Mae Ymchwil ym maes Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol ym Mhrifysgol Caerdydd wedi cael y sgôr uchaf posibl o 4.0 am effaith yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf (REF).
Mae ymchwil gyfreithiol yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth Prifysgol Caerdydd wedi cyrraedd y 5ed safle ar gyfer amgylchedd ymchwil a 6ed ar gyfer effaith ymchwil, yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) diweddaraf.
Ar adeg pan fo democratiaeth yn Ewrop ar flaen ein meddyliau, mae Athro Emeritws yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth yn Uwch Gynghorydd Arbenigol i'r Grŵp Lefel Uchel sy'n adrodd ar Ddemocratiaeth Ewropeaidd yn y Gynhadledd ar Ddyfodol Ewrop.
Enillodd Matthew Congreve radd BScEcon Cysylltiadau Rhyngwladol a Gwleidyddiaeth yma yn 2018 ac, y llynedd, daeth trwy Ffrwd Gyflym y Gwasanaeth Sifil i rôl Ail Glerc Pwyllgor Amddiffyn Tŷ'r Cyffredin.
Mae llyfr diweddaraf yr Athro Russell Sandberg ar restr fer Gwobr Llyfr Theori a Hanes Cymdeithasol-Gyfreithiol y Gymdeithas Astudiaethau Cymdeithasol-Gyfreithiol (SLSA) eleni.
Flwyddyn ar ôl lansio menter yr Her Fawr, mae ein myfyrwyr yn gwneud cynnydd cadarnhaol gyda'r gwaith a gychwynnwyd ganddynt mewn perthynas â'r amgylchedd a newid yn yr hinsawdd.