Ewch i’r prif gynnwys

Ymgais gan Brifysgol Caerdydd i ddatblygu cloc atomig bychan

15 Tachwedd 2018

wafer Compound Semiconductor

Mae cais i greu cloc atomig bychan â pherfformiad uchel sy'n llywio technolegau'r dyfodol yn bartneriaeth rhwng Prifysgol Caerdydd a'r Ganolfan Lled-ddargludyddion Cyfansawdd .

Mae Prosiect KAIROS wedi'i ariannu gan Innovate UK, a bydd yn cysylltu partneriaid er mwyn datblygu'r prototeip rhag-gynhyrchu o gloc caesiwm cywasgedig fydd yn pweru rhwydweithiau 5G.

Gallai'r cloc gael ei ddefnyddio mewn ystod eang o gymwysiadau yn y dyfodol, gan gynnwys cyflenwad ynni dibynadwy, cysylltiadau trafnidiaeth saff, rhwydweithiau data a thrafodion ariannol electronig.

Yn ôl yr Athro Peter Smowton, Rheolwr Gyfarwyddwr Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd Prifysgol Caerdydd a ariennir gan EDRF: "Mae hon yn rhaglen hynod o gyffrous, dwy flynedd o hyd, a ddylai arwain at gadwyn gyflenwi Lled-ddargludyddion Cyfansawdd gyflawn sy'n seiliedig yn y DU. Bydd yn cynnwys popeth o'r twf crisialaidd cyntaf ar wafferi – a elwir yn epitacsi – i wneuthuriad a phecynnu'r ddyfais, er mwyn creu ystod eang o gymwysiadau yn y dyfodol."

Mae mesur amser yn fanwl gywir yn hanfodol er mwyn i wasanaethau sy'n dibynnu ar hyn o bryd ar Systemau Llywio Lloeren Byd-eang weithredu'n effeithiol (GNSS).

Fodd bynnag, gellir tarfu'n rhwydd ar signalau amser GNSS, naill ai drwy ddamwain neu'n faleisus. Arweiniodd dibyniaeth ar y systemau sy'n agored i niwed, InnovateUK i gomisiynu adroddiad a gyhoeddwyd gan London Economics ym mis Mehefin 2017. Yn ôl amcangyfrif, byddai methiant yn y systemau am bum niwrnod yn cael effaith o £5.2 biliwn ar economi'r DU.

Yn ôl Dr Wyn Meredith, Rheolwr Gyfarwyddwr CSC – menter ar y cyd rhwng Prifysgol Caerdydd a'r arbenigwyr lled-ddargludyddion cyfansawdd IQE, sydd wedi'u lleoli yng Nghaerdydd: "Mae'r galw ar gynnydd am ffyrdd o ddatrys dulliau amseru sydd ddim yn dibynnu ar GNSS.

Mae'r cloc atomig bychan cenhedlaeth-nesaf fydd yn cael ei greu o ganlyniad i'r prosiect hwn yn diwallu'r angen hwn. Bydd yn cael ei ddefnyddio'n eang i amseru'n fanwl gywir ar gyfer gweinyddion rhwydwaith mewn gorsafoedd symudol, ar gyfer gwasanaethau ariannol, canolfannau data, rhwydweithiau darparu pŵer cenedlaethol a systemau rheoli traffig awyr.

Dr Wyn Meredith Ganolfan Lled-ddargludyddion Cyfansawdd

Mae partneriaid eraill, o dan arweiniad Teledyne e2v, yn cynnwys y Labordy Ffiseg Cenedlaethol, Leonardo, Altran, ICS Ltd, HCD Research, Optocap a Phrifysgol Caerefrog.

I gyd-fynd â Phrosiect KAIROS mae ail wobr Cronfa Her ar gyfer CS Connected – clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd cyntaf y byd, sydd wedi'i leoli yn Ne Cymru.

Mae partner y clwstwr, IQE, yn cymryd rhan y prosiect Agile Quantum Safe Communications (AQuaSec).

Mae'r prosiect wedi'i arwain gan Toshiba Research Europe Limited, a bydd yn datblygu technolegau ar gyfer cyfathrebiadau "cwantwm-ddiogel", gan adeiladu prototeipiau sy'n mynd i'r afael â bod yn gynyddol agored i niwed gan fygythiadau seibr-ddiogelwch yn sgîl galluoedd cyfrifiadura cwantwm.

Rhannu’r stori hon

Yma, cewch wybod sut mae ein rhagoriaeth ym meysydd ymchwil, trosglwyddo technoleg, datblygu busnesau a mentrau myfyrwyr, yn arwain ein gweledigaeth.