Ewch i’r prif gynnwys

Duty Solicitors

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Mae aelodaeth Cam 1 o Gynllun Achredu Cyfreithiad Troseddol (CLAS) Cymdeithas y Cyfreithwyr yn ofynnol gan yr Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol er mwyn cael cymryd rhan yn y cynllun cyfreithiwr ar ddyletswydd ar gyfer gorsafoedd heddlu a llysoedd yr ynadon.

Rhaid i gyfreithwyr sicrhau dau gymhwyster ar wahân i fodloni Cymdeithas y Gyfraith eu bod yn addas i ddod yn aelod o CLAS. Y rhain yw Cymhwyster Gorsaf yr Heddlu (PSQ) a Chymhwyster Llys yr Ynadon (MCQ).

Caiff cyfreithwyr sy'n cwblhau asesiadau Cynllun Achredu Cynrychiolwyr Gorsafoedd yr Heddlu'n llwyddiannus cyn cymhwyso'n gyfreithiwr wneud cais i Gymdeithas y Cyfreithwyr i gael eu heithrio o'r asesiadau PSQ.

Gall bargyfreithwyr ddod yn aelodau o CLAS. Os ydych chi'n fargyfreithiwr sy'n dymuno ymuno â'r Cynllun Cyfreithiwr ar Ddyletswydd, mae angen i chi gwblhau Cynllun Achredu Cynrychiolwyr Gorsafoedd yr Heddlu (PSRAS) a Chymhwyster Llys yr Ynadon. Yna dylech ymgeisio i'r Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol i gael eich cynnwys ar y rota.

Cymhwyster Llys yr Ynadon

Mae'r cynllun hwn yn ymdrin ag achredu cyfreithwyr sy'n cynrychioli diffynyddion yn Llys yr Ynadon.

Mae Cymhwyster Llys yr Ynadon (MCQ) yn un elfen o Gynllun Achredu Ymgyfreitha Troseddol Cymdeithas y Cyfreithwyr ar gyfer cyfreithwyr ar ddyletswydd.

Mae'r cynllun yn profi gwybodaeth a dealltwriaeth y cyfreithiwr o gyfraith a gweithdrefnau trosedd, cyfraith a gweithdrefn mewnfudo berthnasol a rheolau tystiolaeth. Ceir manylion llawn y safonau cymhwysedd sydd eu hangen ar wefan Cymdeithas y Cyfreithwyr.

Ceir dwy elfen yn y cynllun a gaiff eu hasesu. Rhaid cwblhau'r ddwy’n llwyddiannus. Y rhain yw'r Portffolio o Achosion a'r Asesiad Cyfweliad ac Eiriolaeth.

Gellir cwblhau elfennau'r asesiad mewn unrhyw drefn, ond rhaid cwblhau'r ail yn llwyddiannus o fewn blwyddyn i basio'r elfen gyntaf

Amserlen cynllun achredu Cymhwyster Llys yr Ynadon

Gweler ein hamserlen asesu a hyfforddi.

  • Rhaid i chi gofrestru gyda ni o leiaf 10 diwrnod cyn y dyddiad hyfforddi/asesu a ddewiswch.
  • Os byddwch yn canslo llai na 14 diwrnod cyn y dyddiad hyfforddi/asesu bydd rhaid talu'r ffi gyflawn.
  • Bydd gweddill y ffioedd ar gyfer pob asesiad neu sesiwn hyfforddi'n daladwy bythefnos cyn y disgwylir i chi ymgymryd â'r asesiad neu'r sesiwn hyfforddi

Sut i wneud cais

Cwblhewch ein ffurflen gofrestru a'i hanfon i:

Uned Datblygiad Proffesiynol
Canolfan Astudiaethau Cyfreithiol Proffesiynol
Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth Caerdydd
Prifysgol Caerdydd
Rhodfa'r Amgueddfa
Caerdydd
CF10 3AX

MCQ registration form 2024

MCQ Registration form

Coronavirus (COVID-19)

Diweddariad Coronafeirws (COVID-19)

Cyflwyno gwaith yn electronig

Rydym ni bellach yn derbyn portffolios a gyflwynir yn electronig. Ebostiwch Diane Davies , Gweinyddydd yr Uned Datblygiad Proffesiynol, i drafod eich cyflwyniad.

Terfynau amser

Mae rhai terfynau amser wedi'u hymestyn. Cysylltwch â ni i drafod hyn os yw COVID 19 wedi effeithio ar eich cynnydd.

Presenoldeb o bell yng ngorsaf yr heddlu

Gallwch gynnwys yr achosion hyn yn eich Portffolio o Achosion. Cysylltwch â ni i gael y manylion. Gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn protocol Cymdeithas y Cyfreithwyr.

Cysylltu â ni

I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â:

Professional Development Unit