Ewch i’r prif gynnwys

Ôl-raddedig a addysgir

Mae gennym raglen sy’n ehangu o raddau Meistr sy'n cynnig cyfleoedd i uwch-astudio elfennau o Gysylltiadau Rhyngwladol a Chyfiawnder Byd-eang, Gwleidyddiaeth Prydain, Cymru a datganoli, polisi cyhoeddus, gwleidyddiaeth Ewropeaidd a theori wleidyddol.

Addysgir ein holl raglenni gan academyddion a gydnabyddir yn rhyngwladol am eu harbenigedd yn eu meysydd.

Cewch eich dysgu drwy gyfrwng seminarau sy'n galluogi trafodaeth academaidd drwyadl mewn grwpiau bach sy'n gymharol anffurfiol. Asesir pob cwrs drwy gyfuniad o draethodau neu arholiadau ar y modiwlau ar ddiwedd tymhorau’r hydref a’r gwanwyn. Yna fe fyddwch yn llunio, dan oruchwyliaeth, draethawd hir ar eich ymchwil am bwnc o’ch dewis chi.

Cyrsiau a addysgir sydd ar gael

Course Qualification Mode
Cysylltiadau Rhyngwladol MA Amser llawn, Rhan amser
Dulliau Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol (Cysylltiadau Rhyngwladol) MSc Amser llawn, Rhan amser
Dulliau Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol (Gwleidyddiaeth) MSc Amser llawn, Rhan amser
Gwleidyddiaeth a Pholisi Cyhoeddus MA Amser llawn, Rhan amser
Llywodraeth a Gwleidyddiaeth Cymru MA Amser llawn, Rhan amser
Llywodraethiant a Datganoli LLM Amser llawn