Cyfnodolyn arweiniol am Eiddo Deallusol yn penodi arbenigwr o Gaerdydd fel Golygydd
21 Mawrth 2022
Penodwyd yr Athro Phillip Johnson yn olygydd i gyfnodolyn blaenllaw ar gyfraith eiddo deallusol.
Mae'r Intellectual Property Quarterly (IPQ) bellach yn ei bumed flwyddyn ar hugain ac fe'i cyhoeddir bedair gwaith y flwyddyn gan Sweet a Maxwell. Mae'n cyhoeddi erthyglau ar bob mater sy'n ymwneud ag eiddo deallusol, ond gan ganolbwyntio'n benodol ar awdurdodaethau cyfraith gyffredin.
Mae'r Athro Johnson, sy'n Athro Cyfraith Fasnachol ac yn fargyfreithiwr gweithredol yn y Bar Eiddo Deallusol, yn dod â chyfoeth o brofiad ac arbenigedd i olygyddiaeth IPQ. Arferai fod yn gynghorydd cyfreithiol i'r Swyddfa Eiddo Deallusol ac ar hyn o bryd mae'n eistedd fel Person Penodedig yn gwrando apeliadau gan y gofrestrfa dyluniadau a nodau masnach. Yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth mae'n dysgu ar fodiwl israddedig eiddo deallusol a'r modiwlau ôl-raddedig ar batentau a nodau masnach. Mae hefyd yn Gyfarwyddwr y Rhaglen LLM.
Wrth siarad am ei benodiad i IPQ, dywedodd yr Athro Johnson, “Mae'n anrhydedd cael ymgymryd â golygyddiaeth yr Eiddo Deallusol Chwarterol sydd mor uchel ei barch drwy gydol fy ngyrfa.”
Mae IPQ yn croesawu cyflwyno erthyglau. Anfonwch yr holl gyflwyniadau at y Golygydd i'w hystyried.