Mentora Myfyrwyr
Mwy am y pwnc hwn
Mae'r Cynllun Mentora Myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yn cefnogi myfyrwyr i bontio i fywyd yn y Brifysgol.
Mae myfyrwyr yn eu blwyddyn gyntaf ( y rhai sy'n cael eu mentora) yn cael eu paru ag israddedigion o'r un Ysgol, ac maent yn cwrdd yn rheolaidd i drafod amrywiaeth eang o bynciau, gan gynnwys technegau astudio, cyllidebu a dewis modiwlau. Mae'r cynllun hefyd yn cynnig cyfle i fyfyrwyr ar draws gwahanol grwpiau blwyddyn i ddod i adnabod ei gilydd, ac i ddatblygu ymdeimlad o fod yn rhan o gymuned academaidd yn y Brifysgol.
Yn ogystal â'r manteision a nodir ar gyfer y rhai sy'n cael eu mentora, mae'r cynllun hefyd yn cynnig cyfle i fentoriaid wella'r sgiliau trosglwyddadwy allweddol sydd eu hangen gan gyflogwyr, megis sgiliau cyfathrebu, trefnu, ac arwain.
Mae'r adran hon yn cynnig gwybodaeth am sut cafodd y cynllun mentora ei gyflwyno mewn gwahanol ysgolion ar draws y Brifysgol, ac am sut gall y cynllun weithio ochr yn ochr â mecanweithiau cefnogaeth eraill megis tiwtora personol ac ati i wella profiad cyffredinol y myfyriwr.
Astudiaethau achos
Cymru, yr Almaen...y Byd!
Rhys Pearce-Palmer
Cyhoeddwyd 22 Jul 2021 • 7 munud o ddarllen
Mae’r cyflwyniad Pecha Kucha yma o’r Gynhadledd Dysgu ac Addysgu 2021 yn archwilio’r cynllunio a’r manylion a aeth i mewn i gyflwyno’r rhaglen i ysbrydoli ac ysgogi myfyrwyr i ymgysylltu â gweithgaredd allgyrsiol dwys.
Pynciau
Enterprise & Employability | Designing for distance learners | Mentoring |Developing student experience and learning through outreach
Glesni Owen and Tallulah Machin
Cyhoeddwyd 16 Jan 2020 • 19 munud o ddarllen
Dr James Redman of Cardiff University's School of Chemistry presents at the Centre for Education Innovation's 2017 Learning & Teaching Conference on the outcomes of his Education Innovation Fund project of 'Electronic notebooks and portfolios for
Pynciau
Ways of learning | Flipping the classroom | Mentoring |Arwain trwy esiampl: creu man cynhwysol ar-lein
Rosie Mellors
Cyhoeddwyd 22 Jul 2021 • 15 munud o ddarllen
Mae’r cyflwyniad yma o’r Gynhadledd Dysgu ac Addysgu 2021 yn egluro sut y creodd y tîm Prosiect Mentora Ffiseg gymuned hyfforddi ar-lein groesawgar lle y cafodd pawb eu parchu, a chan fentor, a fydd yn egluro sut y gwnaeth yr enghraifft a
Pynciau
Ways of learning | Designing for distance learners | Mentoring |Cyfrannu at yr Hwb Dysgu
Mae'r Hwb Dysgu wedi ei greu gan academyddion i academyddion, ac rydym yn eich annog chi i rannu unrhyw beth sydd yn cefnogi, amlygu neu adlewyrchu ar dysgu ac addysgu yma ym Mhrifysgol Caerdydd.
Mae hwn yn gyfle i gymryd rhan weithredol o'r gymuned ddysgu yng Nghaerdydd, i rannu eich arbenigedd gyda'ch cyd-weithwyr.