Ewch i’r prif gynnwys

The Return of the State And Why It Is Essential for Our Health, Wealth and Happiness

13 Mai 2022

Yn dilyn degawdau o neoryddfrydiaeth, mae academydd o Gaerdydd yn dadlau yn ei lyfr newydd bod angen dychwelyd i wladwriaeth sy'n hyrwyddo budd y cyhoedd ac sy'n diogelu’r budd cyffredin, a hynny ar frys yn dilyn pandemig COVID-19.

Ysgrifennodd y theorïwr gwleidyddol Dr Graeme Garrard ei lyfr, The Return of the State And Why It Is Essential for Our Health, Wealth and Happiness, yn ystod y pandemig, ond mae wedi bod yn meddwl, yn addysgu ac yn ysgrifennu am y wladwriaeth ar hyd ei yrfa academaidd gyfan y treuliwyd 25 mlynedd o’r rhain ym Mhrifysgol Caerdydd.

Dyma a ddywedodd Dr Garrard, "Dechreuodd fy niddordeb mewn gwleidyddiaeth flodeuo gyntaf ar ddechrau'r 1980au pan oedd y wladwriaeth neoryddfrydol yn dod yn flaenllaw yn y Gorllewin. Ers bron i bedwar degawd bellach rwy wedi bod yn dyst i’r ffordd y mae’r wladwriaeth wedi methu pawb ond yr un y cant sydd gyfoethocaf. Yn syml iawn, mae wedi cryfhau grym corfforaethau preifat mawr ac wedi gwneud yr ychydig yn gyfoethocach ar draul y rhan fwyaf."

Cred Garrard fod yn rhaid i'r wladwriaeth neoryddfrydol a'i pholisïau llymder sy’n preifateiddio, yn contractio allan ac yn dadreoleiddio ddod i ben a’i hanfon i'r gorffennol. Amlygwyd hyn yn y ffordd fwyaf dwys yn ystod y pandemig pan aeth y wladwriaeth ati i chwarae rhan uniongyrchol ym mywydau beunyddiol dinasyddion, gan amlygu cyn lleied o bwys a roddid iddi.

Mae Garrard yn herio delwedd neoryddfrydol y farchnad a'r wladwriaeth sydd wedi bod yn flaenllaw mewn trafodaethau cyhoeddus ers iddo ddechrau astudio gwleidyddiaeth. Mae ei lyfr yn amddiffyn dewis amgen a chadarnhaol i'r wladwriaeth neoryddfrydol sydd wedi dominyddu ein gwleidyddiaeth ers cenhedlaeth. Dyma a ddywedodd, "Rwy'n cyflwyno'r achos dros wladwriaeth sy'n chwarae rhan llawer mwy gweithredol mewn bywyd economaidd ac sydd wedi ymrwymo'n anad dim i hyrwyddo a diogelu nwyddau cyhoeddus hanfodol i bob dinesydd. Dim ond y wladwriaeth sy'n ddigon cryf i ffrwyno grymoedd sy’n cystadlu â hi a chymryd rhan yn y math o weithredu ar y cyd sydd ei angen i ddatrys y problemau mwyaf brys rydyn ni’n eu hwynebu, a dim ond y wladwriaeth y gellir mynnu ei bod yn atebol yn ddemocrataidd i'r cyhoedd."

Mae Dr Garrard yn dysgu modiwlau ar Feddwl Gwleidyddol Modern, Meddwl Gwleidyddol yr Ugeinfed Ganrif ac Athroniaeth Wleidyddol Plato yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth.

Cyhoeddwyd The Return of the State And Why It Is Essential for Our Health, Wealth and Happinessgan Wasg Prifysgol Yale.

Rhannu’r stori hon