Y sgôr effaith uchaf posibl ar gyfer Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol yn y fframwaith ymchwil cenedlaethol
12 Mai 2022
Mae Ymchwil ym maes Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol ym Mhrifysgol Caerdydd wedi cael y sgôr uchaf posibl o 4.0 am effaith yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf (REF).
Mae REF yn broses o adolygu arbenigol a gynhelir bob chwe blynedd i asesu a dangos gwerth ac effaith yr ymchwil a wneir mewn sefydliadau addysg uwch ledled y DU. Eleni, bu i 157 o brifysgolion gymryd rhan yn yr asesiad; roedd hyn yn cynnwys 76,132 o staff academaidd a chyflwyniad o 6,781 o astudiaethau achos effaith.
Yn y fframwaith diweddaraf, ystyriwyd bod dros 80% o gyflwyniad yr ysgol i'r Uned Asesu Gwleidyddiaeth ac Astudiaethau Rhyngwladol (UOA) yn arwain y byd neu'n rhagorol yn rhyngwladol o ran gwreiddioldeb ac arwyddocâd.
Mae'r hymchwil yn ymgysylltu â gwead polisi ac ymarfer cenedlaethol a rhyngwladol gyda chryfderau craidd mewn gwleidyddiaeth, datganoli, hanes syniadaeth wleidyddol a chysylltiadau rhyngwladol. Mae arbenigedd Cysylltiadau Gwleidyddol a Rhyngwladol yr ysgol yn eang, yn amrywio o ymgorffori cloddio gwely'r môr dwfn ym mholisi Economi Las Affrica, i faterion gwleidyddol cenedlaethol datganoledig, megis ail-lunio etholfraint, maint a system etholiadol Senedd Cymru (Senedd Cymru).
Mae’r ysgol yn meithrin cymuned ymchwil gynhwysol, amrywiol a chydweithredol. Mae cyflwyno gwaith 100% o'n staff cymwys i'r Uned Asesu hon yn adlewyrchu hynny.
Yn ôl yr Athro Richard Wyn Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Llywodraethiant Cymru: “Rydym wrth ein bodd ein bod yn un o ddim ond tair prifysgol yn y DU sydd wedi ennill y sgoriau effaith uchaf posibl am ein gwaith ym maes gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol. Mae ysgolheictod ymgysylltiedig yn un o nodweddion ein hadran. Rydym nid yn unig yn ceisio deall ond mynd i'r afael â phroblemau'r byd go iawn - yma yng Nghymru ac ar draws y byd. Mae'n wirioneddol braf gweld ein hymdrechion yn cael eu cydnabod fel hyn.”
Dewch i wybod rhagor am ganlyniadau cyffredinol Prifysgol Caerdydd a chanlyniadau'r ysgol yn ei huned asesu - Gwleidyddiaeth ac Astudiaethau Rhyngwladol