Ewch i’r prif gynnwys

Amdanom ni

Mae Canolfan Ddysgu Prifysgol Caerdydd yn ofod rhithwir sy’n gwella profiad dysgu’r myfyriwr yn barhaus.

Mae wedi’i reoli gan y Academi Dysgu ac Addysgu Caerdydd ac yn arddangos gweithgarwch addysgol rhagorol ar draws y Brifysgol, ynghyd ag adnoddau defnyddiol y tu allan i’r Brifysgol.

Mae’r Ganolfan, a ddatblygwyd gan academyddion i academyddion, yn rhoi mynediad uniongyrchol i staff i astudiaethau achos ac adnoddau cysylltiedig sy’n ymwneud ag amrywiaeth eang o ymarferion dysgu ac addysgu effeithiol ac arloesol.

Mae’r gofod deinamig hwn, sy’n datblygu’n gyson, hefyd yn rhoi cyfle i holl aelodau’r Brifysgol roi sylwadau ar, a chyfrannu at, yr holl adnoddau sydd ar gael gan ddod â’r gymuned ddysgu ac addysgu ynghyd a helpu i ddatblygu arferion addysgol rhagorol.

Themâu

Mae’r themâu’n adlewyrchu meysydd allweddol o weithgarwch ac arbenigedd ym mhob rhan o Brifysgol Caerdydd, a byddant yn datblygu i adlewyrchu natur newidiol dysgu ac addysgu mewn Addysg Uwch.

Mae’r themâu canlynol wedi’u cynnwys yn y Ganolfan Ddysgu:

  • Dylunio ar gyfer Dysgu
  • Cefnogi eich Addysgu
  • Asesu ar gyfer Dysgu
  • Cynorthwyo Myfyrwyr
  • Datblygiad Proffesiynol.