Cydnabod effaith ymchwil y gyfraith a'i amgylchedd yn REF 2021
12 Mai 2022
Mae ymchwil gyfreithiol yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth Prifysgol Caerdydd wedi cyrraedd y 5ed safle ar gyfer amgylchedd ymchwil a 6ed ar gyfer effaith ymchwil, yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) diweddaraf.
Mae REF yn broses o adolygu arbenigol a gynhelir bob chwe blynedd i asesu a dangos gwerth ac effaith yr ymchwil a wneir mewn sefydliadau addysg uwch ledled y DU. Eleni, bu i 157 o brifysgolion gymryd rhan yn yr asesiad; roedd hyn yn cynnwys 76,132 o staff academaidd a chyflwyniad o 6,781 o astudiaethau achos effaith.
Yn y fframwaith diweddaraf, cyflawnodd yr ysgol gyfartaledd pwynt gradd (GPA) cyffredinol o 3.34 o fewn Uned Asesu'r 'Gyfraith' (UOA) gan gyrraedd y 15fed safle yn y DU. Mae'r perfformiad cryf hwn yn adlewyrchu ansawdd ei gydweithrediad rhyngddisgyblaethol a'r ymgysylltu dinesig a pholisi cryf sydd wrth wraidd ymchwil yr ysgol. Mae ymchwilwyr yn yr ysgol yn cyfrannu at ddadleuon cyfoes mawr ynghylch cyfiawnder byd-eang a llywodraethu aml-lefel, cynaliadwyedd amgylcheddol, iechyd a lles, hawliau dynol, cyfiawnder cymdeithasol, trosedd a diogelwch, a chyfraith fasnachol a chorfforaethol. Mae Caerdydd yn Ysgol y Gyfraith flaenllaw ar gyfer astudiaethau cymdeithasol-gyfreithiol a'r gyfraith mewn cyd-destun.
Mae astudiaethau achos a gyflwynwyd i'r UOA yn ymdrin â phynciau sy'n amrywio ar draws arferion eciwmenaidd yn y DU ac Ewrop, gan ddylanwadu ar benderfyniadau yn y Goruchaf Lys ar etholiadau arlywyddol yn Kenya, cryfhau hawliau a chyfranogiad o dan gyfraith galluedd meddyliol, a gwella amddiffyniadau ar gyfer pobl agored i niwed yn nalfa'r heddlu.
Mae’r ysgol yn meithrin cymuned ymchwil gynhwysol, amrywiol a chydweithredol. Mae cyflwyno gwaith 100% o'n staff cymwys i'r Uned Asesu hon yn adlewyrchu hynny.
Dywedodd yr Athro Stewart Field, Pennaeth y Gyfraith: “Rydym wrth ein bodd gyda'r canlyniad hwn. Mae'n adlewyrchu gwaith caled nid yn unig ein holl staff academaidd ond ein holl gydweithwyr yn y gwasanaeth proffesiynol sy'n darparu'r gefnogaeth a'r cyngor na allem wneud ein hymchwil hebddynt. Mae ein proffil ymchwilydd yn gymharol ifanc ac mae ein diwylliant ymchwil yn cael ei yrru'n fawr gan golegoldeb ac ymrwymiad i gefnogaeth anffurfiol gan gymheiriaid yn ogystal â mecanweithiau mwy sefydliadol. Edrychwn ymlaen at y dyfodol yn hyderus.”
Dewch i wybod rhagor am ganlyniadau cyffredinol Prifysgol Caerdydd a chanlyniadau'r ysgol yn ei huned asesu - Y Gyfraith