Hunaniaeth genedlaethol Cymru wrth wraidd canlyniad etholiadau'r Senedd 2021
9 Mehefin 2022
Roedd barn pleidleiswyr am hunaniaeth genedlaethol yn cyfyngu ar yr enillion y gallai gwrthwynebwyr Llafur ddisgwyl eu cyflawni yn etholiadau'r Senedd y llynedd, yn ôl ymchwil newydd gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd.
Mewn erthygl yng nghyfnodolyn Parliamentary Affairs, dadansoddodd academyddion ddata a gasglwyd o Astudiaeth Etholiad Cymru 2021, sy'n archwilio agweddau ac ymddygiad pleidleiswyr trwy gyfres o arolygon ar-lein. Mae'r canlyniadau, medden nhw, yn dangos bod y bleidlais Lafur yn arbennig o gryf ymhlith pleidleiswyr sy'n teimlo ymlyniad cymharol gryf at hunaniaethau Prydeinig a Chymreig, sef “mwyafrif yr etholwyr”.
Mae'r astudiaeth yn dangos bod Plaid Cymru yn gwneud orau ymhlith ymatebwyr sydd â hunaniaeth Gymreig gref a Phrydeinig wan. I'r gwrthwyneb, mae'r Ceidwadwyr yn gwneud yn llawer gwell ymhlith y rhai sydd â hunaniaethau Prydeinig cryf a Chymreig gwan.
Dywedodd y prif awdur Dr Jac Larner: “Rhoddodd etholiad Cymru ar 6 Mai 2021 bleidlais o hyder dros Lafur Cymru a'r prosiect datganoli ehangach.
“Ni all y Ceidwadwyr yng Nghymru ennill cefnogaeth pleidleiswyr sy'n ystyried eu hunain yn bennaf neu'n gyfan gwbl Gymreig ar hyn o bryd, tra bod Plaid Cymru yn ei chael hi'n anodd dod o hyd i bleidleisiau gan y rhai sy'n ystyried eu hunain naill ai'n llwyr neu'n rhannol Brydeinig.
“Yr hyn sy'n weddill, felly, yw plaid Lafur Gymreig sy'n pwysleisio ei gwreiddiau Cymreig a'i hynodrwydd oddi wrth bleidiau eraill y DU, tra'n parhau, am y tro o leiaf, i ymrwymo i'r undeb. Mae cynnal yr ymagwedd 'Elen Benfelen' hon ar hunaniaeth genedlaethol a hoffterau cyfansoddiadol cyfartalog Cymru ar draws chwe etholiad datganoledig yn golygu mai hi yw'r grym etholiadol mwyaf llwyddiannus yn y DU erbyn hyn.”
Yn ôl academyddion, mae'r darlun yng Nghymru yn debyg i ymchwil a wnaed mewn mannau eraill ym Mhrydain, gyda thair tiriogaeth gyfansoddol Prydain yn cael eu dominyddu gan dair plaid “genedlaethol” wahanol — yr SNP yn yr Alban a'r Ceidwadwyr yn Lloegr.
Dywedodd Dr Larner: “Mae'r SNP yn flaenllaw ymhlith y rhai sy'n uniaethu’n Albanwyr. Yn Lloegr, mae'r Ceidwadwyr yn dominyddu ymhlith y rhai sy'n uniaethu’n Saeson. Yng Nghymru, Llafur yw'r blaid o ddewis ymhlith y rhai sy'n teimlo'n Gymreig, ac eithrio'r rhai sy'n gwrthod Prydeindod yn llwyr.
“Mae'r dirwedd wleidyddol hon yn creu cyfyng-gyngor mawr i Lafur Cymru o ran sut mae'n cyflawni ei huchelgeisiau heb adlam sylweddol gan Lafur yn Lloegr a'r Alban; dau achos sy'n edrych yn anghysbell ar hyn o bryd. O fewn y cyd-destun hwn, mae pob tebygolrwydd y bydd Llywodraeth Cymru yn dod i wrthdaro fwyfwy â Llywodraeth y DU, a fydd ond yn amlygu ei analluedd ei hun.
“Mewn termau strwythurol, mae'r Ceidwadwyr Cymreig a Phlaid Cymru yn wynebu'r un her sylfaenol; sef, sut i ymestyn eu cefnogaeth y tu hwnt i garfanau gwahanol iawn yr etholwyr sydd ar hyn o bryd yn dueddol o'u cefnogi.”
Mae Astudiaeth Etholiad Cymru 2021 yn arolwg a ariennir gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) o tua 4,000 o bleidleiswyr cymwys yng Nghymru a gynhelir ar-lein gan YouGov.
Mae'r arolwg yn cynnwys pedair ton (un cyn yr etholiad, dau ar ôl yr etholiad, ynghyd â thon ymgyrchu barhaus) ac yn defnyddio dyluniad panel i ail-gyfweld â chymaint o'r un ymatebwyr â phosibl.
Mae maint mawr ei sampl ynghyd â'i elfen banel yn ffynhonnell heb ei hail i astudio ymddygiad ac agweddau gwleidyddol yng Nghymru.
Incumbency and Identity: The 2021 Senedd Election, ar gael i’w darllen yma.