Ewch i’r prif gynnwys

Diffinio llythrennedd digidol a llythrennedd gwybodaeth

Mwy am y pwnc hwn

Mae llythrennedd digidol a llythrennedd gwybodaeth yn cefnogi myfyrwyr drwy eu cyfnod pontio rhwng addysg uwch a'r gweithle. Mae'n eu galluogi i ddarganfod, trefnu, dadansoddi, gwerthuso, cyfathrebu, cyflwyno a rhannu gwybodaeth yn effeithiol.

Mae amrywiaeth o ddiffiniadau a fframweithiau llythrennedd digidol a gwybodaeth sy'n ein helpu i ddeall y wybodaeth, y sgiliau a'r arferion sydd eu hangen ar fyfyrwyr er mwyn iddynt ddatblygu i ddod yn lythrennog yn ddigidol a gyda gwybodaeth.  Mae'r rhain yn cynnwys Fframwaith Llythrennedd Gwybodaeth mewn Addysg Uwch y Gymdeithas Llyfrgelloedd Colegau ac Ymchwil, Cwricwlwm Newydd ar Gyfer Llythrennedd Gwybodaeth, Fframwaith Gallu Digidol JISC a'r Fframwaith Llythrennedd Dysgu Digidol.

Mae Gwasanaeth Llyfrgelloedd Prifysgol Caerdydd wedi tynnu ar y rhain i ddatblygu fframwaith llythrennedd gwybodaeth pwrpasol sy'n llywio sut y mae Llyfrgellwyr Pwnc yn meddwl am gysyniadau ac yn eu haddysgu.

Mae llythrennedd digidol a gwybodaeth yn bwysig i gyflogadwyedd, ac maent yn sylfaen i feddwl yn feirniadol a dysgu ac addysgu a arweinir gan ymchwil. (Ewch i’n tudalennau cyngor gyrfaoedd am ragor o wybodaeth).  Maen nhw'n ein galluogi i:

  • ymateb i'r heriau sy'n codi o'r cynnydd mawr mewn gwybodaeth.
  • elwa ar fanteision technoleg yn ein bywyd gwaith bob dydd.
  • deall sut mae gwybodaeth yn cael ei chreu, ei rhannu a'i chyfathrebu a gwneud dewisiadau addas ar gyfer y cyd-destun
  • defnyddio gwybodaeth mewn ffordd sy'n cydnabod yr awdur ac yn parchu hawlfraint.

Mae llythrennedd digidol a gwybodaeth yn bwysig ym mhob disgyblaeth ac ar bob lefel astudio.  Mae'r pwnc hwn yn archwilio sut y gall llythrennedd digidol a gwybodaeth gael ei ddatblygu o fewn cyd-destun y cwricwlwm academaidd, sy'n gysylltiedig â'r pwnc a'i gynnwys mewn asesiad.  Er enghraifft, mae llyfrgellwyr pwnc yng Ngwasanaeth Llyfrgelloedd y Brifysgol yn cydweithio â chydweithwyr academaidd yn yr ysgolion i integreiddio llythrennedd gwybodaeth i raglenni astudio ac yn teilwra dulliau o gyflwyno hyn er mwyn bodloni gofynion pob disgyblaeth. Maen nhw hefyd yn cynnig addysgu o fewn cyrsiau, fel gweithdai ymarferol i grwpiau mawr a bach, arddangosiadau, darlithoedd a thiwtorialau.


Astudiaethau achos

Pod JOMEC Cymraeg

Sian Lloyd and Andrew Weeks

Cyhoeddwyd 23 Jul 2021 • 15 mun o ddarllen

Yn yr cyflwyniad yma o’r Gynhadledd Dysgu ac Addysgu 2021 mae tîm Pod JOMEC Cymraeg yn trafod eu cyfres o bodlediadau a’r broses cynhyrchu a chomisiynu, datblygu eu sgiliau digidol, a datblygu sgiliau i’r gweithle.


