Achrediad Gorsaf Heddlu
Rydym yn cynnig sawl cwrs hyfforddi er mwyn eich cynorthwyo i ennill achrediad fel Cynrychiolydd Gorsaf Heddlu.
Mae pob un o’n cyrsiau wedi’u hachredu gan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr wrth gymhwyso ar gyfer Datblygiad Proffesiynol Parhaus.
Mae'r cynllun hwn yn delio gydag achrediad cynrychiolwyr sy'n cynghori rhai a ddrwgdybir mewn gorsafoedd heddlu. Mae rhan fwyaf o gwmnïau cyfreithwyr sy'n ymgymryd â gwaith cymorth cyfreithiol yn defnyddio cynrychiolwyr achredadwy er mwyn cynghori a chefnogi cleientiaid yng ngorsafoedd yr heddlu.
Mae yna dair elfen asesu sy'n dod o dan y cynllun. Mae'n rhaid cwblhau pob un o'r canlynol:
- arholiad ysgrifenedig
- portfolio achosion
- Prawf Digwyddiadau Critigol (CIT).
Cofrestru
Er mwyn cofrestru:
- Cwbhlewch ffurflen gofrestru.
- Rhaid talu'r blaendal o £200, neu'r ffioedd llawn os oes well gennych wneud hynny.
- Coladu unrhyw ddogfennau cefnogol (e.e y tystygrif i gefnogi eich cais am eithriad rhag sefyll yr arholiad).
Gallwch ebostio'r rhain i ni ar law-pdu@cardiff.ac.uk.
Telerau ac amodau
Dylech nodi:
- Rhaid i chi gofrestru o leiaf pythefnos cyn yr asesiad cyntaf neu'r sesiwn hyfforddiant hoffech gymryd rhan ynddo.
- Nid ydym yn derbyn ffurflenni cofrestru drwy ffacs neu ebost.
- Mae gan pob cynllun ffurflen gofrestru gwahanol.
- Rhaid talu ffioedd yr asesiad neu sesiwn hyfforddi pythefnos cyn eich bod yn ymgymryd â nhw.
Cysylltu
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: