq yn cynnal ei safle fel arloeswr sy'n arwain y farchnad, gan greu twf ar gyfer y cwmni, yr economi leol a Chymru."

Mae cymryd rhan ym mhrosiect MANUELA yn cynnig cyfle cyffrous i Brifysgol Caerdydd weithio gyda phartneriaid diwydiannol ac academaidd blaenllaw ar draws yr UE, a bod ar flaen y gad o ran datblygiadau ymchwil mewn dau faes technoleg sy'n dod i'r amlwg – technoleg artiffisial a gweithgynhyrchu metel ychwanegol, neu argraffu 3D.

Dr Samuel Bigot Senior Lecturer - Teaching and Research

Horizon 2020 yw rhaglen ymchwil ac arloesedd fwyaf yr UE erioed. Mae'n cefnogi gwyddoniaeth a thechnoleg arloesol, a chydweithio rhyngwladol er mwyn darparu ffyrdd o ddatrys rhai o'r heriau allweddol sy'n wynebu ein cymdeithas.

Ers lansio'r rhaglen hynod gystadleuol, mae busnesau a phrifysgolion Cymru wedi bod yn ymwneud â dros 2,800 o gydweithrediadau rhyngwladol. Mae'r rhain wedi rhoi manteision economaidd sylweddol i Gymru, ac wedi helpu i osod prifysgolion Cymru ar flaen y gad o ran ymchwil.  

Yn ôl yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford:

"Heddiw, rydym yn dathlu llwyddiant Cymru yn Horizon 2020. Mae'r rhaglen yn cynnig cyfle go iawn i fusnesau a phrifysgolion Cymru fod ar flaen y gad o ran ymchwil ac arloesedd o'r radd flaenaf, yn ogystal â cheisio tyfu ein heconomi.

"Mae'r llwyddiant hwn yn amlygu'n union pa mor bwysig yw hi ein bod yn parhau i gael mynediad llawn at Horizon 2020 a'r rhaglen fydd yn ei holynu yn y dyfodol, ar ôl i'r DU adael yr UE.

"Byddwn yn parhau i roi pwysau ar Lywodraeth y DU i wneud yn siŵr bod hyn yn rhan o unrhyw berthynas newydd rhwng y DU a'r UE ar ôl Brexit."

Hon yw'r ail bartneriaeth rhwng Qioptic a Phrifysgol Caerdydd, yn dilyn Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth gydag Ysgol Busnes Caerdydd, wnaeth helpu QioptiQ i ennill cytundeb amddiffyn gwerth £82m, gan greu a diogelu swyddi.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn un ysgolion peirianneg mwyaf blaenllaw'r DU ac mae ganddi enw da am ymchwil o'r radd flaenaf ac amgylchedd addysgu bywiog a chyfeillgar.