Ewch i’r prif gynnwys

Cyfleoedd cyfrwng Cymraeg

Ers datganoli, mae yna gynnydd sylweddol yn y galw am arbenigwyr ym meysydd gwleidyddiaeth sy'n siarad Cymraeg yng Nghymru. Mae'r Brifysgol yn ymateb i'r galw drwy gynnig cyfleoedd cyfrwng Cymraeg yn ei rhaglenni israddedig ac ôl-raddedig.

Gwyliwch ein fideo sy'n dangos cyfleoedd cyfrwng Gymraeg yn y Brifysgol.

Ceir dosbarthiadau tiwtorial ar gyfer y modiwlau iaith Gymraeg dewisol canlynol i fyfyrwyr sy'n astudio graddau cydanrhydedd israddedig yn y Gyfraith a Gwleidyddiaeth a Gwleidyddiaeth a Chymraeg. Am ragor o wybodaeth, ewch i Chwiliwr Cyrsiau ar-lein Prifysgol Caerdydd.

Blwyddyn 1

  • Y Da, Drwg a’r Gwleidyddol  (20 credyd)

Blwyddyn 2

  • Credoau'r Cymru (20 credyd)
  • O'r Groegiaid i Gymru (20 credyd)
  • Hanes Athroniaeth Wleidyddol (20 credyd)

Blwyddyn 3

  • Traethawd Gwleidyddiaeth (20 credyd)
  • Cyfiawnder Byd-eang (20 credyd)
  • Cenedlaetholdeb, Crefydd a Chyfiawnder: Hanes Athroniaeth yr 20fed Ganrif yng Nghymru (20 credyd)

Ôl-raddedigion

Gall ein myfyrwyr ôl-raddedig astudio trwy gyfrwng y Gymraeg hefyd. Darllenwch am ein hennillydd Ysgoloriaeth PhD y Coleg Cymraeg Rhianwen Daniel, fydd yn astudio dan oruchwyliaeth yr Athro Richard Wyn Jones a Dr Huw Williams

Mae astudio gwleidyddiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg wedi agor y drws i bob math o swyddi difyr a gwerthchweil. Yn aelodau etholedig yn Senedd ym Mae Caerdydd a San Steffan, yn weithwyr blaenllaw yn y sectorau gwirfoddol a phreifat, yn arweinwyr cymdeithas a hyd yn oed yn y pulpud. Mae yna gynfyfyrwyr sydd wedi cael budd mawr o astudio gwleidyddiaeth drwy’r Gymraeg. Ymunwch â nhw!

Yr Athro Richard Wyn Jones

Ysgoloriaethau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, sy'n ariannu addysg Cyfrwng Cymraeg mewn sefydliadau Addysg Uwch, yn cynnig nifer o ysgoloriaethau i'r rhai hynny sy'n astudio eu graddau yn rhannol neu'n gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg.

Prif Ysgoloriaethau

Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cynnig ysgoloriaethau gwerth £3,000 dros gyfnod o dair blynedd i israddedigion sy’n astudio o leiaf 66% o'u cwrs neu 80 credyd y flwyddyn drwy gyfrwng y Gymraeg.

Ysgoloriaethau cymhelliant

Mae’r Ysgoloriaethau Cymhelliant o £500 y flwyddyn, (neu hyd at £1,500 dros dair blynedd), yn agored i fyfyrwyr sy’n bwriadu astudio o leiaf 40 credyd y flwyddyn o’u cyrsiau gradd drwy gyfrwng y Gymraeg.

Ysgoloriaethau William Salesbury

Bob blwyddyn mae dau fyfyriwr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sy'n astudio 100% o'u cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg yn ennill ysgoloriaeth o £5,000 o gronfa William Salesbury.

Ysgoloriaethau Meistr

Mae Ysgoloriaethau Meistr hyd at £3,000 y flwyddyn ar gael i fyfyrwyr sy'n astudio o leiaf 60 credyd drwy gyfrwng y Gymraeg ac sy'n cyflwyno eu traethodau ymchwil yn Gymraeg.

Am ragor o wybodaeth ewch i wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.