Ewch i’r prif gynnwys

Ystafell Ddosbarth Wyneb i Waered

Mwy am y pwnc hwn

Mae’r dull ‘Ystafell Ddosbarth Wyneb i Waered’ yn ffordd wych o roi cyfle Dysgu Gweithredol i fyfyrwyr. Mae Dysgu Gweithredol yn allweddol i’r ffordd rydyn ni’n addysgu mewn Addysg Uwch: annog myfyrwyr i ddod o hyd i wybodaeth cyn datblygu eu dealltwriaeth o’r deunydd hwnnw. Mae’n allweddol i ddyfnhau dealltwriaeth o’r pwnc a datblygu dysgwyr annibynnol.

Mae sesiwn draddodiadol sy’n canolbwyntio ar yr hyfforddwr (e.e. darlith) yn ymwneud â darparu gwybodaeth graidd yn ystod amser dosbarth, gyda gweithgareddau sy’n canolbwyntio ar y myfyriwr i’w cwblhau ar ôl y dosbarth. Mae dulliau Ystafell Ddysgu Wyneb i Waered yn ymwneud â gwrthdroi (neu ‘fflipio’) trefn y gweithgareddau hyn. Mae’r wybodaeth graidd bellach yn cael ei dysgu gan y myfyrwyr cyn y sesiwn gyswllt wyneb-yn-wyneb. Yna, gall y myfyrwyr ddefnyddio’r amser cyswllt i ddyfnhau ac atgyfnerthu’r dysgu hwnnw a meithrin dealltwriaeth fwy holistig o’r pwnc.

Gall dulliau ‘wyneb i waered’ hefyd alluogi’r darlithydd i fod yn fwy digymell ac ymatebol i anghenion y dosbarth, ac osgoi - mewn pynciau lle gallai hyn ddigwydd - cyflwyno’r un deunydd flwyddyn ar ôl blwyddyn. Gall yr amser cyswllt ganolbwyntio ar ddeunydd y mae myfyrwyr yn cael trafferth ag ef: defnyddio dealltwriaeth i ddatrys problemau neu ddadansoddi, deall meysydd y gellir eu datblygu, neu gynnig rhagor o gefndir ac ehangu gwybodaeth.

Mewn dysgu Wyneb i Waered, bydd angen i’r tiwtor ddod i benderfyniad ynglŷn â’r ffordd y bydd yn cyflwyno’r deunydd craidd, ac mae hyn fel arfer yn cael ei wneud drwy ddefnyddio fideo. Dylai’r adnodd ‘Learn Plus’, sy’n seiliedig ar Panopto, hwyluso’r dull hwn o baratoi deunydd addysgu. Fodd bynnag, mae cyfryngau eraill hefyd yn cael eu defnyddio, fel ffynonellau ysgrifenedig, ar-lein, sain neu rai gweledol eraill. Mae’r amrywiaeth o weithgareddau y gellir eu cynnal yn ystod y sesiynau byw yn ddiddiwedd, ond dylai pob un ymgysylltu â’r myfyrwyr drwy dasg weithredol, yn hytrach na bod yn sesiwn arall sy’n canolbwyntio ar gyflwyno rhagor o gynnwys/gwybodaeth sylfaenol.

Mae’r pwnc yn arddangos meysydd lle mae’r ‘Ystafell Ddosbarth Wyneb i Waered’ wedi bod yn llwyddiannus ar draws y Brifysgol, ac mae dulliau, cyfryngau a ffyrdd gwahanol o ymgysylltu â myfyrwyr drwy’r sesiynau ‘darlith’ byw wedi’u nodi. Mae’r dull gweithredu hwn yn cyfateb i nod Prifysgol Caerdydd o geisio annog myfyrwyr i fod yn gyfranogwyr gweithredol, cynnig amgylchedd dysgu cyfoethog ac arloesol, a defnyddio’r dechnoleg briodol i gefnogi dysgu ac addysgu.


Astudiaethau achos

Transformation to “Experiential Learning”, a case study

Dr Vicki Stevenson

Cyhoeddwyd 26 Jan 2024 • 7 munudutes o ddarllen

Dr Vicki Stevenson, of Cardiff University's Welsh School of Architecture presents at the 2019 Learning & Teaching Conference, hosted by the CESI, a case study on: Transformation to “Experiential Learning”


Pynciau

Ways of learning | Flipping the classroom | Facilitating group work | Small group teaching | Large group teaching | Delivering lectures |

3 cydnabyddiaeth

A-Z o Technoleg Dysgu

Allan Theophanides

Cyhoeddwyd 22 Jul 2021 • 8 munud o ddarllen

Pecha Kucha estynedig yw’r AZ o TD ar gyfer y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu 2021, sy’n cyflwyno 26 o awgrymiadau ac offer Technoleg Dysgu/Addysg Ddigidol i helpu gyda chynllunio llwyth gwaith, addysgu neu wella profiad dysgu digidol myfyrwyr.


Pynciau

Ways of learning | Digital & Information Literacy | Designing for distance learners | Flipping the classroom | Delivering blended programmes |

0 cydnabyddiaeth

Flipping the Classroom - Video Case Study

Dr Stephen Rutherford

Cyhoeddwyd 17 Feb 2017 • 5 munudutes o ddarllen

A short case study from Dr Rutherford outlining his experiences of 'flipping the classroom' within his modules


Pynciau

Flipping the classroom | Delivering lectures |

3 cydnabyddiaeth

Developing student experience and learning through outreach

Glesni Owen and Tallulah Machin

Cyhoeddwyd 16 Jan 2020 • 19 munud o ddarllen

Dr James Redman of Cardiff University's School of Chemistry presents at the Centre for Education Innovation's 2017 Learning & Teaching Conference on the outcomes of his Education Innovation Fund project of 'Electronic notebooks and portfolios for


Pynciau

Ways of learning | Flipping the classroom | Mentoring |

0 cydnabyddiaeth

Yr ystafell ddosbarth wyneb i waered ar-lein mewn dysgu rhyngbroffesiynol

Dr Anna Sydor and Dr Dominic Roche

Cyhoeddwyd 23 Jul 2021 • 7 mun o ddarllen

Mae’r cyflwyniad Pecha Kucha yma o’r Gynhadledd Dysgu ac Addysgu 2021 yn egluro'r broses o gynllunio modiwl ôl-raddedig gofal iechyd gan ddefnyddio dull model ystafell ddosbarth wyneb waered, lle y darperir yr holl ddeunyddiau dysgu i fyfyrwyr


Pynciau

Ways of learning | Flipping the classroom | Delivering blended programmes | Facilitating group work |

1 cydnabyddiaeth

Keeping it Clinical! Creating 'real' personal and professional change in PGT E-learning

Richard Day and Sharon Heahthcote

Cyhoeddwyd 03 Apr 2020 • 19 munud o ddarllen

Dr James Redman of Cardiff University's School of Chemistry presents at the Centre for Education Innovation's 2017 Learning & Teaching Conference on the outcomes of his Education Innovation Fund project of 'Electronic notebooks and portfolios for


Pynciau

Ways of learning | Flipping the classroom |

0 cydnabyddiaeth

Cyfrannu at yr Hwb Dysgu

Mae'r Hwb Dysgu wedi ei greu gan academyddion i academyddion, ac rydym yn eich annog chi i rannu unrhyw beth sydd yn cefnogi, amlygu neu adlewyrchu ar dysgu ac addysgu yma ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae hwn yn gyfle i gymryd rhan weithredol o'r gymuned ddysgu yng Nghaerdydd, i rannu eich arbenigedd gyda'ch cyd-weithwyr.