Ewch i’r prif gynnwys

Cefnogi lleoliadau dysgu

Mwy am y pwnc hwn

Gall lleoliadau gynnig cyfleoedd dysgu unigryw a gwerthfawr iawn i fyfyrwyr sy'n cyd-fynd â'u hastudiaethau academaidd. Gall arddull a dull dysgu lleoli fod yn wahanol iawn i rannau eraill o raglen academaidd, gyda threfn, arferion a disgwyliadau anghyfarwydd. Felly mae angen cymorth ar fyfyrwyr mewn nifer o gamau, gan gynnwys paratoi ar gyfer lleoliad, yn ystod y lleoliad, ac ar ddychwelyd i’r Brifysgol ar ôl cwblhau lleoliad.  Yn benodol bydd angen cymorth ar fyfyrwyr yn aml i ddeall beth maent yn ei ddysgu ar y lleoliad. Mae myfyrio’n rhan bwysig dros ben o'r broses hon – ac yn sgìl y bydd angen ymarfer a chanllawiau ar fyfyrwyr.

Gall y ffyrdd mae dysgu ac asesu yn cael eu cofnodi ar leoliad hefyd fod yn anghyfarwydd i fyfyrwyr, ac mae angen ystyried ac esbonio hyn yn ofalus. Mae hefyd yn bwysig sicrhau y gall myfyriwr roi tystiolaeth ynglŷn â’i leoliad dysgu, ar gyfer asesu ac i’w gyflwyno i eraill ar ôl graddio.

Mae cyflogwyr a darparwyr lleoliadau hefyd yn cynnig cefnogaeth sylweddol ar gyfer lleoliadau dysgu, ac yn aml yn cefnogi’r dysgu hwnnw’n ddyddiol. Felly mae'n bwysig bod cyflogwyr yn cael yr adnoddau a'r wybodaeth ynghylch nodau a gofynion asesu rhaglen er mwyn cefnogi myfyrwyr yn unol â hynny.

Mae'r pwnc hwn yn cynnig cipolwg ar yr amrywiaeth o gyfleoedd am leoliadau sy'n bodoli ar draws Prifysgol Caerdydd a sut caiff myfyrwyr eu cefnogi’n effeithiol yn ystod profiadau o'r fath.


Astudiaethau achos

Myfyrio ar fyfyrdodau

Dr Kate Gilliver

Cyhoeddwyd 21 Jul 2021 • 15 munud o ddarllen

Mae'r cyflwyniad hwn o Gynhadledd Dysgu ac Addysgu 2021 yn trafod yr hyn y mae ysgrifennu myfyriol fel asesiad wedi’i ddatgelu am brofiad myfyrwyr o ddysgu gweithredol mewn pandemig.


Pynciau

Ways of learning | Designing for distance learners | Engaging with student feedback | Assessment design | Providing feedback | Supporting Placement Learning |

2 cydnabyddiaeth

Pan nad yw lleoliadau yn gallu digwydd

Professor Jane Henderson, Katherine List and Charlotte Lester

Cyhoeddwyd 22 Jul 2021 • 15 munud o ddarllen

Mae'r cyflwyniad hwn o Gynhadledd Dysgu ac Addysgu 2021 yn trafod sut, mewn ymateb i ganslo profiadau yn y gweithle oherwydd y pandemig, gweithiodd Charlotte Lester (Cyn-fyfyriwr Prifysgol Caerdydd) gyda Jane Henderson (SHARE) i ddatblygu cynllun


Pynciau

Ways of learning | Designing for distance learners | Engaging with student feedback | Supporting Placement Learning |

0 cydnabyddiaeth

Peru: A fascinating insight into developing medicine

Dr Katey Beggan

Cyhoeddwyd 16 Jan 2020 • 19 munud o ddarllen

Dr James Redman of Cardiff University's School of Chemistry presents at the Centre for Education Innovation's 2017 Learning & Teaching Conference on the outcomes of his Education Innovation Fund project of 'Electronic notebooks and portfolios for


Pynciau

Ways of learning | Learning journeys | Supporting Placement Learning |

0 cydnabyddiaeth

COVID -19 a Gofal Diwedd Oes: Storfa Xerte

Claire Job

Cyhoeddwyd 22 Jul 2021 • 15 munud o ddarllen

Mae’r cyflwyniad yma o’r Gynhadledd Dysgu ac Addysgu 2021 yn adrodd ar ddatblygu stordy Xerte i alluogi myfyrwyr i gael mynediad at un adnodd i gael gwybodaeth hanfodol i gefnogi pobl oedd yn marw gyda COVID-19.


Pynciau

Delivering blended programmes | Supporting Placement Learning |

0 cydnabyddiaeth

“Beth Sy’n Bwysig i Mi”… Cyfranogiad Cleifion a’r Cyhoedd ar ZOOM

Claire Job

Cyhoeddwyd 21 Jul 2021 • 15 munud o ddarllen

Mae’r cyflwyniad hon o’r Gynhadledd Dysgu ac Addysgu 2021 yn disgrifio sut, yn ystod y pandemig, gwnaeth cydweithrediad rhwng staff academaidd a chleifion leihau effaith andwyol COVID ar brofiad myfyrwyr trwy ddylunio sesiwn ystafell ddosbarth


Pynciau

Ways of learning | Designing for distance learners | Engaging with student feedback | Supporting Placement Learning |

0 cydnabyddiaeth

Dr James Redman of Cardiff University's School of Chemistry presents at the Centre for Education Innovation's 2017 Learning & Teaching Conference on the outcomes of his Education Innovation Fund project of 'Electronic notebooks and portfolios for


Pynciau

Ways of learning | Enterprise & Employability | Research-led teaching | Supporting Placement Learning |

-99 cydnabyddiaeth

Cyfrannu at yr Hwb Dysgu

Mae'r Hwb Dysgu wedi ei greu gan academyddion i academyddion, ac rydym yn eich annog chi i rannu unrhyw beth sydd yn cefnogi, amlygu neu adlewyrchu ar dysgu ac addysgu yma ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae hwn yn gyfle i gymryd rhan weithredol o'r gymuned ddysgu yng Nghaerdydd, i rannu eich arbenigedd gyda'ch cyd-weithwyr.