Pynciau

Ways of learning | Digital & Information Literacy | Enterprise & Employability | Engaging with student feedback |

-1 cydnabyddiaeth

A-Z o Technoleg Dysgu

Allan Theophanides

Cyhoeddwyd 22 Jul 2021 • 8 munud o ddarllen

Pecha Kucha estynedig yw’r AZ o TD ar gyfer y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu 2021, sy’n cyflwyno 26 o awgrymiadau ac offer Technoleg Dysgu/Addysg Ddigidol i helpu gyda chynllunio llwyth gwaith, addysgu neu wella profiad dysgu digidol myfyrwyr.


Pynciau

Ways of learning | Digital & Information Literacy | Designing for distance learners | Flipping the classroom | Delivering blended programmes |

0 cydnabyddiaeth

Annog diddordeb myfyrwyr trwy popplet fel map gweledol o ddysgu iaith (

Dr Sian Edwards

Cyhoeddwyd 22 Jul 2021 • 15 munud o ddarllen

Mae’r cyflwyniad yma o’r Gynhadledd Dysgu ac Addysgu 2021 yn trafod prosiect o’r enw Amlieithrwydd Ychwanegol a ddaeth yn fyw. Mae’n cynnwys defnyddio popplet fel offeryn mapio meddwl gweledol i ennyn diddordeb myfyrwyr mewn archwilio


Pynciau

Ways of learning | Digital & Information Literacy | Designing for distance learners | Engaging with student feedback |

1 cydnabyddiaeth

Even better than the real thing? Developing online learning experiences and communities

Professor Ann Taylor and Neil Mosley

Cyhoeddwyd 16 Jan 2020 • 19 munud o ddarllen

Dr James Redman of Cardiff University's School of Chemistry presents at the Centre for Education Innovation's 2017 Learning & Teaching Conference on the outcomes of his Education Innovation Fund project of 'Electronic notebooks and portfolios for


Pynciau

Ways of learning | Digital & Information Literacy | Designing for distance learners |

0 cydnabyddiaeth

ViewfindR: Datblygu VLE i rannu sgiliau delweddu a gwaith camera mewn rhith-amgylcheddau

Dr Savyasaachi Jain and Dr Daniel Finnegan

Cyhoeddwyd 21 Jul 2021 • 15 munud o ddarllen

Mae'r cyflwyniad hwn yn Gynhadledd Dysgu ac Addysgu 2021 yn egluro sut ddaeth tîm rhyngddisgyblaethol o’r Ysgolion Newyddiaduraeth a Chyfrifiadureg ynghyd y llynedd i gynhyrchu a phrofi prototeip mewn ymateb i’r graddau yr oedd COVID-19 yn


Pynciau

Ways of learning | Digital & Information Literacy | Designing for distance learners | Delivering blended programmes |

0 cydnabyddiaeth

Mae’r cyflwyniad hon o’r Gynhadledd Dysgu ac Addysgu 2021 yn crynhoi mentrau Grŵp Addysg Ddigidol y Ganolfan Addysg Feddygol (C4ME) o fewn Ysgol Meddygaeth sydd gyda’r nod o gynorthwyo myfyrwyr a staff yn benodol gyda’r broses o drosglwyddo


Pynciau

Ways of learning | Digital & Information Literacy | Designing for distance learners | Flipping the classroom | Delivering blended programmes |

0 cydnabyddiaeth

Cyfrannu at yr Hwb Dysgu

Mae'r Hwb Dysgu wedi ei greu gan academyddion i academyddion, ac rydym yn eich annog chi i rannu unrhyw beth sydd yn cefnogi, amlygu neu adlewyrchu ar dysgu ac addysgu yma ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae hwn yn gyfle i gymryd rhan weithredol o'r gymuned ddysgu yng Nghaerdydd, i rannu eich arbenigedd gyda'ch cyd-weithwyr.